Ymweliad Astudio Cyswllt Ffermio - Myfyrwyr Amaeth a Pheirianneg Glynllifon
Myfyrwyr Amaeth a Pheirianneg Glynllifon.
Dwyrain Lloegr
2 - 5 Mai 2022
1 Cefndir
Taith addysgiadol myfyrwyr coleg Glynllifon i ehangu gwybodaeth am ffermio âr a pheirannau modern.
Ymweliad ag Ystâd Holkham i gwrdd â chyn-fyfyriwr sydd yn rheolwr fferm.
Bwriad hyn yw i’r myfyrwyr fedru gwerthuso opsiynau gwaith ar ôl gadael y coleg.
Ymweld â safle Pencadlys Peiriannau Claas yn Bury St Edmunds i gael cyflwyniad ar y cwmni a sut y maent yn dosbarthu a chefnogi eu peiriannau yn y Deyrnas Unedig.
Ymweliad â sioe LAMMA i weld y peiriannau diweddaraf yn myd amaeth.
Bydd rhan helaeth o’r ymweliadau yn ymrwymo mewn i unedau amaeth, a bydd y ddealltwriaeth a gwybodaeth yn help ar gyfer yr aseiniadau a’r arholiadau sydd i ddod.
1.1 Mynychwyr
Guto Davies
Sion Davies
Caron Hughes
Cai Jones
Efa Jones
Elin Jones
Elis Jones
Gethin Glyn Jones
Lea Jones
Meleri Jones
Morgan Clwyd
Tomos Jones
Owain Endaf Morris
Hefin Owen
Robin Owen
Eban Pari
Robin Pari
Cain Pugh
Ynyr Roberts
Ynyr Rowlands
Iwan Puw Thomas
Noa Hughes
Tomos Price
2 Amserlen
2.1 Diwrnod 1
Ymweliad ag ystâd Houghton Hall yn y bore.
Mae’r ystâd yn cael ei ffermio gan gwmni Cholmondeley farms Limited, gyda bron i 3,800 o erwau yn Norfolk a bron i 2,000 o aceri yn Swydd Gaer. Cafwyd y cyfle i ymweld â’r fferm odro (Village Dairy Farm), oedd yn godro bron i 600 o wartheg Jersey ar system organig, ymweld â’r parlwr, taith oddi amgylch y gwartheg oedd allan yn pori gydag un o reolwyr y fferm, a hefyd gweld a dysgu am y system ŵyna defaid Lleyn oedd ymlaen ar yr ystâd. Yn ogystal, cafwyd hefyd gyfle i gael cyflwyniad ar y fenter tir âr oedd ar yr ystâd a gweld ychydig o’r cnydau a pheiriannau cyn mynd ymlaen heibio i’r plasdŷ i weld y fuches fagu bedigri oedd yn pori allan ar y parciau organig, cyn cael cipolwg sydyn ar y ceirw oedd hefyd ar yr ystâd. Esboniwyd prif bwrpas bod yr ystâd yn cadw stoc oedd oherwydd gweledigaeth yn y Plasty bod angen i genedlaethau fod yn ffermio mewn can mlynedd a mwy ac i wneud hynny, bod yn rhaid rhoi yn ôl i’r tir y maethion a bwydo strwythur y pridd sydd yn cael ei dynnu allan gan y cnydau yn yr ardal.
Parlwr godro 50:100
600 o fuchod Jersey organig
Dril sydd yn hadu ac yn chwynnu heb y defnydd o chwynladdwyr.
Plasdy Houghton
Ymweliad ag ystâd Holkham yn y prynhawn
Ymweld â rheolwr y fferm, sydd yn gyn-fyfyriwr Glynllifon. Cyfle i’r dysgwyr weld y goblygiadau dilyniant gyrfaoedd yn y dyfodol, a hefyd ehangu deallusrwydd o ffermio tirwedd a hinsawdd hollol wahanol i’w ffermydd teuluol adref. Cafwyd y cyfle i ymweld â’r Plasdy, y tŵr sydd wedi ei godi ar dir yr ystâd fel clod i’r Arglwydd Coke, cyn mynd ymlaen i ymweld â’r Treulydd Anaerobig ar yr ystâd, sydd yn cynhyrchu nwy ar gyfer y grid Cenedlaethol, a chael cyflwyniad ar sut y mae’n gweithio a sut mae’r ystâd a’r tir ei hun yn cael budd o’r gwastraff.
Yna, cafwyd y cyfle i ymweld ag iard beiriannau’r ystâd i weld yr ystod eang o wahanol beiriannau, a chael mewnwelediad o sut y mae technoleg yn cael ei defnyddio ar y peiriannau, gyda thasgau cynnal a chadw, a hyd yn oed gyda thasgau mor syml â chadw cofnod o faint o danwydd sydd ar ôl yn y tanc a phryd mae angen archebu mwy. Wedi ymweld â’r peiriannau aethpwyd ymlaen i weld cnydau allan ar y caeau, megis haidd a gwenith, cyn cael aros mewn cae oedd yn cael ei baratoi a’i blannu â thatws. Yr oedd hyn yn gyfle gwych i gael ehangu dealltwriaeth o’r gwaith paratoi sydd yn mynd ymlaen i baratoi gwely pridd ar gyfer y tatws. Yna daeth dau reolwr arall o’r ystâd i ymuno â ni i rannu eu gwybodaeth ac ateb cwestiynau am y cnydau a’r mentrau sydd ymlaen.
Cyn gadael yr ystâd, ymwelwyd â’r fenter stoc, i weld y fuches fagu a’r ddiadell ddefaid yn yr adeiladau newydd. Yr oedd yn dod at ddiwedd y tymor ŵyna yno, ond roedd defaid yn dal yn y siediau.
Y tŵr sydd wedi ei godi fel clod i'r Arglwydd Coke am ei waith i fyd amaeth.
Treulydd anaerobig y fferm.
Cyn-fyfyriwr Glynllifon, Connor Tindall-Read, rheolwr fferm Holkham, yn trafod y peiriannau.
Lloches y fuches fagu yn Holkham.
2.2 Diwrnod 2
Ymweld â CLAAS UK.
Cyfle i ymweld â phencadlys a chanolfan dosbarthu gwneuthurwyr peiriannau byd-eang CLAAS. Cafwyd cyflwyniad gan aelodau staff y cwmni, i drafod hanes y cwmni, gwerthiant a’r dyfodol. Yna cafwyd amser i ymweld â’r peirannau newydd, y gweithdai hyfforddi peirianwyr CLAAS.
Roedd amser i weld y cyfleusterau hyfforddi ac ymddangos i gwsmeriaid newydd, lle anhygoel. Roedd llawer o beiriannau ail law gan y cwmni i ddangos, ac roedd y cynrychiolydd cwmni yn trafod sut a beth oedd y broses o berchnogi peiriant CLAAS.
Cafwyd cinio gwerth chweil ac roedd amser i drafod cyfleoedd o fewn y cwmni a sut mae’r cwmni yn datblygu staff.
Darlith ar gwmni CLAAS.
Derbynfa CLAAS UK.
Rhai o’r peiriannau sydd mewn stoc
Storfa gydrannau.
Ymweld â Mat Harding, Bentley Suffolk – ffarmwr defaid Suffolk sydd wedi ennill ffarmwr defaid arloesol Farmers Weekly yn 2021. Cafwyd cyfle i weld diadell Suffolk arbennig yn ardal Leicester. Roedd Matt, y bugail, yn arloesol iawn iawn yn ei raglen fridio, gan weithio yn ddiflino ar wella rhai agweddau ar y ddiadell. Roedd iechyd y ddiadell yn hanfodol bwysig iddo, ac roedd yn defnyddio systemau recordio i adnabod defaid â’r llinellau bridio cryfaf.
Roedd ei systemau pori hefyd yn arloesol iawn, ac roedd yn grediniwr cryf mewn defnyddio hadau gyda lefelau uchel o berlysiau a meillion. Roedd pob anifail ar y fferm â graen eithriadol arno ac roedd ôl ei waith caled i’w weld yn safon y stoc.
Defaid Suffolk.
Matt yn trafod ei raglen fridio a systemau pori
Matt a'i deulu a myfyrwyr Glynllifon
2.3 Diwrnod 3
Ymweld â’r sioe beiriannau dan do fwyaf yn y Deyrnas Unedig. Roedd yn gyfle arbennig i’r holl ddysgwyr weld y peiriannau diweddaraf yn y diwydiant, ehangu deallusrwydd ar beiriannau gwahanol a hefyd hel syniadau ar gyfer eu huned prosiect yn yr ail flwyddyn. Roedd yn sioe ardderchog, a chafwyd cyfle i drafod a sgwrsio â chwmnïau.
Myfyrwyr Peirianneg yn sioe LAMMA
3 Camau Nesaf
Roedd yr ymweliadau’n dangos systemau modern, newydd a ffyrdd arloesol o amaethu. Yn amlwg o’r ymweliadau roedd bwydo poblogaeth sydd yn tyfu mewn ffordd gynaliadwy yn flaenoriaeth i bawb. Mae hyn yn rhywbeth sydd yn cael ei adlewyrchu gan y myfyrwyr yn eu tasg aseiniad ddiwethaf wrth gwblhau’r dasg mentro ac arallgyfeirio.
Gan fod hanner y dysgwyr yn gadael y coleg eleni, mae rhan helaeth ohonynt wedi gweld syniadau ac opsiynau i wella eu systemau ar y fferm adref. Mae un o’r dysgwyr sydd yn gadael y coleg wedi derbyn swydd lawn-amser ar un o’r ffermydd a fynychwyd ar y trip. Llongyfarchiadau mawr iddo!
Mae’r dysgwyr sydd yn dychwelyd yn ôl i’r coleg ym mis Medi eisoes yn trafod be y cawn fynd ar drip yr hydref!!!
Ar ran y coleg, hoffwn ddiolch o galon i Cyswllt Ffermio am y cymorth ariannol, cymorth hanfodol i rai dysgwyr fedru mynychu’r daith. Hefyd, hoffwn ddiolch i’r holl ymweliadau am y croeso a gafwyd, roedd pob ymweliad yn glod i’r gwaith caled ac ymdrech ddiflino roedd y bobl arloesol hyn yn rhoi i’r gwaith.