Pam y byddai Adam yn fentor effeithiol
Mae gyrfa Adam wedi cynnwys ffermio (cyfuno ffermio da byw a thyfu cynnyrch ar raddfa cae), garddwriaeth a gweithio gyda mentrau cymunedol.
Cafodd ei fagu ar dyddyn yn Swydd Dyfnaint. Ar ôl bod yn y brifysgol yn Llundain, rhedeg busnes garddwriaeth ar dir rhent, ac ymgymryd â swyddi amrywiol eraill sy’n gysylltiedig â’r sector yn y DU ac Ewrop, symudodd Adam gyda’i deulu i Gymru yn 2020. Yno fe sefydlodd fenter arddwriaeth o’r enw Awen Organics. Ar ôl dod o hyd i safle 25 erw addas ger Nanhyfer yng ngogledd Sir Benfro, aeth ati wedyn i geisio llywio’r rheoliadau cynllunio yn y Parc Cenedlaethol, sicrhau cyllid, cynllunio’r busnes, dadansoddi’r pridd, creu cynllun cnydau, a datblygu marchnadoedd ar gyfer cynnyrch y fferm.
Bedair blynedd yn ddiweddarach, mae’r fferm bellach wedi tyfu i fod yn weithrediad mawr. Mae ganddi offer, seilwaith, systemau rheoli a digon o staff i gynhyrchu’n llwyddiannus ar raddfa sy’n fasnachol hyfyw.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Adam a thîm Awen Organics wedi datblygu arlwy amrywiol ac uchel ei barch. Mae’r busnes yn cyflenwi busnesau lleol a rhai o brif gogyddion mwyaf y DU drwy gyfanwerthwr cenedlaethol. Mae hefyd yn cyflenwi cynllun bocs llysiau lleol. Dros y blynyddoedd, mae Adam hefyd wedi rhedeg cynllun Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned (CSA) a stondinau marchnad ffermwyr. Yn sgil hyn i gyd, mae Adam wedi cael profiad o ystod eang o fodelau gwerthu uniongyrchol.
Mae cnydau o ansawdd yn cael eu tyfu i’r safonau organig uchaf ar gyfer bwytai a chyfanwerthwyr. Mae gan Adam hefyd gryn brofiad o greu cynlluniau cnydau manwl, yn ogystal â thyfu a chynaeafu.
Ar ôl rheoli mentrau garddwriaeth mewn llefydd amrywiol o ran priddoedd, amodau tywydd, marchnadoedd a chyfleoedd, bydd Adam yn fwy na hapus i rannu gyda chi ei brofiadau uniongyrchol. Byddwch yn barod i gael eich annog a’ch ysbrydoli wrth iddo egluro sut cafodd y sgiliau dadansoddol angenrheidiol i bennu opsiynau hyfyw a pharu cnydau â safleoedd. Bydd hefyd yn dweud wrthych sut mae wedi rhoi strategaethau rheoli busnes a marchnata ar waith drwy gydol ei fywyd gwaith.
Mae Adam yn gyfathrebwr da ac yn eiriolwr effeithiol, ac mae wedi bod yn ymwneud â mentrau sy’n cefnogi ac yn eirioli dros ffermio organig ac amaethecolegol trwy Gynghrair y Gweithwyr Tir a La Via Campesina (ECVC) ers blynyddoedd lawer. Roedd y rolau hyn yn cynnwys cynhyrchu deunyddiau addysgol i ffermwyr a thyfwyr, yn ogystal â chynnig eiriolaeth a mentora un-i-un i ffermwyr organig ac amaethecolegol ar raddfa fach.
Y busnes fferm presennol
Mae Awen Organics (Southern Roots Organics gynt) yn fferm organig fasnachol 25 erw yng ngogledd Sir Benfro.
Mae’r busnes yn tyfu 10–12 erw o gnydau organig sy’n cwmpasu o leiaf 200 math o 60 cnwd gwahanol. Mae’r rhain yn amrywio o gnydau traddodiadol i fathau mwy anarferol o arbenigol fel agretti a radicchio. Mae planhigion yn cael eu tyfu o hadau mewn twnnel lluosogi pwrpasol. Mae'r cnydau'n cael eu tyfu mewn tair prif system:
8 erw o lysiau ar raddfa cae mewn system amaethgoedwigaeth gan ddefnyddio peiriannau i wneud y mwyaf o effeithlonrwydd cynhyrchu a gwrtaith gwyrdd ar gyfer y rhan fwyaf o'r ffrwythlondeb;
2 erw o welyau gardd farchnad mwy traddodiadol, llai gyda phlanhigfeydd tynnach a chnydau lluosog fesul tymor ar gyfer cnydau mwy sensitif;
twnnel polythen ar gyfer cnydau’r haf ac i ymestyn y tymor.•
Yn lleol a thrwy ddosbarthwr cyfanwerthu cenedlaethol, mae cwsmeriaid yn cynnwys bwytai, tafarndai, caffis, cartrefi, cynlluniau bocs llysiau a siopau fferm.
Mae’r busnes yn masnachu drwy gydol y flwyddyn – gyda chyfeiriadedd tymhorol cryf yn ystod misoedd yr haf. Ar anterth y tymor mae'r fferm yn cyflogi 8 tyfwr.
Cymwysterau/cyflawniadau/profiad
2016 – hyd yn hyn: Cyfarwyddwr a thyfwr yn Awen Organics (Southern Roots Organics gynt).
2023: Canolfan Ymchwil Organig – cyrraedd rhestr fer gwobr 'Tyfwr Organig Ifanc y Flwyddyn'.
2012 – 2023: Sefydlydd a Chyfarwyddwr Cynghrair y Gweithwyr Tir.
2016 – 2019: Rheolwr fferm 45 erw yn Dorset yn cynhyrchu defaid, moch a llysiau ar gyfer marchnadoedd lleol.
2015 – 2017: Aelod o Bwyllgor Cydlynu’r European Coordination Via Campesina (ECVC) (sy'n cynrychioli ffermio agroecolegol ar y lefel Ewropeaidd).
2012 – 2016: Cyfarwyddwr, Cydlynydd Hyfforddi a Datblygu Dosbarthu Cynnyrch yn Organiclea Community Growers yn Llundain.
2011 – 12: Hyfforddeiaeth mewn garddwriaeth organig yn nhyfwyr cymunedol Organiclea.
2012: Garddwriaeth organig Lefel 2
2007 – 2010: BA (Dosbarth Cyntaf) mewn Anthropoleg Gymdeithasol yn Ysgol Astudiaethau Dwyreiniol ac Affricanaidd Llundain (gan ganolbwyntio ar fwyd a ffermio).
Awgrymiadau am lwyddiant busnes
“Gofynnwch i chi’ch hun lle rydych chi am i'r busnes fod ymhen pum mlynedd. Datblygwch weledigaeth o lwyddiant a'i gefnogi gyda chynllun busnes – heb wybod ble rydych chi eisiau mynd, mae'n anodd dod o hyd i'r llwybr cywir.”
“Dewch o hyd i ffordd seml o gadw cofnodion dyddiol o'ch llwyddiannau, methiannau a safbwyntiau – mae'n hawdd colli'r syniadau gorau mewn diwrnod prysur.”
“Mae ffermio yn gallu bod yn flinedig ac yn llethol – gosodwch ffiniau i ddatblygu perthynas gadarnhaol â'r gwaith. Gyda meddwl clir, byddwch yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn arbed amser, arian a straen i chi'ch hun.”