Pam y byddwn i’n fentor effeithiol

  • Mae gen i fwy na 15 mlynedd o brofiad cneifio yn y DU a thramor.
  • Rwy’n gneifiwr dosbarth agored ac yn dal i gneifio’n rhan amser ochr-yn-ochr â fy swydd bresennol fel rheolwr tiriogaeth y DU ac Iwerddon ar gyfer un o’r prif gyflenwyr offer cneifio defaid
  • Mae gennyf ddealltwriaeth dda iawn o’r offer a’r technegau sydd eu hangen i gneifio defaid yn ddiogel, yn effeithlon ac yn gyflym
  • Rwy’n ymwneud ag offer ar gyfer ymgais i dorri record cneifio Ŵyn Prydain (2022) a hefyd yn cynghori cwmni gweithgynhyrchu ar ddatblygiad offer newydd
  • Mae gennyf fynediad i rwydwaith gwych o gysylltiadau diwydiant
  • Rwy’n hyfforddwr Dygnwch Athletau cymwysedig y DU a gallaf gymhwyso fy ngwybodaeth o hyfforddiant a maethiad i gefnogi anghenion corfforol a meddyliol cneifiwr
  • Sgiliau cyfathrebu gwych yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • Yn gwbl ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg, rwy’n teimlo’n angerddol ynghylch trosglwyddo fy sgiliau cneifio a gwybodaeth i’r genhedlaeth nesaf o gneifwyr

Busnes fferm bresennol

  • Cefndir gydol oes mewn amaethyddiaeth, yn gweithio ar fferm laeth y teulu ac ar ffermydd eraill am lawer o flynyddoedd cyn symud i gefn gwlad canolbarth Cymru

Cymwysterau/cyflawniadau/profiad

  • 2020 hyd yma – Ar hyn o bryd yn Rheolwr Tiriogaeth y DU ac Iwerddon ar gyfer Offer Cneifio Lister.
  • 2019 – 2020 – Techion (FECpack), rheolwr perthynas y DU
  • 2015 – 2019 – Grŵp Wynnstay, arbenigwr iechyd anifeiliaid
  • 2007 – 2015 – hunangyflogedig, yn rhedeg busnes cneifio contract llwyddiannus
  • Profiad o gneifio yn Seland Newydd, Norwy, Ffrainc a’r DU.
  • 2014 – wedi ennill y teitl Golden Shears Junior yn Seland Newydd
  • Wedi derbyn hyfforddiant blaenorol ar ran Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain

Awgrymiadau ar gyfer cynnal busnes llwyddiannus

“Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n defnyddio offer cneifio wedi’u hogi’n dda a’r crib cywir ar gyfer y brid o ddefaid rydych chi’n eu cneifio bob amser. Os byddwch yn dewis y crib anghywir byddwch yn cneifio llawer llai o ddefaid!”

“Yfwch ddigon, newidiwch eich electrolytau a gwnewch yn siŵr eich bod yn bwyta digon o garbohydradau trwy gydol pob diwrnod cneifio. Bwytewch ddigon o brotein cyn gynted ag y byddwch chi’n gorffen cneifio er mwyn eich helpu i wella yn barod ar gyfer cneifio y diwrnod canlynol.”

“Gwnewch yn siŵr bod gennych batrwm effeithiol i sicrhau eich bod yn defnyddio’r coesau yn effeithiol, yn troi’r defaid drosodd ac yn tynnu’r defaid allan yn gywir – gallai gwneud hyn yn anghywir gostio’r cronfeydd hanfodol o egni i chi yn ystod y diwrnod, a gall hefyd arwain at straen a doluriau i’r cyhyrau.”