Astudiaeth ddichonoldeb ar gynhyrchu Serennyn yng Nghymru

Feasibility study on Squill Production in North Wales

Mae Serennyn gwyn (Drima martima) yn llysieuyn lluosflwydd sy’n frodorol i ardal y Canoldir. Mae’r darn oddfog ar ei waelod yn cynnwys nifer o steroid glycosides (Bufadienolides) sy’n gyfansoddion allweddol mewn sawl moddion peswch.  Yn y blynyddoedd diweddaraf, mae’r planhigyn wedi cael ei ddadwreiddio a’i gasglu’n sylweddol yn ei wlad frodorol, ar gyfer cwmnïau fferyllol, ac mae’r galw am bufadienolide yn cynyddu.

Mae ymchwil diweddar ar raddfa fechan wedi dangos ei bod yn bosib tyfu amrywiaeth benodol o serennyn yng Ngwynedd. Profwyd, hefyd, ei fod yn cynnwys dwywaith yn fwy o’r ansoddau actif na’r amrywiaeth sy’n cael ei gynhyrchu dramor. Bu pum ffermwr yn cymryd rhan yn y prosiect hwn dros gyfnod o 18 mis er mwyn archwilio’r potensial ar gyfer tyfu serennyn mewn gwahanol leoliadau ledled gogledd Cymru, Y nod oedd deall yr amodau tyfu gorau posibl, yn ogystal â thechnegau cynaeafu ac echdynnu.

Canlyniadau’r prosiect;

  • Gellir tyfu serennyn mewn gwahanol leoliadau ledled gogledd Cymru
  • Mae’n cynnwys y cyfansoddion uchel eu gwerth sydd o ddiddordeb i’r diwydiant fferyllol
  • Gellir addasu peiriannau presennol er mwyn gallu plannu a chynaeafu serennyn ar ffermydd
  • Mae argaeledd bylbiau had yn broblem
  • Mae angen rhagor o fanylion ynglŷn ag agronomeg serennyn i gyflawni ei botensial yng Nghymru

Mae’r adroddiad llawn ar gael isod.