Pam y byddai Emma yn fentor effeithiol

  • Mae Emma, sydd ag MSc mewn Garddwriaeth Gynaliadwy a Chynhyrchu Bwyd, yn arddwriaethwr profiadol, yn dyfwr, yn ddarlithydd, yn fentor ac yn berchennog busnes bach.  Wedi’i lleoli yn Llanidloes, mae’r cyn-ddarlithydd prifysgol hon bellach yn cyfuno rhedeg ei busnes garddwriaeth ei hun â gweithio fel hyfforddwr a mentor rhan-amser.  
  • Sefydlodd Emma ardd farchnad amaeth-ecolegol pum erw yn Llanidloes tua 20 mlynedd yn ôl. Mae Ash & Elm Horticulture www.ashandelm.co.uk bellach yn cyflogi pedwar aelod o staff.  Yn fenter gymunedol, mae'r ardd ar agor i ymwelwyr ac ar gyfer gwerthu ffrwythau, llysiau a blodau'n uniongyrchol.  Yn ddiweddar, ehangodd y fenter flodau i gynnwys blodau drwy'r post.  Mae'r ardd ar gael i sefydliadau gan gynnwys grwpiau sgowtiaid lleol, grwpiau gweithredu ieuenctid ymddiriedolaeth bywyd gwyllt Sir Drefaldwyn yn ogystal ag ar gyfer diwrnodau agored a digwyddiadau lles tymhorol. Trefnir diwrnodau gwirfoddolwyr fel rhan o brosiect llysiau CSA (Community Supported Agriculture) yr ardd.  
  • Ers 2018, mae Emma wedi gweithio fel hyfforddwr rhan-amser a mentor i hyfforddeion Farm Start, ar y cwrs Llwybrau at Ffermio (rhan o brosiect Tyfu Dyfi) lle caiff hyfforddeion eu haddysgu i greu cynllun busnes a chnydio i ddechrau busnes cynhyrchydd cynradd garddwriaethol.  Mae hi'n cynllunio ac yn cyflwyno dysgu ymarferol a dysgu yn yr ystafell ddosbarth ar bynciau sy'n amrywio o wyddor y pridd a phlanhigion i luosogi, tyfu bwydydd bwytadwy a phlanhigion addurniadol yn ogystal â phynciau busnes a marchnata perthnasol.  
  • Yn gyfarwydd â thyfu confensiynol, organig modern ac adfywiol, prif angerdd Emma yw microleg y pridd a'r wyddoniaeth y tu ôl i dechnegau a chynnyrch tyfu llwyddiannus.  Mae hi wedi cynnal nifer o dreialon garddwriaeth, gan weithio gyda sefydliadau cysylltiedig gan gynnwys prosiect Ffermwyr Arloesol Cymdeithas y Pridd ac Ymddiriedolaeth Ymchwil Savari.  Mae'r rhain wedi cynnwys prosiectau sy'n amrywio o dyfu tatws, cnydau bresych a hadau i gompost, tomwellt a thail gwyrdd parhaol. 
  • Mae sgiliau Emma fel darlithydd a mentor effeithiol yn cyd-fynd â’i chyflawniadau personol wrth sefydlu busnes garddwriaeth llwyddiannus, lle mae’n delio â holl reolaeth busnes a chyllid, staffio a marchnata.  Disgwyliwch gael eich ysbrydoli gan ei gwybodaeth am y sector arbenigol hwn, p'un a ydych chi newydd ddechrau neu'n edrych i ddatblygu neu arallgyfeirio eich busnes presennol. 

Busnes garddwriaeth presennol

  • Gardd farchnad amaeth-ecolegol pum erw yn tyfu llysiau tymhorol, cnau, ffrwythau, madarch a blodau i'w torri.   Mae'r rhain yn cael eu gwerthu ledled Gogledd Powys trwy gynllun bagiau llysiau CSA yn ogystal ag i farchnadoedd, siopau a bwytai lleol.  
  • Mae meithrinfa fechan ar y safle yn gweithredu fel man gwerthu ychwanegol ar gyfer planhigion dros ben. 
  • Sefydlodd Emma ei gwefan 'Ash and Elm' yn ogystal â siop lysiau ar-lein lle gall cwsmeriaid archebu cynnyrch a chysylltu â hybiau bwyd eraill.
  • Yn gynharach eleni, lansiodd wefan newydd ar gyfer gwerthu ‘blodau archeb bost cynaliadwy, Cymreig’ www.welshflowerbarrow.co.uk                                                               

Cymwysterau/cyflawniadau/profiad

  • 2015    MSc Garddwriaeth Gynaliadwy a Chynhyrchu Bwyd, Prifysgol Plymouth
  • 2008    Tystysgrif mewn Addysg – Coleg Powys
  • 2023    Hyfforddwr penodedig ar gyfer Cynllun Cymorth i Newydd-ddyfodiaid (NESS) DEFRA
  • 2011    Cefnogi Oedolion a Phobl Ifanc mewn Sgiliau Hanfodol
  • 2005    Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Garddwriaeth Organig - WCOH

Awgrymiadau ar gyfer llwyddiant busnes 

“Gwnewch gynllun busnes yn y gaeaf fel y byddwch chi wedi dechrau gweithio erbyn i’r tymor tyfu ddechrau ym mis Mawrth!”  
“Mynnwch bob amser gynllun safle, cynllun marchnata, rhagolygon ariannol a chynllun cnydio sy'n nodi dyddiadau hau a chynaeafu. Dyma’r unig ffordd i reoli eich amser a’ch adnoddau’n effeithlon.”