Rheoli clwy tatws gan ddefnyddio elfennau o blanhigion cynhenid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd

Potato blight control using components of indigenous non food waste plants

Gall clwy tatws daro elw ffermydd yn galed gan y gall yr afiechyd arwain at weld y cnwd yn methu’n llwyr. Dengys amcangyfrifon diweddar y gall rheoli’r afiechyd cyffredin gostio £70m anhygoel i’r diwydiant ar draws y Deyrnas Unedig ar flwyddyn ddrwg.

Mae’r prosiect EIP yng Nghymru hwn yn helpu i ddatblygu bio-blaleiddiad naturiol trwy ddefnyddio cyfansoddyn cemegol (saponin) a geir mewn eiddew cyffredin.

“Gall y prosiect hwn arwain at gyfle newydd sbon yn y farchnad, i dyfu eiddew yn fasnachol, a defnyddio’r saponin naturiol sydd ynddo i helpu tyfwyr organig i leihau effaith clwy’r tatws”

Arweiniwyd y prosiect gan gynrychiolwyr o’r Sarvari Research Trust ac Emerald Crop Science a Naturiol Ltd ac mae’r plotiau treialu ar ddwy fferm, Ty’n yr Helyg ger Llanrhystud a Henfaes ym Mhrifysgol Bangor. Fe wnaethant brofi dau ddewis newydd i reoli clwy’r tatws; Hederin sy’n cael ei wneud o ddail eiddew ac OptiYield Diamond sy’n hybu tyfiant.

 

Deilliannau’r prosiect

  • Roedd y driniaeth Hederin yn arafu datblygiad y clwy tatws ond yn gyffredinol roedd yn llai effeithiol na’r ffwng-laddwr safonol
  • Pan oedd Hederin yn cael ei gyfuno ag OptiYield Diamond roedd yr effaith yn fwy effeithiol ac roedd hyn yn dangos potensial fel dull o reoli clwy tatws
  • Gall y cyfuniad hwn fod yn ddefnyddioln mewn rhaglen reoli plâu integredig yn arbennig i dyfwyr organig
potato blight graph

 

Gellir gweld rhagor o fanylion am y canfyddiadau ar gyfer y prosiect hwn yn yr adroddiad isod.