Pam y byddai Elin yn fentor effeithiol

  • Roedd Elin, a raddiodd mewn amaethyddiaeth, ond yn ddeg oed pan ddatblygodd ddiddordeb am y tro cyntaf mewn cŵn defaid sy'n gweithio, gan gymryd diddordeb mawr mewn gwylio a dysgu gan gymydog profiadol ym maes trin cŵn defaid a fu’n hapus i rannu eu sgiliau ac annog ei brwdfrydedd a'i phenderfyniad i ddysgu.
  • Dair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach, mae hi bellach wedi dod o hyd i rôl iddi'i hun ar y gylchdaith gŵn defaid rhyngwladol! Mae Elin yn canfod amser bob dydd i hyfforddi a gweithio gyda'i chŵn ei hun, ac mae hi'n cystadlu'n rheolaidd hefyd mewn treialon cŵn defaid, gyda nifer o lwyddiannau nodedig. Yn ystod haf 2022, daeth hi'n gymwys am le yn nhîm Cymru ar gyfer Treialon Cŵn Defaid y Byd, a fydd yn cael eu cynnal yn Iwerddon. Yn 2018, cymhwysodd gyda dau gi ar gyfer rownd derfynol treialon cŵn defaid ifanc Cymru Gyfan ac fe aeth drwodd gydag un ci i rownd derfynol treialon cŵn defaid ifanc Pedair Gwlad yn Swydd Stafford. Enillodd hefyd gystadleuaeth y trinwyr ifanc yn Sioe Frenhinol Cymru yn 2019. Mae galw mawr am Elin nawr i helpu i hyfforddi cŵn i ffermwyr eraill, ac mae hi hefyd yn rhoi gwersi un i un i drinwyr eraill.  
  • Mae gan Elin swydd mewn swyddfa leol oddi ar fferm bîff a defaid ei theulu, ond mae'n treulio bob eiliad y gall yn gweithio gyda'r ddiadell o 650 o famogiaid bridio Cymreig wedi’u gwella a 150 o anifeiliaid cyfnewid. Mae hi'n mwynhau helpu gyda phob rhan o'r busnes fferm, ond mae'n dweud mai bugeilio a gweithio gyda chŵn yw ei phrif angerdd.
  • Mae Elin yn disgrifio'i hun fel un ymroddedig, tosturiol ac uchelgeisiol. Mae'n gyfathrebwr medrus a hyderus yn Gymraeg a Saesneg, a bydd ei dull aeddfed a chyfrifol yn eich helpu i wella eich sgiliau trin cŵn. Mae'n awyddus iawn i gynnig cymorth a rhannu ei phrofiad, ei gwybodaeth a'i harbenigedd mewn hyfforddi cŵn defaid er mwyn helpu eraill i ddysgu a symud ymlaen yn y maes gwerth chweil hwn.  
  • Trwy addasu ei thechnegau hyfforddi i gyd-fynd â phersonoliaethau ac anghenion hyfforddwyr a chŵn, mae'n ei chael yn hynod o werthfawr i'w gweld yn symud ymlaen. Disgwyliwch gael eich ysbrydoli gan y triniwr a'r mentor cŵn defaid ifanc arobryn hwn!

Busnes fferm presennol

  • Fferm bîff a defaid 300 erw  
  • 650 o famogiaid bridio Cymreig wedi’u gwella, gyda 150 o anifeiliaid cyfnewid  

Cymwysterau/llwyddiannau/profiad

  • Yn darparu gwersi 1-i-1 i drinwyr gyda’u cŵn ar hyn o bryd 
  • Aelod o CFfI Felinfach
  • Cystadleuydd rheolaidd mewn treialon cŵn defaid, sydd wedi ennill llawer o wobrau/safleoedd 

Addysg:

Medi 2017- Mai 2021 – Coleg Sir Gar, Campws Gelli Aur 

  • Gradd BSc a Sylfaen mewn Amaethyddiaeth  

Cymwysterau eraill

  • Wedi cymhwyso fel therapydd alergedd gyda Sefydliad Alergedd a Therapi Amgylcheddol Prydain
  • Wedi cymhwyso fel mewnblanwraig microsglodion ar gyfer cŵn, cathod ac anifeiliaid bach.

Cyflogaeth:

  • 2017 hyd yma:  Canolfan Therapi Naturiol - Derbynnydd, gan gynnwys sgiliau ffôn, cyfrifiadurol a gwaith dosbarthu
  • Hyd yma: Gweithiwr fferm yn fferm bîff a defaid ei theulu, gan helpu gyda thasgau hwsmonaeth da byw cyffredinol o ddydd i ddydd yn ogystal â gyrru tractorau, peiriannau gweithredu ac ati.  

Awgrymiadau i lwyddo mewn busnes 

"Mae ci defaid dibynadwy, sydd wedi ei hyfforddi'n dda, yn ased enfawr i unrhyw ffermwr defaid; bydd yn arbed amser a straen i chi a gall eich helpu i osgoi sefyllfaoedd anodd."

"Beth bynnag rydych chi'n ei roi i mewn, fe gewch chi allan. Po fwyaf o waith, amser ac amynedd rydych chi'n ei roi i hyfforddi ci, y mwyaf o ganlyniadau y byddwch yn eu cael ohono."