Pam y byddwn yn fentor effeithiol
-
Mae’r Cyfrifydd Siartredig a merch fferm, Heather, yn rhedeg ei busnes gwledig ei hun fel unig fasnachwr – ‘ar fin nos, penwythnosau a phob munud sbâr sydd gennyf!’ Ochr yn ochr â hyn mae’n gweithio fel partner i gwmni cofrestredig o gyfrifyddion lleol. Yn fam sengl brysur i ddau blentyn bach, mae hefyd yn magu ac arddangos diadell fach o ddefaid Ryeland pedigri.
-
Ar ôl gweithio ac arbenigo mewn cyfrifyddu ers 17 mlynedd, gan symud ymlaen i’w swydd bresennol fel partner, mae wedi ennill swm anferth o brofiad rheoli busnes ac ariannol, gan gynghori busnesau bach newydd yn ogystal â chleientiaid mwy sydd wedi hen sefydlu. Mae’n ymfalchïo mewn bod â sgiliau cyfathrebu da yn Gymraeg a Saesneg. “Rwy’n gwrando, dysgu, deall eu hamcanion ac yna yn rhoi’r datrysiadau busnes neu gyfarwyddyd y mae arnynt eu hangen mewn modd cryno a chlir.”
-
Bydd yn eich annog i fod yn drefnus ac archwilio eich sefyllfa o safbwyntiau gwahanol. Mae’n annog dysgu a datblygiad personol trwy ofyn cwestiynau a chroesawu cwestiynau yn eu tro.
-
Mae Heather yn gwerthfawrogi pwysau rhedeg eich busnes eich hun, yn arbennig yr angen i gael cydbwysedd rhwng y teulu a’r gwaith. Mae hi’n deall y calendr amaethyddol ac mae’n cadw’n gaeth at ddyddiadau cau – ei rhai hi a rhai ei chleientiaid!
-
Yn eithriadol o alluog ar gyfrifiaduron ac yn canolbwyntio ar y canlyniadau bob amser, mae Heather yr un mor hapus yn cyfarfod cleientiaid o gwmpas bwrdd y gegin gyda beiro a phapur.
Busnes fferm presennol
- Ynghyd â rhedeg ei gwefan adwerthu ei hun a’i swydd yn bartner i gwmni o gyfrifyddion lleol, mae Heather hefyd yn ffermwr defaid ei hun. Ar hyn o bryd mae’n cadw tua 20 o famogiaid Ryeland pedigri ar ei thyddyn wyth erw ac yn y gorffennol enillodd y wobr ‘anifail brîd cynhenid gorau’ yn sioe Croesoswallt gyda’i hwrdd pedigri.
Cymwysterau/llwyddiannau/profiad
- Cyfrifydd siartredig ACCA gyda dros bum mlynedd o brofiad ar ôl cymhwyso
- 17 mlynedd yn gweithio i gwmni cyfrifyddu busnes/amaethyddol, gan ddysgu am y gwaith o’r lefel isaf i’w swydd bresennol fel partner.
- Arbenigwraig mewn cynllunio treth, TAW, trethi amaethyddol a Chyflogres
- Profiad o nifer o wahanol becynnau meddalwedd cyfrifyddu/cadw llyfrau
Awgrymiadau da am lwyddiant mewn busnes
“Mae bob amser yn talu cynllunio ymlaen, felly ysgrifennwch eich syniadau ac yna ail edrych arnyn nhw cyn gweithredu.”
“Gofynnwch am gyngor gan arbenigwyr y diwydiant bob amser neu trafodwch bethau gyda’ch cymheiriaid – gall eu profiad fod yn werthfawr iawn.”