Taith Astudio Cyswllt Ffermio - Grŵp Trafod Llaeth Pentagon

Grŵp Trafod Llaeth Pentagon

Taith Astudio Sir Gaer

23 - 25 Ionawr 2020


1    Cefndir

 

Mae’r Grŵp Trafod Llaeth Pentagon yn cynnwys aelodau o grŵp meincnodi a ffermwyr buchesi llaeth mawr eraill o Dde Cymru. Mae’r aelodau yn cyfarfod yn aml i arolygu a thrafod eu systemau ffermio a’u perfformiad ariannol. Roedd y grŵp yn teimlo fod angen iddynt herio’u hunain er mwyn symud ymlaen. Felly, aethant ati i chwilio am ffermwyr tebyg o ran math a maint sy’n arddangos arfer da’r diwydiant y tu allan i’r grŵp uniongyrchol i ddysgu mwy ganddynt.

Nodau ac amcanion yr ymweliad oedd cymharu a datblygu perthnasoedd gyda ffermwyr o du allan i’w grŵp eu hunain gan herio’u harferion ffermio eu hunain. Y prif bwyslais oedd cyfarfod â ffermwyr a oedd yn cynhyrchu llawer o laeth o safon gyda chostau porthiant isel.


2    Amserlen

2.1    Diwrnod 1

Gwnaethom adael Caerfyrddin fore Iau am 8:00 cyn dechrau ein ffordd tuag at Fferm Pryddbwyll ger Llangedwyn ym Mhowys.

Wrth i ni gyrraedd Fferm Pryddbwyll, daeth y perchennog, Martin Evans, allan i gwrdd â ni. Gwnaethom fwynhau ‘paned o de a bisged mewn hen adeilad ffrâm bortal a oedd wedi’i drawsnewid i swyddfa fferm gan Martin, lle buom yn trafod strwythur ei fusnes. 

Gadawodd Martin yr ysgol pan oedd yn 16 mlwydd oed ac mae bellach wedi datblygu uned laeth ac wedi arallgyfeirio i fentrau dofednod a thwristiaeth ar ôl datblygu hen dai fferm ac adeiladau fferm i dai gwyliau. Mae Martin hefyd yn rhedeg busnes contractio amaethyddol yn ogystal â busnes adeiladu amaethyddol. 

Dechreuon ni gyda thaith o amgylch yr uned ddofednod. Dangosodd Martin y boeler sglodion pren sy’n cael ei ddefnyddio i wresogi’r uned ddofednod, a buom yn trafod yr agweddau economaidd o fagu dofednod. Yna, aethom ni o amgylch yr iard lle mae offer y busnes contractio amaethyddol yn cael ei gadw. Roeddwn yn synnu bod y cyfraddau contractio yn debyg i’r rhai yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Roedd y safle hefyd  yn cael ei ddefnyddio ar gyfer magu da byw, gydag adeiladau sylweddol. Yna, aethom at y tŷ fferm roedd Martin wedi ei drawsnewid i dŷ gwyliau.

Aeth Martin â ni am daith o amgylch yr uned laeth, sydd â chynhyrchiant uchel ar gyfartaledd gyda chostau porthiant isel. Roedd Martin yn ceisio adeiladu sied newydd er mwyn creu lle ar gyfer ehangu ymhellach. Roedd ffrâm yr adeilad yn ail-law ac roedd wedi cael ei gyfaddasu i adeilad da byw.

Fe wnaethom adael fferm Martin am 15:00 cyn dechrau ar ein ffordd i fferm John Allwood, Huntingdon Hall, sydd wedi’i lleoli ger Caer. Aeth John â ni am daith o amgylch yr uned, sydd yn cynnwys buches fawr, gynhyrchiol gyda chostau porthiant isel. Roedd y cyfleusterau yn wych, gan hwyluso arferion rheoli’r fuches. Buom yn edrych ar y clampiau silwair a thrafod y porthiant o safon uchel a gynhyrchwyd ar y fferm, gan gynnwys maglys. Hefyd, buom yn trafod yr heriau sy’n gysylltiedig â ffermio ger ardal boblog a logisteg symud porthiant a thail drwy ganol Caer.

Fe wnaethom ni adael y fferm am 17:30 a mynd at y gwesty, ar gyrion Caer, cyn mynd i wrando ar gyflwyniad gan Genus a oedd yn trafod gwerthoedd a buddiannau profi genomeg.

Pethau a ddysgwyd:

  • Yr her o reoli busnes sydd wedi arallgyfeirio a rheoli staff.
  • Pwysigrwydd porthiant o ansawdd uchel wrth leihau costau cynhyrchiant gan sicrhau cynhyrchiant uchel.
  • Potensial profion genomeg a pherfformiad anifeiliaid yn y dyfodol.

2.2    Diwrnod 2

Ar ôl pryd da o frecwast, teithiom ni i Grosvenor Farms, sef uned laeth blaenllaw’r Dug San Steffan. 

Aeth cyfarwyddwr y fferm â ni ar daith o amgylch yr unedau llaeth a’r gwartheg sych. Mae gan yr uned 2,100 o wartheg a llaeth a lloi, a chynhyrchiant y fuches ar gyfartaledd yw 12,300 litr. Gan ddefnyddio porthiant o safon uchel, maent yn sicrhau cynhyrchiant uwch drwy ddefnyddio lefelau is o ddwysfwydydd sydd wedi’u prynu.

Aethom i weld y parlwr godro, gan drafod trefn y parlwr, yn ogystal â gweld y casgliad gwych o siediau.
 

 

Mae’r uned yn elwa o giwbiclau tywod dwfn, sydd wedi gwneud gwahaniad tywod yn angenrheidiol. Roedd aelodau’r grŵp yn hynod o awyddus i weld y gwahanwr, sydd â gronynnau bach i helpu’r broses wahanu, ac mae’n ailgylchu 70% o’r tywod, o ganlyniad.

Gweler y system wahanu isod.
 

 

Pwysleisiodd yr ymweliad bwysigrwydd defnyddio porthiant o safon uchel i leihau costau porthiant a brynir i mewn.

Buom yn trafod byddion cynnal profion genomeg a’r polisi rheoli staff yn Grosvenor Farms.

Yna,  fe wneaethom adael Ffermydd Grosvenor gan deithio at ein hymweliad prynhawn yn Ffermydd Bubney. Cawsom fwyd ar y ffordd cyn cael ein cyfarch gan berchennog y fferm, Andrew Evans.

Aeth Andrew â ni am daith o amgylch yr uned laeth, gyda’r fuches yn cynhyrchu 12,500 litr ar gyfartaledd, gyda chostau porthiant isel. Buom yn edrych ar y dogn bwyd a chyfansoddiad y diet, yn ogystal â phwysigrwydd defnyddio porthiant o safon uchel i leihau costau porthiant a brynir i mewn. Roeddem ni’n cytuno ar bwysigrwydd cael tir o safon uchel ar gael o amgylch y fferm a sut oedd hyn, ynghyd â’i offer ei hun, wedi galluogi Andrew i gynhyrchu porthiant o safon uchel. Ers i’w gontractwr ei adael i lawr, defnyddiodd Andrew'r ffioedd contractio i brynu ei offer ei hun a dod yn hunangynhaliol.

Pethau a ddysgwyd:

  • Pwysigrwydd cael cyfleusterau da a rheoli staff.
  • Pwysigrwydd ac argaeledd tir da i gynhyrchu porthiant o safon uchel, er mwyn cynnal cynhyrchiant uchel gan leihau costau porthiant a brynir i mewn.
  • Profion Genomeg a’r rôl y bydd yn ei chwarae yn y dyfodol wrth wella proffidioldeb.

2.3    Diwrnod 3

Wrth i ni adael Caer, aethom ati i ymweld ag un fferm olaf gyda Richard Bowdler, sy’n rhedeg dwy fuches laeth gyda 1,100 o wartheg yn cael eu ffermio o fewn system reoli syml iawn. Roedd gan y buchesi cynhyrchiol gostau porthiant isel.

Roedd Richard yn ffermio ar ddau safle, gydag un ohonynt wedi’i rhentu. Roedd hi’n ddiddorol gweld sut oedd y busnes ffermio wedi’i ehangu, gan ddefnyddio unedau a thir sydd wedi’u rhentu ar gytundebau Tenantiaeth Busnes Fferm (FBT). Mae Richard yn rheoli’r staff yn y ddwy uned, ond nid oedd ganddo lawer o offer gan ei fod yn defnyddio contractwyr.

Parhaodd y sgwrs dros ginio yn y dafarn leol cyn i ni ddychwelyd i Sir Gaerfyrddin.

Pethau a ddysgwyd:

  • Cadw pethau’n syml.
  • Mae cyfleoedd i gael i rentu ffermydd dan gytundeb tenantiaeth busnes fferm i ehangu heb ennyn gwariant cyfalaf arwyddocaol.
  • Cael digon o wartheg i gynnal buches laeth symudol (flying herd).
  • Cynhyrchiant uchel gyda llai o gostau porthiant.

3    Y camau nesaf

Yn ystod y tri diwrnod, gwnaethom ddysgu llawer o wybodaeth ddefnyddiol. Roeddem ni’n gallu cymharu ein busnesau ni gyda busnesau eraill o faint tebyg, a sut wnaethon nhw ddatblygu ac addasu eu busnesau.

Mae aelodau’r grŵp wedi eu bywiogi gan y daith, ac mae hyn wedi’u hysgogi nhw i asesu eu harferion ffermio eu hunain a ffyrdd y gallant fod yn fwy effeithlon. Pwysleisiodd y daith yr angen i gynhyrchu porthiant o safon uchel a lleihau costau porthiant.

 

Camau gweithredu at y dyfodol

  • Arolygu dognau porthiant cyfredol a lleihau costau dwysfwydydd gan gynyddu mewnlif porthiant.
  • Cynyddu porthiant o safon uwch gan leihau costau porthiant a brynir i mewn.
  • Ystyried newidiadau porthiant a bwyd llaith.
  • Mae taith astudio arall wedi’i drefnu i ymweld â ffermydd sy’n cynhyrchu porthiant o safon uchel gan gynnwys cynhyrchu maglys i wella perfformiad technegol.
  • Chwilio am gyngor technegol pellach.
  • Datblygu perthynas sy’n para hirach gyda’r ffermydd, parhau i rannu arfer da ac ystyried ffurfio grŵp meincnodi ehangach i hyrwyddo trosglwyddo gwybodaeth.