Ymweliad Astudio Cyswllt Ffermio - Anglesey Grassland Society

Mae'r adroddiad canlynol wedi ei ysgrifennu gan y ffermwyr a'r coedwigwyr a gymerodd ran yn yr ymweliadau. Eu barn hwy eu hunain yn unig sydd wedi'i gynnwys.

Anglesey Grassland Society

Swydd Nottingham a Swydd Lincoln

22ain - 24ain Tachwedd 2016


1      Cefndir

Roeddem ni eisiau archwilio bwydo ‘feedlot’ ar gyfer pesgi gwartheg bîff a buches Limousin pedigri er mwyn edrych ar ffyrdd o wella effeithlonrwydd o ran cynhyrchu bîff.

 

2      Amserlen

2.1       Diwrnod 1

Yn ystod mis Tachwedd 2016, bu aelodau’r Anglesey Grassland Society yn ymweld tair fferm yn ogystal â’r Newark Machinery Show lle gwelom systemau ffermio gwahanol iawn o’i gymharu â’r rhai sy’n seiliedig ar borfa sy’n fwy cyffredin adref. Y fferm gyntaf oedd daliad 1,500 erw James Burnett sy’n pesgi 3,500 o anifeiliaid ar ‘feedlot’ gan ddefnyddio sgil-gynnyrch gwastraff o ffermydd llysiau’r ardal. Yn syth ar ôl cyrraedd y fferm, gwelwyd pentyrrau mawr o foron, pannas, bresych a thatws a death cwestiwn i gefn ein meddyliau – pam bod gymaint dros ben ar ôl diwallu anghenion pobl.

Cedwir tua 1400 o anifeiliaid ar wahanol gyfnodau o’r 12-16 wythnos a gymerir i gyflawni’r pwysau a phesgi gofynnol mewn iardau gwelltog. Ceir cyflenwad helaeth o wellt, sydd eto’n adlewyrchu’r tueddiad i ffermio tir âr yn y siroedd dwyreiniol.

Ar ôl dechrau ar y ‘feedlot’ mae’r gwartheg yn treulio tua thair i bedair wythnos yn addasu i’r diet newydd sydd bob amser yn cynnwys rhywfaint o silwair india corn fel ffynhonnell o ffibr strwythurol a starts, ynghyd â’r sgil-gynnyrch llysiau mwy swmpus. Gwelwyd gwair o ansawdd da – ffynhonnell ar gyfer ffibr hir – yng nghornel pob corlan hefyd, eto’n sicrhau bod y rwmen yn gweithredu’n dda o ganlyniad i’r diet.  Caiff tua 80-90 o anifeiliaid eu cyflenwi i Woodheads yn Spalding bob wythnos.

2.2       Diwrnod 2

Mewn cyferbyniad, daliad 700 erw ar dir bras ysgafn yw’r ail fferm sy’n tyfu grawn a’n cadw buches o wartheg Limousin pedigri. Mae’r fuches Mereside, sy’n eiddo i’r teulu Hazard ,wedi ennill nifer o wobrau yn lleol ac yn genedlaethol. Fferm laeth oedd hon gynt, felly cafodd y sgiliau hwsmonaeth a’r adeiladau eu haddasu ar gyfer y fuches. Un nodwedd amlwg oedd helaethrwydd y gwellt nid yn unig i’w roi dan y gwartheg ond hefyd fel ‘waliau’ ar gyfer y pyllau silwair awyr agored gyda’r hen bwll dan do yn cael ei ddefnyddio fel adeilad cadw gwartheg. Caiff y tir ysgafn fudd mawr o’r tail buarth, eto’n dangos gwerth stoc mewn siroedd dwyreiniol.

Mae’r defnydd o dechnegau megis AI ynghyd â pharatoi’r anifeiliaid gorau ar gyfer trosglwyddo embryo er mwyn cyflymu enillion genetig i gyd yn amlwg ar yr uned, gyda Salers o Ffrainc yn anifeiliaid derbyn rhagorol ar gyfer hyn, gydag un unigolyn yn cael ei defnyddio’n rheolaidd i gario’r embryonau.

Mae offer modern o ieuau hunan-gloi i hwyluso gwaith milfeddygol ac AI, yn ogystal â wagen fwydo ar gyfer cymysgu dognau a chyfleusterau trin gwartheg newydd yn effeithlon iawn o ran trefnu a rheoli’r fuches gan sicrhau amgylchedd gweithio diogel ar gyfer dyn a stoc. Mae’r elfen hon yn bendant wedi cyfrannu at lwyddiant y fuches.

2.3    Diwrnod 3

Y drydedd fferm y bûm yn ymweld oedd fferm Jill a Michael Faulks, brawd a chwaer sy’n rhedeg fferm laeth sy’n cyflenwi Colston Basset Dairy ar gyfer cynhyrchu Caws Stilton. Mae’r teulu hefyd wedi buddsoddi mewn technoleg fodern gyda pheiriannau godro robotaidd a gwthiwr porthiant awtomatig sy’n sicrhau bod digonedd o ddogn 24 awr y dydd, gan gynorthwyo perfformiad anifeiliaid tra’n lleihau costau llafur. Nodwedd a gafodd argraff ar yr aelodau iau o fewn y grŵp oedd y pecyn cyfrifiadurol sy’n darparu adborth ar nifer o elfennau allweddol o ran perfformiad anifeiliaid megis cynnyrch a nifer o ymweliadau godro, yn ogystal â throsglwyddo gwybodaeth ar berfformiad diet. Mae’r elfennau hyn, sy’n cynnwys cilgnoad, yn sicrhau bod yr anifeiliaid yn cyflawni’r gorau o ran cynhyrchiad a lles anifeiliad, eto’n amlygu’r defnydd o dechnoleg fodern, agwedd amlwg o’r daith astudio gyfan.