Pam fyddai Geraint yn fentor effeithiol?

  • O ran prosiectau arallgyfeirio twristiaeth ac ynni adnewyddadwy, gallai Geraint Thomas ddarparu’r ysbrydoliaeth a'r pecyn mentora perffaith sydd eu hangen arnoch. Mae Geraint Thomas yn gyfrifol am ddatblygu un o gyrchfannau twristiaeth fferm ‘oddi ar y grid’ enwocaf Cymru – The Moody Cow sydd wedi ennill sawl gwobr – yng Ngheredigion.
  • Magwyd Geraint ar fferm bîff a defaid ei deulu yn Sir Frycheiniog. Fel ffermwr ifanc, efallai na wnaeth ragweld y byddai, ochr yn ochr â’i sgiliau ymarferol, hefyd yn dysgu bod yn ddyn busnes craff.
  • Yn hyderus ac yn hynod gyfeillgar, ar ôl sefydlu ac yna gwerthu maes carafannau a gwersylla ar raddfa fawr ar ei fferm 240 erw flaenorol yn Sir Frycheiniog, roedd Geraint yn barod am her newydd.
  • Tua 14 mlynedd yn ôl, prynodd Geraint a’i wraig, Chris, Fferm Bargoed, daliad bîff a defaid 200 erw ger Aberaeron. Wedi’u dylanwadu gan leoliad arfordirol godidog y fferm, ac ar ôl gwneud cryn dipyn o ymchwil – ‘mae pob prosiect yn cael ei arwain gan y galw’ – fe werthon nhw hanner y tir, gweithio gyda chynllunwyr lleol cefnogol a dechrau gwireddu eu gweledigaeth ar gyfer ‘cyrchfan wyliau un stop’ sydd bellach yn denu miloedd o ymwelwyr y flwyddyn. 
  • Fe wnaethon nhw sefydlu maes carafannau a gwersylla pwrpasol yn gyntaf. Dilynwyd hyn yn fuan gan ragflaenydd The Moody Cow – ysgubor chwarae The Moody Calf – sy'n darparu oriau o hwyl dan do i ieuenctid lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Erbyn heddiw, mae The Barn@Bargoed – o’r enw Ysgubor – yn cynnal priodasau a digwyddiadau; mae'r Moo-tel yn cynnig 11 ystafell wely en-suite, ac mae'r Bistro a'r Siop Fferm, gyda’r ddau’n darparu cynnyrch lleol yn bennaf, yn hynod boblogaidd gyda phobl leol a thwristiaid. Mae yna hefyd ail leoliad digwyddiadau – The Posh Cow – cyfleuster adloniant ar y llawr cyntaf yn edrych dros lyn. 
  • Mae'n swnio fel llawer – mae wir yn llawer – ond nid yw'r cwpl entrepreneuraidd hwn yn bwriadu rhoi'r gorau iddi yn fuan!

Busnes fferm presennol

  • Oddeutu 100 erw 
  • Bydd y maes carafannau a gwersylla presennol yn dyblu mewn maint yn 2024 i gynnig tua 100 o leiniau 
  • Siop fferm/Bistro/ysgubor chwarae The Moody Calf/lleoliad digwyddiadau a phriodasau The Barn@Bargoed/lleoliad digwyddiadau The Posh Cow, a’r llety The Moo-tel
  • Mae buches fechan o wartheg bîff yn cyflenwi’r Siop Fferm a’r Bistro
  • Mae gwaith adeiladu ar y gweill (2024) ar barc dŵr a phwll nofio newydd ynghyd â pharc newydd i bobl ifanc yn eu harddegau a fydd yn darparu trampolinau, waliau dringo ac ati
  • Mae ynni adnewyddadwy yn cynnwys paneli solar 300 kw ar doeau, storfa batri 450 kw, generadur biodanwydd 500 kw, sydd oll yn cael eu rheoli'n electronig ac yn gweithio ar y cyd. 
  • Solar sy'n cael y flaenoriaeth i wefru'r batris a rhedeg y busnes, gyda'r generadur yn darparu ynni wrth gefn. Mae’r defnydd amcangyfrifedig o ynni yn amrywio o arbedion o 55% yn y gaeaf ac 80% yn yr haf. Pan fydd y dyddiau'n ymestyn, mae'r defnydd o fiodanwydd yn lleihau ac mae solar yn cymryd drosodd.  

Cymwysterau / cyraeddiadau / profiad

  • HND mewn amaethyddiaeth
  • Ysgol bywyd!
     

AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES

“Rhowch flaenoriaeth i gadw cofnodion ariannol fel eich bod chi'n gwybod ble rydych chi'n sefyll yn ddyddiol, yn wythnosol, yn fisol ac yn flynyddol. Dyma’r unig ffordd i gyllidebu a blaengynllunio’n effeithiol.” 
“Dylai ynni adnewyddadwy a datgarboneiddio fod ar flaen eich meddwl bob amser.”
“Mae’n dda siarad – gall ffermwyr deimlo’n ynysig ac o dan straen, felly dysgwch gan eraill sydd wedi wynebu heriau tebyg ac wedi dod o hyd i atebion y gallan nhw eu rhannu gyda chi.”