Pam fyddai Keith yn fentor effeithiol

  • Dechreuodd Keith ffermio ar ei liwt ei hun yn 17 mlwydd oed trwy rentu tir gan gymydog wrth barhau i weithio ar fferm ei rieni. Cymerodd y fferm gartref drosodd yn 2001 ac mae wedi gwella ei reolaeth o laswelltir a phridd, ac mae’n defnyddio da byw gydag EBV uchel
  • Mae Keith wedi rhoi system pori cylchdro ar waith ar y fferm a system pori trwy’r gaeaf i helpu gyda gwneud y gorau o allbwn y fferm, gan gadw costau’n isel
  • Fel fferm arddangos Hybu Cig Cymru, cynhaliodd Keith ddiwrnodau agored i hwyluso trosglwyddo gwybodaeth ynglŷn â’i reolaeth glaswelltir. Bu hefyd yn gyfle iddo archwilio manylion ei gyfrifon sydd wedi gwneud iddo ganolbwyntio mwy ar y busnes
  • Yn 2012 cymerodd Keith ran yn rhaglen Arweinyddiaeth Wledig Academi Amaeth Cyswllt Ffermio, ac mae’n dweud bod y profiad wedi cynyddu ei hyder yn ogystal â’i ddealltwriaeth ehangach o’r diwydiant ffermio
  • Mae cwblhau astudiaeth Ysgoloriaeth Nuffield yn edrych ar y system graddio a thaliadau ar gyfer cig coch wedi cynnig persbectif byd-eang o ddiwydiant ffermio iddo
  • Roedd Keith yn rhan o brosiect Cronfa Arloesedd Cyswllt Ffermio ac fe gynorthwyodd i ddatblygu’r templed Elw Fferm Gymharol i helpu ffermwyr i ddod i ddatblygu gwell dealltwriaeth o’u busnesau
  • Mae Keith yn credu bod ganddo lawer i’w gynnig, o ganlyniad i’r holl brofiadau hyn, yn brofiad ymarferol ac yn ariannol.

Busnes fferm bresennol

  • Mae’r teulu’n berchen ar 360 erw, yn ogystal â rhentu 20 erw
  • 750 o famogiaid, gan gynnwys 60 o ddefaid Texel wedi’u recordio o ran perfformiad, ynghyd â 190 o ŵyn benyw. Maent yn gwerthu Hyrddod â’u Perfformiad wedi’i Recordio ac yn gwerthu cig oen fel rhan o gynllun i Waitrose
  • Buches gaeedig o 20 o Wartheg Duon Cymreig, gyda’r anifeiliaid dros ben yn cael eu cyflenwi i Waitrose 

Cymwysterau / cyraeddiadau / profiad

  • Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig Academi Amaeth 2012
  • Cystadleuaeth Menter Ffermwyr Cyswllt Ffermio
  • Coleg Powys 1983-1986
  • Wedi gweithio ar y fferm gartref rhwng 1983-2001 ac yn ei fusnes ei hun ers ei fod yn 17 mlwydd oed
  • Fferm arddangos Hybu Cig Cymru 2008-2011
  • Ffermwr defaid y flwyddyn Farmers’ Weekly 2013
  • Ysgoloriaeth Nuffield 2013-2014

 

AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES

“Mae’n rhaid i chi ddeall eich costau a’u cadw dan reolaeth, gan barhau i wneud y gorau o’ch allbwn o’r pridd, yr eneteg orau a rheolaeth glaswelltir.”

“Ceisiwch gyflenwi marchnad bremiwm a defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf sy’n addas ar gyfer eich tir a’ch sefyllfa.”