Ymweliad Astudio Cyswllt Ffermio - Cowbois Clwyd

Cowbois Clwyd

Ymweliad grŵp â Gwlad yr Haf ym mis Mehefin 2019 

10 - 11 Mehefin 2019


1) Y Cefndir

Mae Cowbois Clwyd wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd ers 10 mlynedd erbyn hyn. Mae’r grŵp yn defnyddio systemau godro cyferbyniol, o fuches sy’n lloia mewn bloc yn y gwanwyn i fuches dan do drwy’r flwyddyn gyda godro robotig. Fel grŵp, maent yn cymharu costau cynhyrchu ar sail flynyddol. Dyma oedd pwrpas yr ymweliadau:

Ymweld â dwy system gyferbyniol:

Y buddsoddiadau blaengar diweddaraf mewn porthi/godro robotig a thechnoleg casglu data ar raddfa fasnachol yn Kingshay. Gweld posibilrwydd y dechnoleg hon ar ffermydd y dangoswyr.

Ceisio cael mwy o laeth o borthiant – a yw’n bosibl cael 5000 litr o borthiant?

Rheoli costau mewn busnes sydd â llawer o offer.

Ymweld â dwy fferm dros y ddau ddiwrnod.

 

2) Yr Amserlen

Diwrnod 1 - John Bennett, Thornymarsh Farm, Castle Carey, Gwlad yr Haf, BA7 7NT yn masnachu fel Dairy Decisions Ltd.

Yn ffermio 162 hectar o system yn seiliedig ar laswellt ac yn godro 240 o wartheg (buches gyfenwid dros dro) sy’n lloia yn y ddau brif gyfnod, y gwanwyn a’r hydref. Mae’n gwerthu llaeth ar gontract sail solidau i Barbers, cwmni gwneud caws lleol yn Ne Orllewin Lloegr. Cychwynnodd y fferm fel daliad 24 hectar yn perthyn i’r cyngor; fel tenant cynigiwyd rhydd-ddaliad y fferm iddynt yn ogystal â ffermydd cyfagos eraill. Ar hyn o bryd, maent yn berchen ar 57 hectar ac yn rhentu’r gweddill.

Roedd gan y busnes ddyled uchel a ffigwr rhent o 4.5 ceiniog y litr; roedd hyn yn gofyn canolbwyntio ar gynhyrchu arian i ad-dalu’r ddyled.

Roedd y system yn anarferol am nad oeddent yn magu unrhyw heffrod, roeddent yn prynu’r holl heffrod cadw o fuchesi oedd yn lloia mewn bloc ac yn gwerthu gwartheg nad oeddent mewn patrwm. Mae hyn yn gweithio’n dda mewn blynyddoedd lle mae’r gwahaniaeth ariannol rhwng yr anifail cadw a’r fuwch i’w difa’n isel. Cawsai’r gwartheg i gyd eu cyplu â tharw Aberdeen Angus a chawsai’r lloi eu magu hyd eu pesgi.

Dau o’r prif feysydd ffocws oedd sicrhau’r cynnyrch mwyaf o’r glaswellt – sef 4500 litr ar hyn o bryd sy’n cael ei gyflawni gan y 10% uchaf o gynhyrchwyr, a’r targed oedd 5000 litr. Mae’r pori’n digwydd ar sail gylchol a’r elfennau allweddol yw mesur a chofnodi glaswellt yn wythnosol a sicrhau’r gweddillion dymunol ar ôl pori.

Cost gyfan cynhyrchu llaeth, gan gynnwys y rhent a’r cyllid, oedd 26 cheiniog ac roedd hyn yn gadael elw o 3.2 ceiniog y litr.

Roedd gennym ddiddordeb mewn gwybod sut i ymdrin â’r pwysau y mae dyled yn ei roi ar fusnes a sut i ganolbwyntio ar reoli glaswellt, rheoli costau, a chadw a monitro cyllideb. Dylid cael cynllun a bod yn barod i newid wrth i amgylchiadau newid. Byddwch yn barod i gael eich herio ar eich systemau a’ch arferion am nad oes gan unrhyw un fonopoli ar syniadau ac atebion!

Kingshay – Agri EPI Centre Kingshay, Canolfan Datblygu’r De Orllewin, Bridge Farm, West Bradley, Ynys Wydrin, Gwlad yr Haf BA6 8LU

Uned laeth a sefydlwyd ar safle maes glas yn hydref 2018. Sefydlwyd hon i hybu cynhyrchiad llaeth cynaliadwy’r DU gan ddefnyddio’r data a’r dechnoleg ddiweddaraf. Mae’r ffocws ar arloesi, profi ac arddangos technoleg, gan gynnal lefel uchel o les ac iechyd er mwyn cael cynhyrchiad llaeth proffidiol. Mae’r system wedi’i seilio o amgylch godro robotig ac mae’n integreiddio hyn gyda system bori. Mae’r ganolfan hefyd yn darparu cyfleuster o’r radd flaenaf ar gyfer ymchwil, datblygiad ac arddangos.

Mae mwy o ffermydd llaeth y DU yn newid i odro robotig, a’r prif reswm a roddir am hyn yw’r sialens o ganfod llafur medrus. Datblygwyd godro robotig ar gyfer systemau cadw buches sydd dan do drwy’r flwyddyn. Am mai glaswellt sy’n cael ei bori yw’r bwyd rhataf i wartheg, un o’r prif bethau y mae’r ganolfan yn canolbwyntio arno yw gwartheg sy’n cael eu godro’n robotig ar batrwm pori cylchdro. 2019 yw blwyddyn gyntaf y system ac mae’n cael ei datblygu a’i newid wrth i’r tymor symud yn ei flaen.

Y lle byw ar gyfer y gwartheg yw adeilad o gynllun ac adeiladwaith Iseldiraidd. Mae’r adeilad yn 7 metr o uchder hyd y bondo ac mae wedi’i orchuddio â ffabrig sy’n dryloyw ac yn gadael 20% o oleuni naturiol drwyddo. Mae’r to’n ysgafn felly gellir defnyddio ffrâm ddur ysgafnach o’i gymharu ag adeiladau amaethyddol arferol. Gwelwch y darlun isod.

 

Mae technoleg a data’n allweddol i’r hyn y maent yn ceisio ei arddangos, ac mae 5G yn chwarae rhan bwysig.

Dyma rai o’r technolegau allweddol sy’n cael eu defnyddio:

System ddelweddu 3D prototeip i fesur newidiadau cynyddrannol yn sgôr cyflwr corff y fuwch, a chyfleuster mesuryddion profi llaeth i fesur lefelau progesteron yn y llaeth. Bydd hyn yn canfod statws oestrws y gwartheg,

Technoleg synhwyrydd – gwybodaeth rheoli wedi’i seilio ar dechnoleg synhwyrydd ar draws y fferm gan ddefnyddio cysylltedd cyflymder uchel sy’n cysylltu data ar draws y rhaglen ac yn ei rannu gyda chefnogwyr ehangach y diwydiant.

Amgylchedd wedi’i reoli – adeilad gyda waliau llenni sy’n rheoli’r llif awyr sy’n anelu i gadw tymheredd o 13o C o fewn yr adeilad. Mae hyn yn cael ei reoli o bell drwy ap cwmwl.

Mae eu system robot wedi’i seilio ar ddarparu lefelau uchel o ddata a straen isel i’r fuwch.

System fwydo awtomataidd (bwydo dros y gaeaf) - mae’r system fwydo’n darparu bwyd yn awtomatig i wahanol grwpiau o wartheg hyd at 15 gwaith y diwrnod. (Gwelwch y llun isod o’r silwair yn cael ei fwydo i mewn i’r bocs porthi).

 

Llun isod o’r robotau. 

 

Y canlyniad yw bod technoleg a dulliau casglu data’n symud ymlaen yn gyflym ac mae cysylltedd â 5G yn mynd i fod yn heriol i lawer o ardaloedd gwledig yng Nghymru. Am fod buches o faint cyfartalog yng Nghymru’n llai na gweddill y DU ac yn fwy dibynnol ar lafur teulu, efallai bod rhai ffermwyr yn cael eu denu i ddewis dull penodol o fyw wrth newid y parlwr godro, h.y. heb y rwtîn o orfod bod yno i odro gwartheg ddwywaith y diwrnod. Am fod Cymru’n gweddu orau i dyfu glaswellt, efallai y byddai system robotig gyfunedig sy’n integreiddio system bori’n opsiwn i rai?

Mae hwn yn brosiect gwerth ei ddilyn a chawn weld beth fydd y datblygiadau dros y blynyddoedd.

 

3) Y Camau Nesaf

Y tro nesaf y byddwn yn cyfarfod fel grŵp, byddwn yn adrodd a holi ein gilydd – beth ddysgodd pob aelod a beth sydd i gael ei weithredu?

Rhai o’r syniadau a gododd o’r ymweliad cyntaf oedd cwestiynu’r arian sydd gennym oll wedi’i glymu mewn eitemau cyfalaf, megis peiriannau. Beth yw manteision posibl cael nifer isel o beiriannau, gan eu diweddaru’n rheolaidd er mwyn gostwng costau cynnal a chadw? Canolbwyntio ar gyllideb, llif arian a monitro’r gyllideb. Mesur a chwestiynu/herio popeth. Bod yn agored i ddadansoddiad o’r tu allan a syniadau gwahanol (grŵp trafod). Cynnwys y ‘tîm’ cyfan a’r teulu cyfan yn y cynllun ar gyfer y busnes. Ffocws ar reoli glaswellt - dysgu gan y gorau a chymysgu â nhw.

Mae ffrwythlondeb y fuches mor allweddol ag ydyw rheoli’r glaswellt i gynnal buches broffidiol.

Roedd yr ail ymweliad yn ymwneud fwy â’r dyfodol a’r hyn sydd ar gael ar y rheng flaen ym myd technoleg a’r gallu i ddefnyddio’r dechnoleg hon ar y fferm. Bydd technoleg a data’n allweddol yn ogystal â chysylltedd a’r gallu i ddefnyddio technoleg a dehongli’r data.