Pam y byddai Gwen yn fentor effeithiol 

  • Fel arweinydd Agrisgôp profiadol, mae Gwen wedi rhoi arweiniad a chefnogaeth i ffermwyr a busnesau sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth ar ystod eang o bynciau, gan gynnwys arallgyfeirio, mentrau twristiaeth, ychwanegu gwerth, marchnata, addysg fferm a chefn gwlad, garddwriaeth, gwlân, ffermio cynaliadwy a chadw gwenyn.
  • Hefyd yn hyfforddwraig TGCh profiadol, bydd Gwen yn eich cynorthwyo i roi ffyrdd mwy effeithiol ar waith o ddefnyddio TGCh i helpu i redeg eich busnes, gan gynnwys cadw cofnodion ar gyfer Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol, bancio ar-lein, ffurflenni treth a defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol at ddibenion marchnata.
  • Yn wrandäwr, hyfforddwr a chyfathrebwr effeithiol, ei nod yw meithrin perthnasoedd gwerthfawr y gellir ymddiried ynddynt i’ch helpu i gyflawni eich dyheadau. 
  • Mae ganddi brofiad personol o brosiectau arallgyfeirio, gan gynnwys twristiaeth, mentrau bwyd a diod, ac ar hyn o bryd, mae’n ymwneud â sefydlu brand gwinllan a gwin newydd. 
  • Mae Gwen wedi gweithio ar ffermio cyfran/mentrau ar y cyd, ac mae ganddi brofiad o gynllunio olyniaeth trwy ei rôl flaenorol gyda rhaglen Mentro Cyswllt Ffermio.
  • Mae ganddi wybodaeth drylwyr o’r diwydiant ffermio yng Nghymru, a gall roi cyngor ar ofynion rheoleiddio a’r strwythur cynghori. 
  • Gall hefyd roi cymorth i gwblhau’r gweithlyfr Rheoli Llygredd Amaethyddol i’ch helpu i fodloni gofynion cadw cofnodion Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021.

Busnes fferm presennol

  • Ynghyd â’i gŵr Rhys, mae Gwen wedi sefydlu gwinllan pum erw ar eu tyddyn ger Dinbych, a hefyd yn cynorthwyo ar ffermydd defaid a bîff eu rhieni. 

Cymwysterau/Cyraeddiadau/profiadau 

  • Mawrth 2019 i 2022: Arweinydd Agrisgôp Cyswllt Ffermio, hyfforddwr TGCh; ffermwr a rheolwr gwinllan. 
  • Rolau blaenorol: Swyddog Mentro Cyswllt Ffermio; Rheolwr Datblygu Busnes NFU Cymru (Gogledd Cymru); Cynghorydd Polisi NFU (rhanbarthau Dwyrain Anglia a Gorllewin Canolbarth Lloegr).
  • Mai 2018 i 2022 – Prifysgol Aberystwyth (rhan amser) Astudiaethau ôl-raddedig Lefel 7 mewn Systemau Cyflenwi Cynaliadwy; Hyfforddi a Mentora; a Hwyluso ac Arweinyddiaeth Sefydliadol
  • Mehefin 2001 – Coleg Prifysgol Harper Adams, BSc (Anrh) Diogelu’r Amgylchedd Gwledig 

Prif awgrymiadau ar gyfer sicrhau busnes llwyddiannus

“Peidiwch â bod ofn siarad â busnesau tebyg eraill am eich syniadau; bydd y rhan fwyaf eisiau eich helpu i lwyddo.” 

“Mae pob diwrnod yn ddiwrnod ysgol – gwnewch y mwyaf o gyfleoedd hyfforddi a datblygu.” 

“Manteisiwch ar gyfleoedd a allai ddod atoch chi, hyd yn oed os ydynt yn ymddangos yn frawychus, oherwydd fel arfer gallwch ddod i hyd i gefnogaeth ac atebion i gyflawni eich nodau.”