Ymweliad Astudio Cyswllt Ffermio - Grŵp Trafod Harlech

Mae'r adroddiad canlynol wedi ei ysgrifennu gan y ffermwyr a'r coedwigwyr a gymerodd ran yn yr ymweliadau. Eu barn hwy eu hunain yn unig sydd wedi'i gynnwys.

 

Yr Alban a Cymbria

Grŵp Trafod Harlech

9fed – 11eg Chwefror 2018 


Cefndir

Mae’r grŵp wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod gwahanol agweddau eu busnesau yn ogystal ag edrych am syniadau a newidiadau posib i wella hyfywedd eu busnesau. O ystyried y cyfnod economaidd anodd presennol a’r newidiadau arfaethedig i daliadau’r Llywodraeth, mae’n hanfodol bod busnesau amaeth yn edrych ar bob opsiwn. Yn dilyn ymweliad Sion Williams, Bowhill, â Gogledd Cymru yn ddiweddar, mynegodd sawl aelod ddiddordeb mewn cynnal ymweliad i weld y datblygiadau sydd wedi cymryd lle ac yn yr arfaeth yn Bowhil. Gan fod y fuches sugno yn cael cyfnod anodd a diddordeb yr aelodau mewn gwahanol fridiau, penderfynnwyd cyfuno’r daith gydag ymweliad â marchnad da byw Cymdeithas Gwartheg Luing yn Castle Douglas ar y dydd Gwener. Oherwydd bod aelodau’r gymuned amaethyddol yn prinhau a’r anhawster i gael rhai i ‘hel a didol diadell’ (yn enwedig ar y mynyddoedd), trefnwyd ymweliad â’r fugeiles, awdur a’r entrepreneur Katy Cropper yn Ucheldir Cymbria. 

Amserlen

Diwrnod 1

Treuliwyd y mwyafrif o’r diwrnod yn teithio i’r Alban. Oherwydd nad yw’r helyw o’r buchesi sugno yng Nghymru yn cynhyrchu elw, mae rhai o aelodau’r grŵp yn ystyried newid bridiau eu buchesi felly’n awyddus i fynychu arwerthiant gwartheg pedigri. Cynhaliwyd yr arwerthiant gan y Gymdeithas Luing yn Castle Douglas. Treuliwyd amser yno, ond er y ni phrynwyd dim y tro hwn, mae nifer o’r aelodau yn bwriadu ymweld buchesi Luing yng Ngogledd Cymru a chael mwy o wybodaeth am allu’r fuwch i fagu a goroesi yn ucheldir Cymru.

Diwrnod 2

Ar yr ail ddiwrnod bu’r grŵp yn ymweld Sion Williams, rheolwr fferm Ystâd Bowhill a leolir ger Selkirk yn Ne’r Alban. Cafwyd diwrnod difyr ac addysgiadol tu hwnt yng nghwmni Sion. I ddechrau, cafwyd cyflwyniad cynhwysfawr a manwl yn swyddfa’r ystad yn egluro strwythur y busnes a’r strategaeth oedd ganddynt i sicrhau bod yr ystad yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae’r penaethiaid a’r rheolwyr yn cyfarfod yn rheolaidd ac mae’n rhaid cyflwyno ffigyrau i gyfiawnhau unrhyw newidiadau o fewn y gyfundrefn. Rhan o swydd Sion fel y rheolwr amaethyddol yw cyflwyno gwybodaeth am bob menter ar wahân a dysgwyd bod cael rhaglen feincnodi yn hanfodol bwysig i sicrhau hyfywedd y gwahanol fentrau o fewn y cwmni. Daeth yn amlwg o’r dechrau bod Sion yn gyfundrefnwr strategol a chraff, gyda gwybodaeth drylwyr ar bob adran a changen y busnes fferm. Yn dilyn y cyflwyniad cawsom daith o amgylch rhai o’r ffermydd oedd dan oruchwyliaeth Sion.

Mae holl ystadau y cwmni yn ymestyn dros 220,000 erw. Yn Bowhill maent yn tyfu 155 erw o haidd y gwanwyn, 25 erw o geirch y gwanwyn a 115 erw o fresych crych ar gyfer pesgi’r ŵyn a bwydo’r gwartheg sugno. Defnyddir wagen gymysgu i fwydo, a chedwir gofnod manwl gyda chostau’r gwahanol fentrau yn cael eu cyfuno i gyfrifo’r gost derfynol. Hefyd, cedwir cofnod manwl o’r holl gynnyrch a dyfir ar y fferm ac a brynir i mewn cyn eu dosbarthu i’r mentrau perthnasol. 

Y Fuches Sugno

Roedd y fenter gwartheg sugno yn cynnwys 500 o wartheg, 200 ohonynt yn wartheg Aberdeen Angus pur gyda statws iechyd ‘premiwm’. Roeddent hefyd yn cynhyrchu stoc bridio pedigri Aberdeen Angus i'w gwerthu i ffermwyr pedigri a masnachol. Mae'r holl wartheg yn lloia yn y gwanwyn dros gyfnod naw wythnos sy’n dechrau ar y 13eg o Fawrth. Cedwir oddeutu 100 o fuchod masnachol gyda statws iechyd premiwm fel anifeiliaid cyflenwi ar gyfer y fuches ac ar gyfer cynhyrchu lloi bîff. Croesir y brid Shorthorn gyda’r Aberdeen Angus. Cedwir 200 o fuchod sugno arall ar y fferm, yn bennaf Shorthorn X sy’n cael eu croesi gyda tharw Charolais. Roedd y gwartheg hyn yn eu blwyddyn gyntaf o statws iechyd premiwm ar y pryd. Nid oes hyblygrwydd nac ystyriaeth o ran unrhyw ddiffygion yn y gwartheg hyn gan eu bod yn cael eu gwerthu’n swynog.

Cedwir gwartheg stôr hefyd a chaiff y lloi eu diddyfnu a'u rhoi ar wellt cyn eu gwerthu. Bydd oddeutu 370 o loi yn mynd trwy'r system hon gydag oddeutu 90 o heffrod yn cael eu cadw, tua 70 yn cael eu gwerthu fel heffrod statws iechyd ‘premiwm’ yn 12-18 mis oed a’r gweddill yn cael eu gwerthu yn ystod y cyfnod troi gwartheg allan. Mae iechyd a diogelwch yn cael sylw manwl a chyson ar y fferm a gwariwyd £20,000 ar gorlannau trin gwartheg yn ddiweddar. Nid oes grantiau ar gael i wneud y math yma o waith yn Yr Alban.  

Y Ddiadell

Ar hyn o bryd maent yn rhedeg 3,600 o famogiaid bridio Pen-ddu’r Alban sy'n cael eu cadw ar rostir grug 5,090 erw yn ogystal â 1,600 o famogiaid croes, yn cynnwys y brid Cheviot, yn Bowhill. Cynhyrchir mamogiaid Pen-ddu pur neu groesiadau. Ceir canran sganio uchel ar y defaid croes, gyda’r Aberdale yn sganio’n 270% a’r Aberfield yn sganio’n 195%.  Anelir i orffen yr wyn yn ifanc, gan besgi cyfran ohonynt ar fresych yn dilyn arbrawf a ddatgelodd eu bod yn pesgi’n gynt ar fresych na dwysfwyd. 

Y Fenter Dofednod

Cedwir 32,000 o ieir dodwy yn Bowhill ar gyfer cynhyrchu wyau maes. Roedd hwn yn brosiect arallgyfeirio gan nad yw'n dibynnu ar gymorthdaliadau amaethyddol. Codwyd yr uned yn 2005 ac mae wedi bod yn ased gwerthfawr i'r busnes gan ei fod yn cyflenwi tail ieir ar gyfer y mentrau glaswelltir a thir âr ar y fferm. Mae hyn yn helpu lleihau costau yn ogystal â bod yn dda i’r amgylchedd gan eu bod yn defnyddio llai o wrteithiau anorganig. Yn y flwyddyn gyntaf roedd y fenter ar ei cholled oherwydd costau uchel o ran prynu grawn a’r pris isel a gafwyd am yr wyau. Erbyn hyn mae’r fenter yn cynhyrchu £150,00 o elw’r flwyddyn. Mae hyn o ganlyniad i amrywiol ffactorau yn cynnwys pris grawn yn gostwng a bod Bowhill wedi ennill cytundeb gyda chwmni sy’n talu’n dda am yr wyau.

Treuliwr Anaerobig

Roedd treuliwr anaerobig anferth wedi ei leoli ar un o’r ffermydd a chafwyd cyfle i weld yr holl broses. Buddsoddwyd £1,400,000 ar gyfer sefydlu’r treuliwr anaerobig ond mae’n cynhyrchu elw blynyddol o £250,000 i’r cwmni. 

Y Fenter Geirw 

Mae buddsoddiad o £250,00 wedi ei neilltuo gan y cwmni i sefydlu menter geirw. Mae’r buddsoddiad hwn yn cynnwys ffensio, offer trin yn ogystal â phrynu 100 o geirw gyda’r bwriad i godi’r nifer i 400 yn y dyfodol. Mae cynllun busnes manwl wedi cael ei greu ac yn ôl rhagolwg ymgynghorydd bydd y fenter wedi cynhyrchu elw o £90,000 ymhen chwe blynedd.

Diolchwyd i Sion Williams am ei amser a’i frwdfrydedd wrth ddangos ac egluro agweddau’r busnes yn ogystal ag amlygu’r toreth o wendidau posib o fewn busnesau amaeth traddodiadol heddiw. Cawsom ddiwrnod i’w gofio a Sion wedi ysgogi meddwl pob aelod o’r grwp i ystyried rhywbeth perthnasol i’w fusnes gartref. 

Diwrnod 3

Teithiodd y grŵp i ucheldir Cymbria i gael cyflwyniad ac arddangosiad o’r grefft o hyfforddi, magu a pharatoi’r ci defaid ar gyfer gwaith mynydd gan Katy Cropper. Mae Katy Cropper wedi arallgyfeirio gan roi arddangosfeydd a hyfforddi ffermwyr a bugeiliaid i drin a thrafod cŵn defaid yn ogystal â hyfforddi a dysgu ei chŵn ei hunan. Katy oedd y fenyw gyntaf i ennill y gyfres deledu ‘One Man and His Dog’ a bu ar banel beirniaid y gystadleuaeth yn 2014. Gyda phrofiad maith o fugeilio ar ucheldiroedd Cymru a Lloegr, mae’n adnabyddus ac yn hynod lwyddiannus yn y grefft o gael y gorau o'i hanifeiliaid. Mae wedi gweithio yn y maes ers dros wyth mlynedd ar hugain bellach ac yn gallu trosglwyddo gwybodaeth i’w chynulleidfa mewn modd deheuig a diddorol. Mwynhaodd y grŵp yr ymweliad a chafwyd mewnwelediad i’r ffyrdd gwahanol o hyfforddi ci defaid. 

Camau Nesaf 

O ganlyniad i’r ymweliad bydd y rhan fwyaf o aelodau’r grŵp yn edrych ar eu busnesau mewn goleuni gwahanol ac yn pwyso a mesur y posibiliadau ar gael iddynt yn ogystal â photensial eu ffermydd gartref. Dysgwyd pa mor bwysig yw cadw cofnodion i sicrhau bod y fenter yn talu ac y dylid edrych ar bob agwedd ac ystyried eich opsiynau yn gyson. Mae rhai o’r aelodau bellach yn ystyried newid brid eu gwartheg ac eraill brid eu defaid. Mae Sion yn sicr wedi ysbrydoli’r grwp a bydd rhai yn edrych i feincnodi yn y dyfodol.

Yn dilyn yr ymweliad mae’r grŵp wedi penderfynu cael noson a chyflwyniad gan Paul Williams, Ffermwr Bîff y Flwyddyn y Farmers Guardian. Mae Paul a Sioned Williams yn ffermwyr blaengar ac yn cofnodi llawer o fanylion yn debyg i’r hyn a wneir yn Bowhill ond ar raddfa llawer llai. Byddant yn darparu gwybodaeth fwy perthnasol ac ymarferol a’r gobaith yw y bydd yn haws i’r aelodau uniaethu o ran eu busnesau gartref. Bydd y grŵp hefyd yn cael cyflwyniad ar y rhaglen Mesur i Reoli Cyswllt Ffermio.