Pam y byddai Sam yn fentor effeithiol

  • Mae Sam Carey, a raddiodd mewn amaethyddiaeth o Brifysgol Harper Adams, yn ffermio pedair uned laeth ar draws Canolbarth/Gogledd Cymru a Swydd Amwythig, ac mae ganddo brofiad sylweddol wrth sefydlu mentrau ar y cyd.
  • Mae Sam yn angerddol am systemau ffermio sy'n seiliedig ar laswellt, a dyna pam ei fod yn datblygu model ffermio llaeth cynaliadwy a phroffidiol ag ychydig iawn o fewnbynnau, os o gwbl.
  • Ac yntau’n gyfathrebwr da yn Gymraeg a Saesneg, mae Sam yn hoff o helpu pobl i dyfu a gwella eu gweithleoedd.
  • Mae'r ffermwr ifanc entrepreneuraidd hwn yn angerddol am ffermio a'i etifeddiaeth hirdymor fel diwydiant. Cewch eich ysbrydoli a'ch calonogi gan ei wybodaeth, ei brofiad personol a'i frwdfrydedd dros 'wneud pethau'n wahanol'.

Busnes fferm presennol

  • Yn ymwneud â phedair uned laeth dros 2,300 erw   

Cymwysterau/llwyddiannau/profiad  

Gwobrau

  • 2020      Rownd Derfynol - Ffermwr Glaswelltir y Flwyddyn Farmers Weekly
  • 2019      Rownd Derfynol – Gwobr Goffa Sir Bryner Jones
  • 2019      Ffermwr Glaswelltir y Flwyddyn Cymru Gyfan
  • 2017      Bwrsariaeth Goffa Richard John (I astudio dulliau cymell a chymhelliant mewn gwella cyflogaeth yn y diwydiant llaeth)
  • 2015      Gwobr Stocmon y Flwyddyn, Sioe Laeth Cymru NFU Cymru/NFU Mutual
  • 2012      Ysgoloriaeth Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru
  • 2012      Academi Amaeth

Addysg

  • 2007 – 2011   Coleg Prifysgol Harper Adams (HAUC)
  • BSc Amaeth gyda Chymeradwyaeth

Awgrymiadau i lwyddo mewn busnes

"Mae cyfleoedd yn lluosi dim ond pan fydd rhywun yn manteisio arnynt."

"Ddoe roeddwn i'n meddwl fy mod i'n glyfar, felly roeddwn i eisiau newid y byd. Heddiw rwy'n ddoeth, felly rwy'n newid fy hun."

"Mae potensial yn ddiderfyn; mae llwyddiant yn dibynnu ar fentro gweithredu."