Gwella arferion rheoli’r fuches sugno drwy ganolbwyntio ar faeth a hylendid yn ystod y cyfnod lloia er mwyn gwella cynhyrchiant a lleihau’r defnydd o wrthfiotigau

Amcangyfrifir bod problemau iechyd yn costio £133m i ddiwydiant bîff y DU o ran colledion cynhyrchiant a marwolaethau. Mae ysgothi ymysg lloi yn gyfrifol am £11 miliwn o’r colledion hynny. Ar gyfartaledd, dim ond 88% o loi sy'n cael eu geni'n fyw (fesul 100 buwch/heffer sy’n cael ei throi at y tarw) ac o'r rheini, mae 4% yn marw rhwng genedigaeth a diddyfnu. Ymhlith yr achosion cyffredin mae dolur rhydd firsyol buchol (BVD), ysgothi, niwmonia, cryptosporidiwm, Rotafeirws, Cocsidiosis, a feirysau coronaidd (O'Shaughnessy et al., 2015).  

Ar yr un pryd, mae angen dybryd i leihau'r defnydd o wrthfiotigau er mwyn arafu datblygiad Ymwrthedd Gwrthficrobaidd (AMR) ac ymestyn oes ddefnyddiol triniaethau at ddefnydd meddygol ac amaethyddol. Er bod y defnydd o wrthfiotigau yn gyffredinol yn is mewn systemau bîff o'u cymharu â systemau defaid, maent yn cael eu defnyddio'n helaeth mewn systemau bîff  i drin rhai problemau allweddol gan gynnwys heintiau E-coli, niwmonia a chocsidiosis. 

Mae'r prosiect yn cynnwys pedwar ffermwr o Geredigion a Sir Gaerfyrddin sy’n cadw buchesi rhwng 30 a 45 o wartheg sugno. Bydd y prosiect yn rhedeg rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Mehefin 2022. Eu nod yw gwella'r ffordd y maen nhw’n rheoli maeth eu buchesi sugno ar adeg lloia i wella iechyd a chynhyrchiant anifeiliaid, gan leihau’r defnydd o wrthfiotigau ar yr un pryd. Byddant yn gweithio tuag at hyn drwy ddatblygu a gweithredu cynlluniau rheoli a fydd yn cynnwys:

  • Llunio dognau yn seiliedig ar broffiliau metabolig a dadansoddi’r bwyd/porthiant
  • Strategaethau i gynyddu ansawdd ac amsugniad colostrwm
  • Strategaethau ar gyfer rheoli clefydau'n ataliol, gan gynnwys protocolau glanhau a hylendid, yn seiliedig ar ganlyniadau dadansoddi deunydd gorwedd, samplu ysgarthion a chanlyniadau post-mortem
  • Fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau ar driniaethau gwrthfiotig

Caiff effaith y dull hwn o ymdrin ag iechyd a chynhyrchiant anifeiliaid ei hasesu dros y ddwy flynedd drwy fesur dangosyddion perfformiad allweddol sy'n ymwneud â thwf a datblygiad, marwolaethau lloi ac achosion o glefydau allweddol. Bydd unrhyw ostyngiadau yn y defnydd o wrthfiotigau yn cael eu mesur yn erbyn targedau RUMA 2020 a'u monitro gan ddefnyddio adnodd AHDB Electronic Medicine Hub (eMH) ar gyfer bîff a defaid.

Y gobaith yw y bydd manteision y prosiect yn cynnwys:

  • Gwella iechyd buchod a stoc ifanc
  • Defnyddio llai o wrthfiotigau mewn buchesi bîff sugno
  • Lleihau costau a chynyddu cynhyrchiant
  • Datblygu systemau monitro cadarn
  • Gallu gwneud penderfyniadau gwell yn seiliedig ar yr uchod