*Nid yw Jessica yn gallu derbyn ceisiadau mentora ar hyn o bryd. Cysylltwch ag Awel Jones ar 07961 958 807 / awel.jones2@menterabusnes.co.uk i drafod eich opsiynau eraill.*

Pam y byddai Jessica yn fentor effeithiol?

  • Mae Jessica wedi gweithio ar lefel uwch ym meysydd hylendid a safonau bwyd ers blynyddoedd lawer ac mae ganddi wybodaeth helaeth am y sectorau bwyd-amaeth a ffermio yng Nghymru. Yn aelod o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru, sy'n cynghori'r Asiantaeth Safonau Bwyd ar faterion polisi bwyd yng Nghymru, mae hi hefyd yn ffermwr bîff a defaid llawn-amser. 

  • Mae Jessica wedi rhedeg ei busnes fferm deuluol ei hun ers 21 mlynedd ac mae’n fridiwr Gwartheg Duon Cymreig sefydledig sydd wedi ennill gwobrau Buches Fach y Flwyddyn ac mae ei hanifeiliaid wedi cael y prisiau uchaf yng ngwerthiannau’r Gymdeithas. 

  • Ar ôl sefydlu ei busnes ‘bocsys cig’ llwyddiannus ei hun yn gwerthu’n uniongyrchol i ddefnyddwyr yn 2021, mae’n credu y gallai ei harbenigedd a’i gwybodaeth am y sector bwyd-amaeth fod o fudd i unigolion sy’n ystyried naill ai arallgyfeirio neu’n bwriadu datblygu menter sector bwyd sy’n bodoli eisoes.  

  • Yn arweinydd Agrisgôp Cyswllt Ffermio ers pum mlynedd, mae ganddi brofiad sylweddol o weithio gyda mentrau arallgyfeirio newydd. Yn gyfarwydd iawn ag annog aelodau i fwrw ymlaen â'u syniadau busnes, mae ganddi sgiliau gwrando ac arsylwi da ac mae'n awyddus i osod nodau, 'gweld pethau drwodd' a chyflawni amcanion busnes. Roedd ei phynciau grŵp yn cynnwys Busnes ac Arloesedd; Bridiau defaid pwrpas deuol; Lladd-dy ar y fferm; Cadw gwenyn; Carbon a Bocsys cig.
     

Y busnes fferm presennol

  • Mae gan fferm Jessica fuches bedigri o wartheg sugno Duon Cymreig gyda 30 o wartheg magu a dilynwyr amnewid. Mae heffrod yn cael eu gwerthu fel pedigri a rhai bustych yn cael eu gwerthu fel stôr, tra bo’r gweddill yn cael eu pesgi ar gyfer bocsys cig eidion a gaiff eu gwerthu'n uniongyrchol i'r defnyddiwr terfynol. 
  • Mae ganddyn nhw hefyd ddiadell o 500 o famogiaid Defaid Mynydd Cymreig a gedwir ar system ucheldir, a 120 o famogiaid Llŷn Pedigri ar y system iseldir. Mae'r holl ŵyn yn cael eu pesgi ar y fferm a'u gwerthu'n uniongyrchol i Dunbia.
  • Yn 2021, sefydlodd Jessica fenter arallgyfeirio yn gwerthu bocsys cig eidion yn uniongyrchol i'r defnyddiwr terfynol o'r fferm a thrwy wasanaeth cwrier. 
     

Cymwysterau/cyflawniadau/profiad 

  • 2021-presennol  Aelod o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) yn cynghori'r Asiantaeth Safonau Bwyd ar Bolisi Bwyd yng Nghymru.
  • 2019-2021  Prifysgol Aberystwyth – Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Arweinyddiaeth Newid (gan gynnwys modiwl hyfforddi a mentora) – PGCert 
  • 2012  Sefydliad Hyfforddiant Arwain a Rheoli – Dyfarniad Lefel 2 ILM mewn Arwain Tîm
  • 2009  Integra Training – Archwiliwr arweiniol mewn Systemau Rheoli Diogelwch Bwyd
  • 2006  Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd – Tystysgrif Gofrestru gyda Bwrdd Cofrestru Iechyd yr Amgylchedd
  • 2002-2006  Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd – BSc mewn Iechyd yr Amgylchedd (Anrhydedd Dosbarth Cyntaf)
  • 2008  Ysgoloriaeth Hybu Cig Cymru (Y Diwydiant Bîff a Gwartheg yn Awstralia) 
  • 2016/17  Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yr Academi Amaeth
  • 2018/19  Tesco Future Farmers 
  • 2022-24  Rhaglen Cenhedlaeth Nesaf yr NFU 

Awgrymiadau ar gyfer llwyddiant busnes

“Dilynwch eich calon, mwynhewch yr hyn rydych chi'n ei wneud a byddwch yn driw i chi'ch hun”
“Dysgwch gan eraill, adeiladwch rwydwaith o gymorth a pheidiwch â bod ofn gofyn am help”
“Meddyliwch am nodau tymor byr a thymor hir; daliwch ati i gyflawni’r rhain”
“Gwnewch amser i chi’ch hun; mae eich iechyd a’ch lles yn amhrisiadwy”