Lleihau’r defnydd o wrthfiotigau ar ffermydd defaid dros gyfnod ŵyna trwy reoli arfer gorau a gwella maeth a hylendid

Reducing antibiotic use on sheep farms at lambing time through best practice management, by improving nutrition and hygiene

Disgrifiad o’r Prosiect

Mae’r baich o heintiau gydag ymwrthedd gwrthficrobaidd yn cynyddu ledled y byd ac yn fygythiad difrifol iechyd anifeiliaid a phobl. Bu’r prosiect hwn yn ymchwilio a fyddai newid arferion rheoli’r ddiadell, yn bennaf trwy wella maeth a hylendid, yn gallu lleihau’r angen ar gyfer gwrthfiotigau, heb effeithio’n negyddol ar gynhyrchiant nac iechyd a lles anifeiliaid.

Roedd nodau’r prosiect yn cyd-fynd â Chynllun Gweithredu Pum Mlynedd i Gymru a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru sy’n anelu at leihau ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn anifeiliaid a’r amgylchedd.

Trwy ganolbwyntio ar iechyd, maeth a hylendid y ddiadell yn y sied ŵyna, llwyddodd y grŵp i wneud cynnydd sylweddol o ran lleihau’r angen am wrthfiotigau.

Canlyniadau’r prosiect

  • Roedd dadansoddiad o’r silwair wedi annog y grŵp i archwilio ble y byddai’n bosibl gwneud gwelliannau yn y broses o gynhyrchu silwair er mwyn gwella ansawdd. Roedd y dadansoddiad hefyd yn galluogi’r ffermwyr i greu dogn cywir er mwyn teilwra’r ychwanegion i fodloni gofynion y mamogiaid.
  • Roedd y proffil metabolig a luniwyd trwy samplu gwaed mamogiaid cyn ŵyna yn amlygu unrhyw broblemau’n ymwneud ag iechyd a maeth y diadelloedd, gan alluogi ffermwyr i gymryd camau unioni.
  • Gellir mesur ansawdd colostrwm ar y fferm yn rhwydd iawn gan ddefnyddio reffractomedr, ac mae’n arwydd defnyddiol p’un a yw’r ŵyn yn derbyn y maeth pwysig hwnnw ar ddechrau eu bywydau.
  • Mae hylendid yn y sied ŵyna yn hanfodol, a llwyddwyd i sicrhau hyn trwy lanhau a diheintio corlannau’n drylwyr, diheintio tiwbiau bwydo a gwisgo menig wrth gynorthwyo gyda genedigaethau.
  • Ar gyfartaledd, llwyddodd ffermwr yn y grŵp i sicrhau lleihad o 60% yn y gwrthfiotigau a ddefnyddiwyd ganddynt yn ystod y cyfnod ŵyna.

Am ragor o fanylion ynglŷn â’r hyn a gyflawnwyd gan y grŵp, gweler yr adroddiad llawn isod.