Pam y byddai Walter yn fentor effeithiol
-
Walter sy’n gyfrifol am redeg a chynllunio strategol tymor hir y busnes fferm 340 erw y mae’n ei redeg mewn partneriaeth â’i wraig. Ar ôl gwneud y penderfyniad i newid cyfeiriad y busnes yn 1999, mae ganddo brofiad personol o symud oddi wrth odro a ffermio defaid a bîff ar raddfa fawr i ganolbwyntio yn gyfan gwbl ar laswelltir, cnydau a garddwriaeth.
-
Gyda 40 mlynedd a mwy o brofiad yn y diwydiant ffermio, yn rhedeg ei fusnes llwyddiannus ei hun ynghyd â chynrychioli buddiannau ffermwyr a thyfwyr ar nifer o gyrff gwledig gan gynnwys swyddi gwirfoddol a benodir gan weinidogion, mae Walter wedi casglu ystod eang o wybodaeth, cysylltiadau ac arbenigedd.
-
Yn ysgolor Nuffield, ers 2017 mae hefyd wedi bod yn fentor Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield. Mae profiad eang Walter fel ffermwr, dyn busnes ac arbenigwr gwledig profiadol, ynghyd â sgiliau gwrando a holi datblygedig iawn a gafwyd trwy flynyddoedd lawer o gefnogi a mentora eraill, yn nodweddion y mae’n edrych ymlaen at gael eu defnyddio fel mentor Cyswllt Ffermio. Mae ganddo ystod eang o arbenigeddau, felly fe welwch ei fod yn llais profiadol ac awdurdodol ar nifer o bynciau. Disgwyliwch atebion llawn gwybodaeth i’ch cwestiynau!
-
Ar ôl bod â swyddi yn NFU Cymru a CLA Cymru fel aelod o’r bwrdd a Chadeirydd ar nifer o bwyllgorau, mae ei bwyslais bob amser ar wneud popeth y mae’n ei allu i hybu’r diwydiant a busnes gwledig yng Nghymru.
-
Fel ffermwr â’i lygad ar y dyfodol a deinamig sydd wedi rhedeg busnes fferm llwyddiannus a rhywun sydd yn amlwg â hyder a’r sgiliau i newid cyfeiriad strategol ei fferm, mae ganddo hefyd brofiad personol o fentrau arallgyfeirio llai. Fe welwch bod Walter yn llawn cydymdeimlad a dealltwriaeth o’r straen, problemau a heriau a all ddigwydd wrth redeg eich busnes eich hun, a bydd yn barod iawn i rannu ei wybodaeth gyda chi i’ch helpu i gyflawni eich amcanion personol a busnes eich hun.
Busnes fferm presennol
- Partner rheoli (gyda’i wraig) ar bartneriaeth ffermio deuluol
- Perchennog ddeiliad ar 340 erw (tir tywodlyd yn bennaf i glai trwm), gan gynnwys 40 erw o goetir, llyn 15 erw, claddfeydd o’r oes efydd, adeiladau fferm rhestredig Gradd 2*, pedwar bwthyn ac ati.
- Ar hyn o bryd mae’n tyfu 150 erw o datws, sy’n cael eu cynaeafu o ganol Gorffennaf i’w pecynnu.
- Fferm gyda Sicrwydd LEAF o 2022 ymlaen
- 1 gweithiwr amser llawn, a gweithwyr cynhaeaf
- Roedd y fferm gyfan yng Nghynllun Amgylcheddol Tir Gofal 2005 - 2014
- Yn tyfu Miscanthus ar 10 erw fel deunydd bio dan anifeiliaid.
- Yn rhentu’r pysgota ar lyn 15 erw i glwb genweirio lleol.
- Cynllun Grant Coetir ar 10 erw.
- 1999 newid sylfaenol i’r busnes O fod â phump o weithwyr llawn amser, 120 o wartheg godro, 500 o famogiaid magu, 80 o bennau o fîff, 80 erw o datws cynnar, 20 erw o flodfresych y gaeaf, 30 erw o Farlys Gwanwyn, newid i’r busnes a ddisgrifir uchod.
Cymwysterau/llwyddiannau/profiad
- Aelod o fwrdd Amaethwyr Clunderwen a Cheredigion (CCF), trosiant o £60m+ 2018 – presennol
- Cadeirydd Bwrdd CCF 2020-2022
- Mentor Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield 2015 - 2023
- Aelod o Grŵp Tasg a Gorffen Ansawdd Dŵr NFU Cymru 2018 - 2020
- Aelod o Fwrdd Garddwriaeth a Thatws Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr, yn cynrychioli Cymru 2006 – 2014
- Cymrawd o’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol 2015
- Ysgolor Ffermio Nuffield 2002
- Aelod o Gyngor Tatws Prydain 1997 – 2003
- Cwrs Uwch Rheoli Busnes Fferm y Worshipful Company of Farmers 1990
Awgrymiadau da am lwyddiant mewn busnes
“Mae llawer o gyfleoedd gwych mewn ffermio ond mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn cael y rhai iawn i chi a’ch fferm. Mae gwybod beth yw eich sgiliau a’ch diddordeb yn allweddol.”
Lluniwch gynllun, gweithiwch yn galed a bod yn barod i addasu eich cynlluniau gyda phrofiad. Edrychwch o’ch cwmpas, holwch bobl a dysgu oddi wrth gamgymeriadau pobl eraill oherwydd allwch chi ddim fforddio eu gwneud eich hun hefyd.”