David James King
Enw
David James King
Sefydliad
HCR Law
David King yw Dirprwy Bennaeth tîm Cleientiaid Preifat HCR Law yn genedlaethol. Mae ganddo ran ganolog yn y gwaith o gynnal a goruchwylio ystod gynhwysfawr o faterion cleientiaid preifat, gan gynnwys drafftio ewyllysiau, gweinyddu ystadau, cynllunio trethi ac ystadau, drafftio ymddiriedolaethau a gweinyddu ymddiriedolaethau.
Gyda chyfoeth o brofiad, mae David yn gweithredu'n bersonol fel ymddiriedolwr proffesiynol, ysgutor, a dirprwy. Mae'n aml yn gwasanaethu fel gweinyddwr ac ymddiriedolwr annibynnol, sy'n dyst i'w arbenigedd a'i ddidueddrwydd, ac mae'n aelod o Gymdeithas y Gweinyddwyr Annibynnol.
Mae David yn rhoi cyngor arbenigol yn rheolaidd i gleientiaid ar gynllunio eu hystadau a materion treth, gan gydweithio'n agos yn aml â sector amaethyddol y cwmni. Mae ei arbenigeddau'n cynnwys cynghori tirfeddianwyr, ffermwyr, perchnogion busnesau ac entrepreneuriaid, gan eu helpu i lywio tirweddau ariannol a chyfreithiol cymhleth.
Ardaloedd a Gwmpesir
Cymru Gyfan
Ieithoedd
Saesneg