31 Mawrth 2022

 

Dr Emma Davies: IBERS, Prifysgol Aberystwyth.

 

  • Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r ffactorau risg sy’n gysylltiedig â chynnydd mewn morbidrwydd a marwoldeb ymysg lloi er mwyn gallu cyflwyno strategaethau rheoli i liniaru’r risgiau hyn.
  • Mae’r prif strategaethau ar gyfer gwella iechyd y fuches sugno yn canolbwyntio ar leihau genedigaethau anodd (dystocia), rheoli colostrwm yn effeithiol, a hylendid a bioddiogelwch da. Bydd y strategaethau hyn hefyd yn helpu i leihau’r defnydd o wrthfiotigau.
  • Mae datblygu ac adolygu cynllun iechyd yn rheolaidd gyda milfeddyg y fferm yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y strategaethau iechyd gorau posibl ar waith ar gyfer y fuches a’u bod yn gweithio’n effeithiol.

 

Cyflwyniad

Mae lefelau iechyd gwael mewn gwartheg a lloi’n effeithio’n sylweddol ar berfformiad buches sugno bîff. Gall nifer o ffactorau fod yn gyfrifol am iechyd gwael, megis diffyg rheoli maeth, amgylchedd llai na delfrydol yn y siediau, neu fwy o glefydau. Gall y ffactorau hyn arwain at leihad mewn twf lloi, cynnydd mewn morbidrwydd a marwoldeb y gwartheg a’r lloi, neu gynnydd mewn costau milfeddygol, gyda’r posibilrwydd o arwain at oblygiadau economaidd difrifol.

Mae nifer o ffermwyr yng Nghymru’n awyddus i wella iechyd eu buchesi o gwmpas amser lloia. Mae un prosiect Partneriaeth Arloesi Ewrop yn cefnogi grŵp o ffermwyr yn Sir Gâr a Cheredigion i ddatblygu strategaethau rheoli i wella iechyd a pherfformiad eu buchesi bîff ac i leihau eu defnydd o wrthfiotigau. Bydd y strategaethau hyn, a ddatblygwyd gyda milfeddygon y ffermydd, yn cynnwys gwella cyfansoddiad y dogn, gwella ansawdd a chymeriant colostrwm, ac atal achosion o glefydau heintus. Bydd fframwaith i gynorthwyo gyda’r broses o wneud penderfyniadau ynglŷn â’r defnydd o wrthfiotigau hefyd yn cael ei ddefnyddio.

 

 

Marwoldeb lloi

Cyfradd farwoldeb uchel ymysg lloi yw un o’r dangosyddion mwyaf arwyddocaol o ran iechyd a lles gwael o fewn buches sugno bîff. Y gyfradd farwoldeb cyfartalog ar gyfer lloi sugno bîff ar ôl genedigaeth yw 3-6%. Mae’r risg o farwoldeb yn uwch ymysg lloi sy’n iau na 3 mis oed, gydag oddeutu  50-55% o loi’n marw o fewn y pythefnos cyntaf. Mae’r ffactorau risg sy’n gysylltiedig â marwoldeb uwch mewn lloi yn cynnwys dystocia (genedigaeth araf neu anodd), pwysau isel ar enedigaeth, a genedigaeth yn ystod y gaeaf neu ddechrau’r gwanwyn. Mae oedran ac esgoredd y fuwch hefyd yn effeithio ar hyn.

Mae mwy o risg marwoldeb ymysg lloi sy’n profi genedigaeth anodd  o ganlyniad i fwy o risg o niwed corfforol a’u bod yn cymryd mwy o amser i sefyll a sugno. Mae lloi sydd wedi cael genedigaeth anodd hefyd yn fwy tebygol o fod ag atgyrch sugno gwannach. Mae’r effeithiau hyn yn arwain at oedi wrth lyncu colostrwm, gan arwain at amsugno llai o wrthgyrff a lleihad yn effeithlonrwydd imiwnedd goddefol rhwng y fuwch a’r llo. Mae lloi sydd â’r risg fwyaf o brofi genedigaeth anodd yn cynnwys lloi gwryw, lloi sy’n efeilliaid, a lloi sy’n cael eu geni i wartheg cyntafesgorol. Daeth un astudiaeth i’r casgliad bod 51.2 % o loi a anwyd i fuchod cyntafesgorol angen cymorth yn ystod y cyfnod lloia, o’i gymharu â 29.4% o loi a anwyd i fuchod gydag esgoredd o 3-5.

Mae perygl marwoldeb mewn lloi rhwng 1-5 mis oed hefyd yn cynyddu ymysg lloi a anwyd i fuchod cyntafesgorol. Yn ogystal â’r risgiau cynyddol yn gysylltiedig â genedigaethau anodd, gallai hyn fod oherwydd bod buchod iau yn cynhyrchu llai o laeth a bod crynodiadau gwrthgyrff yn y colostrwm yn is. I loi llai na 30 diwrnod oed, gwelwyd fod risg marwoldeb hefyd yn cynyddu pan fo llo’n cael ei eni i fuwch gydag esgoredd uwch na phump. Mae hyn wedi cael ei briodoli i’r ffaith bod statws iechyd y gwartheg hyn yn fwy tebygol o fod yn is, a dibyniaeth uchel y llo ar y statws iechyd hwn yn ystod yr ychydig fisoedd cyntaf.

Er bod lloi sy’n cael eu geni’n ysgafnach yn profi llai o risg o enedigaeth anodd na lloi trwm iawn, yn ystod y cyfnod cynnar ar ôl geni, mae pwysau trwm ar enedigaeth yn ffactor sy'n gwarchod, gan fod y lloi yn tueddu i fod yn fwy bywiog ac yn gallu gwrthsefyll amodau amgylcheddol gwael.  Mae lloi sy’n cael eu geni yn y gaeaf a’r gwanwyn yn profi risg uwch o farwoldeb na lloi sy’n cael eu geni yn yr haf, o ganlyniad i dymheredd amgylchol is, mwy o amrywiaeth rhwng tymheredd y dydd a’r nos, a mwy o lawiad.

Mae lloi sy’n cael eu geni yn y gaeaf yn fwy agored i dywydd gwael ac felly mae’r risg o farwoldeb yn uwch nag ymysg lloi sy’n cael eu geni yn yr haf.

 

Mae systemau imiwnedd lloi newyddanedig yn wannach ac maent yn agored iawn i glefydau. Yn dilyn genedigaeth anodd, mae’r rhesymau mwyaf cyffredin a adroddir dros forbidrwydd a marwoldeb lloi yn cynnwys anhwylderau treulio a chlefydau heintus megis dolur rhydd a niwmonia. Mae dolur rhydd ar ôl geni yn cael ei achosi’n aml gan heintiau firysol megis y firws dolur rhydd firysol buchol (BVDV), rotafirws buchol (BRV) a pharfofeirws buchol (BPV). Fodd bynnag, mae heintiau parasitaidd gyda llyngyr a pharasitiaid protosoaidd megis Cryptosporidium parvum a rhywogaethau Eimeria sy’n achosi cryptosporidiosis a coccidosis hefyd yn achosion cyffredin. Mae heintiau anadlol mewn lloi yn aml yn amlffactoraidd, gan fod heintiau firysol yn aml yn achosi niwmonia difrifol. Gall ystod eang o firysau fod yn gyfrifol am achosi heintiau anadlol firysol mewn lloi, megis bovine herpesvirus-1 (BHV-1), parainfluenza virus-3 (PI-3), a bovine respiratory syncytial virus (BRSV). Mae BVDV hefyd yn cael ei gydnabod yn eang fel un o’r prif ffactorau pathogenig mewn heintiau anadlol, gan ei fod yn arwain at atal imiwnedd y lloi, gan gynyddu’r tebygolrwydd y byddant yn dioddef haint bacterol eilaidd. Mae heintiau bacterol a mycoplasma yn aml yn cael eu hachosi gan organebau cydfwytaol sy’n mynd yn wenwynig yn dilyn cyfnod o straen (gan gynnwys haint firsyol neu ddiffyg rheolaeth, dulliau trin neu amodau amgylcheddol. Mae organebau bacterol cyffredin sy’n gysylltiedig â phathogenesis heintiau anadlol mewn loi yn cynnwys Mycoplasma bovis, Mannhaemia haemolytica, Pasturella multocida a Histophilus somni, ymysg eraill.

Mae heintiau bacterol cyffredin eraill ymysg lloi’n cael eu hachosi wrth i facteria fynd i mewn o’r gwaed, naill ai o’r bogail, rhan uchaf y llwybr anadlol neu’r llwybr treulio. Gall hyn arwain at ystod o gyflyrau megis omphalitis (clwy’r bogail), septicaemia, peritonitis, neu bolyarthritis heintus (clwy’r cymalau).

 

Rheoli lloi i wella iechyd y fuches

Mae angen rheoli achosion o salwch systemau treulio ac anadlol er mwyn gwella iechyd a gallu lloi ifanc i oroesi. P’un a yw lloi’n cael eu geni dan do neu yn yr awyr agored, mae angen iddynt gael eu geni mewn amgylchedd glân a derbyn cyflenwad digonol o golostrwm i frwydro heriau pathogenig o ganlyniad i asiantau feirysol, bacterol a pharasitaidd.

Colostrwm

Dylid archwilio lloi ar unwaith ar ôl genedigaeth a dylid eu harsylwi i sicrhau eu bod yn gallu sefyll a sugno. Mae diffyg cymeriant colostrwm digonol wedi cael ei nodi’n ffactor risg sylweddol ar gyfer clefydau heintus, ac mae sicrhau bod lloi’n derbyn digon o golostrwm o ansawdd digonol yn hanfodol er mwyn sichrau bod lloi yn datblygu imiwnedd goddefol. Mae’n bwysig canolbwyntio’n benodol ar loi sy’n cael eu geni i fuchod cyntafesgorol gan eu bod mewn mwy o berygl o ddioddef genedigaethau anodd, llai o golostrwm a llai o grynodiadau gwrthgyrff.

Er mwyn sicrhau bod lloi’n derbyn cymaint o wrthgyrff goddefol â phosibl, dylent yfed o leiaf 3 litr o golostrwm o fewn y 2 awr gyntaf, ac yfed 10% o bwysau eu cyrff o fewn y 12 awr gyntaf, cyn i’r perfedd orffen amsugno gwrthgyrff tua 24-36 awr ar ôl genediaeth. Bydd sicrhau bod pwysau’r llo’n cael ei fesur yn gywir yn cynorthwyo i amcangyfrif faint o golostrwm sydd ei angen ar y llo, a gellir cymryd sampl o’r colostrwm i gael amcan o’i ansawdd. Er mwyn pennu a yw lloi’n cymryd digon o golostrwm yn naturiol, amcangyfrifir bod modd sugno litr o fewn tua 10 munud. Felly, dylai lloi sugno am gyfanswm o 25-30 munud yn ystod y ddwy awr gyntaf i yfed 3 litr o golostrwm, ynghyd â sugno wedi hynny. Os bydd llo yn annhebygol o fod wedi llyncu digon o golostrwm yn naturiol, gellir ei gynorthwyo i sugno, neu gellir bwydo colostrwm yn uniongyrchol i’r llo drwy ddefnyddio potel neu diwb ystumog. Wrth fwydo 3 litr o golostrwm, mae dulliau bwydo potel a thrwy diwb ystumog yn arwain at lefelau tebyg o serwm gwrthgyrff. Fodd bynnag, wrth fwydo cyfaint o 1.5 litr neu lai, mae bwydo gyda photel yn cael ei ffafrio gan fod hyn yn fwy tebygol o annog rhigol y llwnc i gau, a chludo colostrwm yn llwyddiannus i’r abomaswm, gan sicrhau bod cymaint o wrthgyrff â phosibl yn cael eu hamsugno. Gellir casglu colostrwm gan y fuwch ar ôl genedigaeth, neu gellir darparu colostrwm ychwanegol gan fuwch arall neu gyflenwad allanol. Gellir asesu colostrwm yn gymharol rwydd drwy ddefnyddio colostromedr neu reffractomedr, ac mae colostrwm o ansawdd uchel yn cynnwys crynodiad IgG o >50g/L.  Os bydd colostrwm  ychwanegol yn cael ei ddefnyddio, mae’n hanfodol ei fod yn cael ei drin mewn modd mor aseptig â phosibl er mwyn lleihau halogiad bacterol.

Mae’n hanfodol i loi newyddanedig dderbyn digon o golostrwm o fewn 12 awr gyntaf eu bywydau. Gellir amcangyfrif ansawdd colostrwm gan ddefnyddio colostromedr (ar y dde).

 

Siediau

Mae cynnal amgylchedd glân yn y sied yn hanfodol er mwyn sicrhau iechyd lloi. Dylai ardaloedd dan do gael eu carthu a’u diheintio’n drylwyr cyn cael eu defnyddio a rhwng gwahanol anifeiliaid. Dylid cadw at bob mesur hylendid cyffredinol da, gan gynnwys darparu digon o ddeunydd gorwedd glân a sych, cyflenwadau dŵr sy’n cael eu diheintio’n rheolaidd, ac ardaloedd bwydo sy’n atal porthiant rhag cael ei halogi.  Os bydd gwartheg yn cael eu cadw dan do gyda’i gilydd ac yn lloia mewn ardal fechan, gwelwyd fod symud parau o wartheg a lloi o’r amgylchedd lloia i ardal fagu o fewn 48 awr yn lleihau colledion lloi, gan fod hyn yn osgoi gorboblogi’r ardal loia. Mae rheoli draenio a llif aer hefyd yn hynod bwysig gan fod cynnydd mewn lleithder a diffyg awyru’n gallu cyfrannu at gynnydd mewn achosion o glefydau. Dylid sicrhau bod llif aer digonol mewn siediau i sicrhau bod yr aer bob amser yn ffres, heb adael lloi yn agored i ddrafft.

Mae ystyriaethau rheoli tebyg hefyd yn bwysig ar gyfer lloi sy’n cael eu geni yn yr awyr agored. Dylai dwysedd stocio fod yn ddigon isel fel bod amodau yn y cae’n parhau i fod yn hylan, gyda digon o orchudd llystyfiant, draenio da, a dim ardaloedd mwdlyd. Os byddwch yn darparu porthiant ychwanegol, dylid symud ardaloedd bwydo’n rheolaidd a dylai ffynonellau dŵr artiffisial gael eu diheintio’n rheolaidd. Pan fyddant yn cael eu cadw dan do, mae angen gwarchod lloi ifanc rhag amodau amgylcheddol eithafol. Gellir gwneud hyn drwy ddarparu cysgod agored mewn caeau sy’n addas ar gyfer y fuwch a’r llo, gan fod y llo’n annhebygol o adael ei fam i chwilio am gysgod pan mae’n ifanc iawn. Yn ogystal, gan fod genedigaeth yn yr haf wedi cael ei nodi fel ffactor sy’n diogelu rhag marwoldeb mewn lloi hyd at 5 mis oed, gall strategaeth fridio hirdymor sicrhau bod lloi’n cael eu geni ar ddiwedd y gwanwyn ac yn ystod misoedd dechrau’r haf.

Mae siacedi lloi wedi’u hinswleiddio’n cael eu defnyddio’n eang o fewn y sector llaeth i gadw lloi’n gynnes ac yn sych, yn enwedig yn ystod cyfnodau o dywydd oer. Mae hyn yn bwysig, gan fod angen i loi ddefnyddio egni i gynnal tymheredd eu cyrff mewn tywydd oer. Mae hynny’n golygu bod llai o egni ar gael ar gyfer twf a gweithgaredd imiwnedd, gan olygu bod lloi mewn mwy o berygl o ddioddef clefydau. Er efallai na fyddai siacedi lloi yn ymarferol na’n fuddiol ym mhob sefyllfa mewn systemau sugno bîff gan fod lloi yn cael mynediad ad lib at laeth a gwres y fam, gallai siacedi lloi fod yn fuddiol iawn gyda lloi agored i niwed, megis y rhai sydd wedi cael genedigaethau anodd, wedi derbyn ychydig iawn o golostrwm, neu’r rhai sydd eisoes yn sâl.

Ffactorau eraill pwysig i’w hystyried o ran rheolaeth

Mae trin y bogail gyda diheintydd addas, megis toddiant ïodin 7% ar unwaith ar ôl genedigaeth yn hanfodol er mwyn atal heintiad bacterol yn y bogail. Mae ffactorau rheoli eraill megis y dull o ysbaddu lloi gwryw hefyd i’w weld yn effeithio ar iechyd lloi. Daeth un astudiaeth i’r casgliad bod defnyddio bandiau elastig bychain o fewn y ddau ddiwrnod cyntaf yn arwain at gynnydd o 2% yn y risg o ddolur rhydd, a chynnydd o 1.4% ym marwoldeb lloi yn ystod yr wythnos gyntaf o’i gymharu â dulliau eraill a ddefnyddir wedi i’r lloi fod yn ddeufis oed.

Mae astudiaethau hefyd wedi dangos bod risg marwoldeb ar gyfer lloi a stoc ifanc yn cynyddu gyda maint y fuches. Mae hyn yn gysylltiedig â risg cynyddol o drosglwyddo clefydau ymysg grwpiau mwy a chynnydd ym mhresenoldeb organebau pathogenig wrth i’r tymor lloia fynd yn ei flaen. Felly, dylai strategaethau stocio sicrhau bod lloi o oedrannau gwahanol iawn yn cael eu cadw ar wahân, a bod anifeiliaid unigol a grwpiau’n cael eu cymysgu cyn lleied â phosibl. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth gyflwyno anifeiliaid cyfnewid, gan fod buchesi sy’n cynnwys gwartheg a brynwyd i mewn yn ystod y mis cyn lloia yn profi cyfraddau marwoldeb uwch na buchesi sydd wedi cael eu cadw’n sefydlog.

P’un a yw anifeiliaid yn cael eu cadw dan do neu yn yr awyr agored, dylid dilyn protocolau bioddiogelwch llym i leihau lledaeniad clefydau rhwng ffermydd, a rhwng gwahanol grwpiau o dda byw. Mae hyn yn cynnwys diheintio pobl ac offer yn rheolaidd. Dylid hefyd cadw parau buwch a llo oddi wrth yr holl stoc ifanc eraill, gan gynnwys gwartheg a dafaid, a dylid atal cyswllt uniongyrchol rhwng y grwpiau hyn drwy ffiniau caeau. Os bydd llo’n mynd yn sâl, mae’n bwysig bod y fuwch a’r llo’n cael eu gwahanu oddi wrth y fuches i leihau lledaeniad clefydau heintus.

Pan fo ffermwyr yn amau salwch, mae’n hanfodol eu bod yn siarad gyda’u milfeddyg er mwyn gallu gwneud diagnosis cywir, a bod modd rhoi’r driniaeth orau yn unol â chyngor milfeddygol. Gall milfeddygon hefyd helpu i ddatblygu protocolau brechu, rhaglenni rheoli parasitiaid, a chynnig cyngor ynglŷn â bioddiogelwch. Er enghraifft, mae nifer cynyddol o ffermwyr bîff sugno bellach yn canfod statws BVDV eu buchesi eu hunain, yn cynnal profion BVDV a Johne’s cyn prynu, yn brechu stoc bridio rhag BVDV, rhinotracheitis buchol heintus, rhywogaethau Leptospira, a Salmonela, ac yn brechu lloi rhag pathogenau clostridiol ac anadlol cyffredin.  Gall ffermwyr yng Nghymru gymryd rhan yn y rhaglen Gwaredu BVD sy’n darparu cyllid a chymorth gan weithwyr proffesiynol i waredu BVD o fuchesi.

Rheoli gwartheg er mwyn gwella iechyd y fuches

Mae’r risg marwoldeb ar gyfer gwartheg ar ei uchaf o fewn y 30 diwrnod cyntaf ar ôl lloia, gyda’r risg ar gyfer gwartheg cyntafesgorol yn uwch na gwartheg sydd wedi lloia’n flaenorol. Daeth un astudiaeth i’r casgliad bod risg marwoldeb ymysg gwartheg cyntafesgorol yn uwch pan fo’r fuwch yn lloia am y tro cyntaf pan mae hi dros 44 mis oed, o’i gymharu â gwartheg llai na 36 mis oed. Yn ogystal, mewn gwartheg sydd wedi lloia’n flaenorol, roedd y risg marwoldeb isaf ymysg gwartheg a oedd wedi lloia dair i bum gwaith, ond yn cynyddu’n sylweddol gyda phob cyfnod lloia wedi hynny. Mae ffactorau eraill megis erthylu a geni lloi marwanedig hefyd yn cynyddu’r risg o farwoldeb i’r gwartheg, ac mae genedigaethau anodd yn cynyddu risg marwoldeb yn sylweddol o fewn y saith diwrnod ar ôl lloia.

Mae strategaethau i leihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â genedigaethau anodd yn bwysig iawn o safbwynt goroesiad y fuwch a’r llo fel ei gilydd. Mae strategaeth fridio hirdymor sy’n canolbwyntio ar ddethol heffrod a theirw ar gyfer rhwyddineb lloia yn un ffordd y gellir lleihau genedigaethau anodd ar draws y fuches. Gellir hefyd lleihau’r risg o enedigaethau anodd drwy sicrhau bod y fuwch yn geni llo am y tro cyntaf ar yr oedran iawn. Mae addysgu a hyfforddi gweithwyr fferm am gamau beichiogrwydd hefyd yn bwysig iawn fel ei bod hi’n bosibl adnabod genedigaethau arferol, adnabod arwyddion o enedigaethau anodd, a gallu penderfynu ar unrhyw ymyriadau angenrheidiol yn sydyn. Gall lleihau effeithiau dystocia drwy gynorthwyo gyda genedigaethau anodd hefyd leihau nifer yr achosion o glefydau, gan fod buchesi bîff nad ydynt byth yn cynorthwyo gyda genedigaethau yn cael oddeutu 5% yn fwy o achosion o ddolur rhydd mewn lloi na’r rheini sy’n ymyrryd yn achlysurol.

Mae ffactorau eraill yn ymwneud â maeth wedi cael eu cysylltu gyda 25% o farwolaethau heffrod a gwartheg mewn systemau cynhyrchu bîff, gyda chyflyrau megis ymchwydd yn y rwmen (clwy’r boten), myopathi (yn gysylltiedig â diffyg fitamin E neu seleniwm), gwenwyn nitradau a pholioencephalomalacia wedi cael eu nodi. Mae’r rhain yn amlygu’r amgen i reoli maeth yn ofalus drwy gydol bywyd y fuwch, ond yn benodol yn ystod beichiogrwydd a’r cyfnod llaetha. Mae rheoli’r diet i sicrhau bod gwartheg yn cyrraedd sgôr cyflwr corff delfrydol o 2.5-3 (ar raddfa 5 pwynt) wrth loia yn bwysig iawn i leihau nifer y genedigaethau anodd. Fodd bynnag, dylid gwneud unrhyw newidiadau i gyflwr y corff ar ddechrau beichiogrwydd a byth ar ddiwedd beichiogrwydd. Mae rheoli egni, protein a statws mwynau gwartheg yn ofalus hefyd yn bwysig i sicrhau eu bod yn cynhyrchu colostrwm o ansawdd uchel a digon o laeth, ac i annog gwellhad buan ar ôl geni. Mae cyflyrau ôl-enedigaeth megis ôl-frych, bwrw’r llawes a mastitis hefyd yn cael eu hadrodd yn gyffredin ymysg gwartheg bîff, gan ddangos bod strategaethau rheoli i gyflymu adferiad ar ôl geni ac i reoli’r cyfnod pontio yn hynod bwysig.

Mae sicrhau bod y gwartheg yn cael y diet gorau posibl cyn beichiogi yn bwysig i sicrhau ei bod yn lloia gyda sgôr cyflwr corff o 2.5-3. Mae gwartheg gyda sgôr cyflwr corff is na 2.5 (ar y chwith) ac uwch na 3 (Ar y dde) mewn mwy o berygl o ddioddef genedigaethau anodd.

Crynodeb

Mae’r ychydig oriau cyntaf ar ôl geni llo yn hollbwysig ar gyfer iechyd a  goroesiad y fuwch a’r llo. Mae strategaethau rheoli wrth loia sy’n canolbwyntio ar effeithiau genedigaethau anodd, sicrhau bod y llo’n derbyn digon o golostrwm, a rheoli siediau ac amodau amgylcheddol yn hanfodol. Mae arsylwi’r fuwch a’r llo’n rheolaidd yn ystod yr wythnos gyntaf yr un mor bwysig er mwyn sicrhau bod y fuwch wedi gwella’n dilyn genedigaeth ac yn arddangos ymddygiad mamol da, a bod y llo’n derbyn digon o laeth, yn fywiog, ac nad yw’n agored i niwed o ganlyniad i dywydd gwael. Mae arsylwi’n rheolaidd hefyd yn galluogi ffermwyr i ganfod symptomau clinigol cynnil yn fuan. Mae cynnal perthynas weithio agos gyda milfeddyg y fferm hefyd yn hanfodol er mwyn gallu gweithredu’r mesurau triniaeth ac atal gorau posibl.

 

Os hoffech fersiwn PDF o'r erthygl hon, cysylltwch â heledd.george@menterabusnes.co.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Phytoremediation: The Role of Plants to Purify Agricultural Wastewaters
Phytoremediation: The Role of Plants to Purify Agricultural Wastewaters
Dr Natalie Meades: IBERS, KEHub, Aberystwyth University. April
Drudwy ar Ffermydd: Strategaethau Diogelu a Rheoli
Dr Natalie Meades: IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Rhagfyr 2023