Pam fyddai Robb yn fentor effeithiol

  • Mae Robb yn frwdfrydig dros dyfu grawnwin o safon a chynhyrchu Gwin Cymreig o ansawdd uchel, ac mae bellach yn Gadeirydd Cymdeithas Gwinllannau Cymru.
  • Gyda 30 mlynedd o brofiad mewn diwydiant sy’n cael ei arwain gan berfformiad, mae Robb wedi datblygu nifer o sgiliau gan gynnwys rheoli, deall a gosod targedau, rheoli perfformiad, rheolaeth AD o ddydd i ddydd, cymell a hyfforddi, ond yn bennaf oll yr angen i wrando.
  • Mae Robb wedi trosglwyddo ei sgiliau i’w fywyd pob dydd ac mae’n bendant eu bod wedi bod yn hanfodol ar gyfer sefydlu Gwinllan White Castle Vineyard.
  • Dros yr 8 mlynedd diwethaf, mae Robb wedi ennill llawer o brofiad ymarferol o’r gwerthusiad safle cychwynnol, a sefydlu’r winllan hyd at farchnata a gwerthu’r gwinoedd.
  • Mae Robb yn awyddus i ddefnyddio ei sgiliau mewn modd adeiladol er mwyn gwella dealltwriaeth, hyder a pherfformiad ac i alluogi pobl i wneud eu penderfyniadau eu hunain

Busnes fferm bresennol

  • Yn berchen ar 17 erw o dir
  • 5000 o winwydd wedi’u plannu ar hyn o bryd
  • Gwinllan 5 erw sydd erbyn hyn yn un o’r cynhyrchwyr gwin pennaf yng Nghymru
  • Mae Robb yn gweithio ar sail llawn amser yn y winllan gyda chefnogaeth ei wraig Nicola sy’n gweithio rhan amser
  • Adeilad 16eg Ganrif wedi’i adnewyddu a ddefnyddir ar gyfer digwyddiadau i grwpiau mawr ac addysg yn ymwneud â gwinwyddaeth
  • Wedi trawsnewid tŷ gwair yn siop/drws seler sydd ar agor bob dydd Gwener - dydd Sul a gwyliau’r banc am fwyd a blasu gwin
  • Mae mwyafrif y gwaith yn cael ei wneud gan Robb a’i wraig, ond maent yn defnyddio llafur lleol yn ystod cyfnodau prysur
  • Maes carafanau Lleoliad Ardystiedig

Cymwysterau / cyraeddiadau / profiad

  • 1980 i 1985: Contractwr amaethyddol    
  • 1985 i 1994: Gweithio fel dyn y post
  • 1995 i 2014: Rheolwr uned/rheolwr clwstwr ar ran y Post Brenhinol
  • 2010-2012: Amrywiaeth o gyrsiau sgiliau gwin yn ne’r DU
  • 2009: Coleg Plumption College, cwrs dwys ar reoli gwinllan
  • 2009 - presennol: Perchennog gwinllan yn tyfu grawnwin, ac yn cynhyrchu a gwerthu gwin
  • 2016: Gwobr Aur am y Gwin Gwyn Gorau, Gwobrau Gwinllannau Cymru
  • 2017 - 2018: Gwobrau Efydd ac Arian ar gyfer gwinoedd Coch, Gwyn a Rosé, Wine GB Awards
  • 2018: 2 wobr Arian a 4 wobr Efydd, Cystadleuaeth Gwin Cymdeithas Gwinllannau Cymru
  • 2021: Medal Aur, Decanter World Wine Awards (DWWA)
  • Cadeirydd Cymdeithas Gwinllannau Cymru
  • 2021: Gwobr Arian, International Wine Challenge (IWC)
  • 2021: Gwobr Efydd ar gyfer Gwin Coch, Wine GB Awards
  • 2021: Gwobr Arian ar gyfer gwinoedd Coch a Rosé, Wine GB Awards

 

AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT YM MYD BUSNES

"Mae’n rhaid i chi allu derbyn bod rhaid gwneud newidiadau er mwyn gwella eich busnes."

"Mae cynllunio a pharatoi yn allweddol ar gyfer rheoli newid."

"Cofiwch gyfaddef pan fo pethau’n mynd o chwith a dysgu o’ch camgymeriadau. Methiant yw pan fyddwch yn stopio gwneud ymdrech, nid pan na fyddwch yn llwyddo."

"Mae agwedd bositif yn bwysig, felly ceisiwch weld y gorau mewn pobl a sefyllfaoedd bob amser."