Pam y byddai Mandy yn fentor effeithiol

  • Mae Dr Mandy Lloyd yn cyfuno arbenigedd academaidd â ffermio ymarferol a bywyd y teulu. Mae hi'n brif archwilydd ac uwch ymchwilydd gyda Phrifysgol Aberystwyth, gan arbenigo mewn metabolomeg, ail-fformiwleiddio bwyd, iechyd pobl ac amaethyddiaeth gynaliadwy. Yn ymarferol, mae ei ffocws ar fwydydd ffwythiannol, arallgyfeirio cnydau a systemau ffermio cydnerth.

  • Ochr yn ochr â'r byd academaidd, mae Mandy a'i rhieni'n rhedeg fferm draddodiadol 150 erw'r teulu yn Cleobury, ger Trefyclo lle mae hi'n magu ei theulu ifanc. Hefyd, cydsefydlodd Cleobury PM (Rheoli Prosiectau) gyda ffrind ac ysgolhaig Nuffield yn 2025, gan gynnig ymgynghoriaeth ar gnydau newydd a phrosesu bwyd/cynhwysion. Gyda'i gilydd, mae'r fferm a'r busnes yn integreiddio da byw a chnydau ag arloesedd a phrosesu i ddangos arallgyfeirio cynaliadwy.

  • Angerdd Cleobury PM yw datblygu cnydau newydd ar dir ymylol, yn enwedig te (Camellia sinensis). Maent yn defnyddio system brosesu uwch fel sychu gan ddefnyddio chwistrell a micro-gapsiwleiddio i gadw cyfansoddion sy'n rhoi iechyd mewn cynhyrchion.

  • Prosiect Cyllid Arbrofi gyda Cyswllt Ffermio yn Cleobury yw’r arbrawf te cyntaf ar fferm fynydd yng Nghymru. Gan ddefnyddio dadansoddiad daearyddol a’r pridd, mae’r prosiect yn gwerthuso perfformiad cnydau, bioleg y pridd, effeithiau bioamrywiaeth a photensial y gadwyn gyflenwi. Y nod yw dangos sut y gall ffermydd yr ucheldir arallgyfeirio’n broffidiol ac yn gynaliadwy.

  • Mae gan Mandy brofiad helaeth o sicrhau cyllid ar ffurf grantiau ac ysgrifennu a rheoli grantiau yn ogystal ag offer fel modelu aml-amrywiad, dadansoddi cemegol, mapio GIS, modelu addasrwydd cnydau a dadansoddi’r pridd.

  • Mae hi'n trosi gwyddoniaeth gymhleth yn gyngor clir ac ymarferol. Gan ei bod wedi cynnal cydbwysedd rhwng ffermio o ddydd i ddydd â chynllunio olyniaeth a mentrau newydd, mae hi'n deall y pwysau sy'n wynebu teuluoedd ffermio. Gall ei gwasanaeth fentora gynorthwyo’r rhai sy'n ystyried arallgyfeirio, rheoli llwyth gwaith a strategaeth hirdymor. Disgwyliwch gael eich ysbrydoli gan gyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd Mandy os byddwch chi'n ei dewis hi fel eich mentor.

Busnes fferm cyfredol

  • 300 o famogiaid (Lleyn, Lleyn croes, a Blue texel)
  • 50 o wartheg (Aberdeen Angus croes)
  • Arallgyfeirio i gnydau newydd, yn enwedig te

Gyda’i gilydd, mae fferm y teulu a Cleobury PM yn:

  • Cynhyrchu da byw a chnydau yn gynaliadwy.
  • Treialu cyfleoedd arallgyfeirio ar yr ucheldir.
  • Datblygu cynhyrchion o gnydau newydd gyda gwerth ychwanegol.
  • Rhannu gwybodaeth gyda ffermwyr, ymchwilwyr a'r diwydiant.

Cymwysterau academaidd

  • BSc Geneteg a Biocemeg, Prifysgol Aberystwyth (2004)
  • PhD Metabolomeg, Prifysgol Aberystwyth (2008)
  • PRINCE2 Sylfaen a lefel Ymarferydd (2023)

Rolau proffesiynol

  • Prif archwilydd ac uwch ymchwilydd, Prifysgol Aberystwyth.
  • Rheolwr Rhaglen, prosiect asesu cymeriant dietegol gwerth £3miliwn a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Feddygol.
  • Rheolwr Rhaglen ac Ymchwilydd, Cleobury PM, yn cefnogi arloesedd bwyd-amaeth ac ail-fformiwleiddio bwyd.

Cyflawniadau a phrofiad

  • Wedi sicrhau cyllid ymchwil o dros £2.8miliwn (BBSRC, MRC, Llywodraeth Cymru, Innovate UK).
  • Arbenigedd mewn cnydau newydd ac amrywiol gan gynnwys te, madarch a danadl ac ati
  • Profiad ymarferol mewn tyfu te, cynllunio, dadansoddi ac adeiladu cadwyn gyflenwi.
  • Cyhoeddiadau ac allgymorth, gan gynnwys erthygl ar botensial tyfu te ym Mhrydain.
  • Partner busnes gydag Ysgolor Nuffield 2025, Ali Warren-Walker, gan ymgorffori golwg fanylach byd-eang ar brosiectau.
  • Profiad helaeth o arwain prosiectau a chydweithio â'r byd academaidd, diwydiant a ffermwyr.
  • Aelod o fyrddau proffesiynol/ymgynghorol; byrddau golygyddol ar gyfer Frontiers in Nutrition and Metabolomics.

Awgrymiadau ar gyfer llwyddiant busnes

“Addasu ac arallgyfeirio i feithrin gwydnwch yn erbyn ansicrwydd mewn tirwedd amaethyddol sy’n newid yn barhaus.”

“Defnyddiwch waith ymchwil, dadansoddi ac arloesedd i arwain y broses o wneud penderfyniadau.”

“Cynnal cydbwysedd rhwng gweithrediadau bob dydd â strategaeth hirdymor ac ystyried nodau hirdymor bob amser.”