*Nid yw Ruscombe yn gallu derbyn ceisiadau mentora ar hyn o bryd. Cysylltwch ag Awel Jones ar 07961 958 807 / awel.jones2@menterabusnes.co.uk i drafod eich opsiynau eraill.*

 

Pam y byddai Ruscombe yn fentor effeithiol

  • Angerdd Ruscombe yw bridio, hyfforddi a gwerthu cŵn defaid. Mae’n ddiddordeb sydd ganddo dros y 40 mlynedd diwethaf, gan ei gyfuno’n llwyddiannus â’i rôl flaenorol fel rheolwr fferm i Gyngor Caerffili, lle bu’n gweithio am y 33 mlynedd diwethaf tan ei ymddeoliad diweddar.
  • Ag yntau’n gyfrifol am gysylltiadau cwsmeriaid ar fferm y cyngor, mae gan Ruscombe sgiliau rheoli a goruchwylio da. Ei rôl oedd hyrwyddo fferm y cyngor i bob ymwelydd, gan gynnwys ysgolion, grwpiau ag anghenion arbennig, ac yn enwedig pobl ifanc, gan arddangos ei sgiliau cyfathrebu cryf, parodrwydd i gefnogi ac arwain eraill a’r gallu i weithio dan bwysau ym mhob tywydd.
  • Mae Ruscombe nawr yn edrych ymlaen at dreulio llawer mwy o amser gyda chŵn defaid ac mae hefyd yn gobeithio mynd yn ôl i gystadlu mewn treialon cŵn defaid. Mae’n awyddus i rannu ei wybodaeth â’i gyd-ffermwyr sydd am wella eu sgiliau trin cŵn, gan ddweud ei fod, pan oedd yn iau, yn ffodus i ddysgu oddi wrth lawer o bobl hŷn, brofiadol iawn oedd yn trin cŵn defaid, a dyna pam ei fod bellach yn awyddus i ‘roi rhywbeth yn ôl’ trwy ddod yn fentor.
  • Ag yntau’n hunan-gymhellol ac yn brofiadol wrth gymell eraill, fe welwch fod gan Ruscombe ddigon o amynedd gyda ffermwyr a chŵn – mae'n dweud bod y ddau’n ymateb i garedigrwydd, amynedd ac ymagwedd gyson – ac mae'n edrych ymlaen at eich helpu i gael y gorau gan eich cŵn gwaith.

Busnes fferm presennol

  • Tyddyn a thir ar rent 
  • Diadell o 50 o famogiaid Cymreig yn ŵyna yn yr awyr agored ym mis Mawrth i hyrddod Cheviot Gogledd Lloegr gydag ŵyn yn cael eu pesgi a’u gwerthu ym Marchnad Da Byw Sir Fynwy neu’n cael eu cadw ar gyfer stoc bridio.

Cymwysterau/llwyddiannau/profiad 

  • Rheolwr Fferm Cyngor Caerffili – Goruchwylio ymwelwyr, trin da byw, cneifio, wyna a gwaith cadwraeth megis gosod gwrychoedd, codi waliau cerrig sychion a phlannu coed. Roedd hefyd yn rhan o dîm Rhaglen Datblygu Gwledig Caerffili, a oedd yn cynnwys cynnal diwrnodau a chyrsiau blasu codi waliau cerrig sychion a gosod gwrychoedd.
  • Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan – Technegydd amaethyddol yn gyfrifol am ofalu am y da byw yn yr amgueddfa ac am arddangosiad byw o gneifio defaid, trin cŵn defaid a gosod gwrychoedd.
  • Contractwr amaethyddol, yn gwneud gwaith tymhorol gan gynnwys cneifio a ffensio
  • Coleg Amaethyddol Brynbuga 1978-79 - Tystysgrif Genedlaethol mewn Amaethyddiaeth
  • Hyfforddiant cysylltiedig ag amaeth: hyfforddiant llif gadwyn; gyrru tractor; hyfforddiant ATV; Cymorth Cyntaf; Trin â llaw.
  • Cymdeithas Treialon Cŵn Defaid Mynyddislwyn (Aelod ers 25 mlynedd a thrysorydd am 15 mlynedd)
  • Pwyllgor Cneifio Gelligaer (Aelod)
  • Pwyllgor Sioe Bedwellte (Aelod)
  • Pwyllgor Bridwyr Defaid Mynydd De Cymru (Aelod)

Awgrymiadau i lwyddo mewn busnes  

"Gwell nag athro yw arfer a dyna pam gyda chi ifanc, bydd amynedd, ymagwedd gyson a deng munud o ymarfer y dydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr.”

“Mae ci defaid wedi’i hyfforddi’n dda yn gaffaeliad enfawr i ffermwr prysur, oherwydd heb yr un, bydd eich defaid yn drech na chi cyn hir!”

“Mae’n bwysig i’r ci a’i driniwr ddatblygu cwlwm, ac mae’n helpu i gael dealltwriaeth o ymddygiad defaid, hefyd.”