Taith Astudio Cyswllt Ffermio - Grwpiau trafod bîff a defaid De Cymru

Ariannwyd trwy raglen y Gwasanaeth Trosglwyddo Gwybodaeth, Arloesedd a Chynghori dan Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014 - 2020

Grwpiau trafod bîff a defaid De Cymru

Cernyw

3 - 4 Mai 2022


1    Cefndir

Mae grwpiau trafod defaid De Cymru a bîff Gŵyr wedi cael eu hwyluso gan y Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio lleol, Hannah Wright, am nifer o flynyddoedd, ac maent wedi rhoi’r rhan fwyaf o’r pwyslais yn y cyfarfodydd ar leihau costau mewnbynnau, gyda’r nod o sicrhau’r allbynnau mwyaf. Gan fod y ddau grŵp trafod yn dod i ben yn Awst 2022, roedd ganddynt ddiddordeb mewn cael taith astudio i ymweld â ffermydd yn ne-orllewin Lloegr.

Nod yr ymweliad oedd dysgu a chael gwybodaeth gan ffermwyr sydd wedi gwneud penderfyniadau busnes allweddol am eu systemau ffermio er mwyn gwella effeithlonrwydd eu busnes a’u mentrau. Bwriad y ddau ymweliad oedd rhoi gwybodaeth am:

  • Arloesedd ac arallgyfeirio
  • Statws iechyd a lles anifeiliaid uchel
  • Geneteg da byw
  • Meincnodi
  • Defnyddio glaswellt
  • Ôl troed carbon a chamau bioddiogelwch fferm
  • Polisïau amgylcheddol

Y prif ddeilliannau dysgu o’r ymweliad astudio i’r rhai oedd yn bresennol oedd:

  • Cael gwybodaeth am y gwahanol systemau ffermio, gan gynnwys pori, hwsmonaeth, maethiad, perfformiad a chofnodi data, a gweld a oedd unrhyw newidiadau posibl y gallai’r ffermwyr eu gwneud i’w systemau eu hunain yng Nghymru. 
  • Ysbrydoli’r grŵp i fentro rhagor trwy edrych ar wahanol brosiectau arallgyfeirio a llunio perthynas â defnyddwyr posibl. 
  • Gwella gwybodaeth y grŵp am dechnoleg newydd o ran rheoli glaswelltir/pridd, pori manwl gywir – yn neilltuol am ôl troed carbon – a chynlluniau amaethyddol amgylcheddol.

1.1    Yn bresennol

Dan Pritchard
Lloyd Williams
Rhys Edwards
Jacob Anthony
Jonathan Howells
David John
Jennifer Roberts
Hannah Wright

 

2    Rhaglen

2.1    Diwrnod 1 - 3 Mai 2022. Dupath Farm. Adrian Coombe

Adrian Coombe – Dupath Farm

Cyrhaeddodd y grŵp Adrian am 2.30pm ar 3 Mai ar ôl taith bedair awr mewn bws o dde Cymru i lawr i Gernyw. Rhoddodd Adrian a’i dad Peter groeso cynnes i’r grŵp wrth i ni gyrraedd a rhoi taith fanwl o’r fferm.

  • Fferm 360 erw, 90% yn berchen i’r teulu, yn cynnwys mentrau tir âr, tatws, defaid a bîff
  • Nifer y mamogiaid: 540 o ddefaid croes y Gogledd, gyda 120 o hesbinod, y cyfan wedi eu prynu ar un fferm. Mae’r brif ddiadell i gyd yn rhan o’r prosiect ‘Cymharu Hyrddod’, ac mae mwyafrif yr ŵyn yn cael eu gwerthu’n uniongyrchol i’w lladd yn Dunbia, Llanybydder.
  • Nifer y gwartheg: 127 o wartheg Aberdeen Angus o’r diwydiant llaeth yn bennaf. Mae gan Dupath Farm uned bori T.B. ar wahân ar gyfer 100 o loeau wedi eu diddyfnu. Y cyfan yn cael tag EID wrth gyrraedd a thag BVD os byddant yn dod o fferm lle nad yw’r statws yn hysbys. Popeth yn cael ei orffen ar y fferm a’i werthu’n uniongyrchol i’w ladd.
  • Menter dir âr yn cynnwys 37 erw o farlys gaeaf, 13 erw o geirch gaeaf, 19 erw o farlys gwanwyn a phedair erw o datws.
  • Arallgyfeirio: Bwyler goed biomas 60kW. System baneli solar 3x 4kW. Siop fferm fechan a ddechreuwyd gan dad Adrian, lle maent yn gwerthu 850 o goed Nadolig. 
  • Nod y busnes oedd gwella’r rheolaeth ar laswelltir ac effeithlonrwydd cyffredinol ar draws y busnes
  • Fferm Strategol AHDB 

Mae Adrian wedi canolbwyntio llawer ar ei systemau rheoli pori a statws iechyd yr anifeiliaid, gan hefyd edrych ar ddewisiadau arallgyfeirio gwahanol i helpu i sicrhau dyfodol ei fusnes teuluol. Wrth fod yn rhan o raglen Fferm Strategol AHDB, mae’n awyddus i drosglwyddo unrhyw wybodaeth y mae wedi ei chael i ffermwyr eraill sy’n gobeithio gwella eu busnesau yn y meysydd yma.

Trafododd y grŵp eu hymweliad â Dupath Farm ar y daith awr i’r gwesty, a thrafod yn fanwl agweddau iechyd a rheoli busnes Adrian.

 

 

 

 

 

 

2.2   Diwrnod 2 - 4 Mai. Trefranck Farm. Matt a Pippa Smith

Matt a Pippa Smith – Trefranck Farm

Gadawodd y grŵp y gwesty am 9am a theithio am awr yn y bws i Trefranck Farm, lle cawsant groeso cynnes eto gan Matt a Pippa a’u tîm. Cychwynnodd y grŵp eu taith trwy gael cyflwyniad yn sied drin gwlân Matt, a adeiladodd ei hun, am eu system ffermio a’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

  • 125ha yn berchen iddynt a 53ha ar rent.
  • Diadell o 1000 o famogiaid Romney.
  • Y rhan fwyaf o’r ddiadell yn cael eu gwerthu fel stoc magu gyda dim ond cyfran fechan (500 oen yn fras) yn cael eu gorffen ar y fferm.
  • Mae ymdrechu i wella’r ddiadell yn barhaus, magu ar gyfer dibynadwyedd, yn benodol yn ymwneud â gwrthedd anthelmintig yn bwyslais allweddol, meddai Matt a Pip, gydag unrhyw anifail yn cael ei ddewis i aros ar y fferm yn bennaf ar y gallu i wrthsefyll llyngyr. Y gallu i wrthsefyll yn hytrach na gwrthedd o ran eu cynllun trin llyngyr, ar sail cyfraddau tyfu’r ŵyn.
  • System bori. System bori cylchdro ar gyfer y defaid ar gymysgedd ysgellog, llyriaid, meillion a rhyg. Wedi gweithio llawer gyda Precision Grazing i sefydlu eu system.
  • Penderfyniadau busnes ar sail data – yn arbennig yn ymwneud â pholisi magu, gydag anifeiliaid yn cael eu pwyso’n gyson i ddilyn cynnydd pwysau dyddiol, tra bod geneteg wedi ei fewnforio yn cael ei ddefnyddio gyda golwg ar wella perfformiad y stoc. 
  • Wedi arallgyfeirio i gynhyrchu cig carw nifer o flynyddoedd yn ôl, ac wedi adeiladu lladd-dy i’r diben ar y fferm. 600 o geirw ar hyn o bryd.
  • Yn ddiweddar, mae Matt wedi dechrau cynllun arallgyfeirio newydd ar y fferm trwy gynnig dyddiau hyfforddi cneifio, i ddysgu a chefnogi newydd-ddyfodiaid a ffermwyr ifanc sydd am ddechrau gweithio mewn amaethyddiaeth. Mae hefyd wedi gwneud llawer o ymchwil yn ymwneud â’r modd y mae gwlân yn storio carbon i helpu i hyrwyddo’r cynnyrch i ddiwydiannau eraill.
  • Dyfodol ffermio ac arloesedd yw’r penderfyniadau busnes craidd i Matt a Pippa.

Mae ymgais i helpu ac annog pobl ifanc hefyd yn ysgogiad allweddol i Matt a Pip, gan gynnal teithiau fferm i gogyddion sy’n dangos diddordeb ac yn defnyddio eu cig carw West Country Venison yn eu bwytai, neu groesawu pobl ar brofiad gwaith yn Trefrank tra bod Matt (a gyflawnodd record cneifio byd yn 2016) yn gyson yn rhoi gwersi mewn sied gneifio pedair stand wedi ei hadeiladu i’r diben, a wnaed yn fuan ar ôl i’r pâr gymryd y fferm.

Ar ôl treulio pedair awr gyda Matt a Pip, teithiodd y grŵp yn ôl adref i dde Cymru a threulio llawer o amser yn trafod a chymharu’r ddwy system ffermio yr oeddynt wedi eu gweld. Buont yn ystyried yr agweddau cofnodi data a meincnodi ar y ddau fusnes, oedd yn amlwg iawn ar y ddwy fferm, gan drafod y dulliau pori, maethiad a chadw anifeiliaid dan do ar y ddwy fferm. 

 

 

 

 

 

 

3    Camau Nesaf

Ers dychwelyd o’u taith astudio, mae aelodau’r grŵp wedi ystyried y wybodaeth y maent wedi ei chael a chodi cwestiynau pellach i’w trafod yng ngrŵp WhatsApp eu taith astudio. Mae llawer o aelodau’r grŵp wedi bod yn edrych ar ddewisiadau arallgyfeirio ar gyfer eu busnesau, yn ogystal â chwilio am ragor o gyngor ar wella eu data meincnodi a statws iechyd eu hanifeiliaid.

Hoffai aelodau taith astudio grŵp trafod defaid a bîff De Cymru yn 2022 ddiolch i bawb a wnaeth eu croesawu yng Nghernyw, a gadael iddynt ymweld â’u ffermydd dros y ddau ddiwrnod. Hoffent ddiolch i Cyswllt Ffermio am eu cefnogaeth a’r cyllid tuag at drosglwyddo gwybodaeth, gan fod y daith astudio hon wedi rhoi profiad a gwybodaeth amhrisiadwy iddynt ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.