Gareth Thomas

gareth thomas crop 0 130x158 0

Ar ôl astudio yng Ngholeg Glynllifon, dychwelodd Gareth Thomas (22 oed) at fferm bîff a defaid y teulu yn Tregynrig Fawr, Bae Cemaes.

Roedd yn cydnabod fod y profiad gyda’r Academi Amaeth wedi bod yn ‘wych’ yn enwedig gan ei fod wedi canfod partner busnes newydd yn gwbl annisgwyl!  Mae Gareth a Jim Ellis o Bwllheli, sydd hefyd yn ffermwr ifanc brwdfrydig a’r ddau’n ymgeiswyr ar gyfer Rhaglen Busnes ac Arloesedd, wedi penderfynu cydweithio ac eisoes wedi dechrau’r gwaith ymchwil ar y farchnad a chyflenwyr ar gyfer eu busnes diodydd egni iach newydd.

“Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl, ond mae’r Academi Amaeth wedi ehangu fy ngwybodaeth am y diwydiant ac wedi rhoi llawer o hyder i mi.  Rydw i wedi cyfarfod â llawer o bobl newydd ffantastig sydd wedi fy ysbrydoli a fy annog.”

Mae Gareth yn dweud bod y cyfuniad o weithio mewn grŵp gyda phobl sydd â’r un meddylfryd ac yn parchu syniadau a gallu ei gilydd wrth iddyn nhw gael eu mentora a’u hannog i feddwl am ffyrdd newydd a mwy effeithlon o weithio wedi newid ei fywyd.

“Roedd yna gymaint o sgiliau yn ein grŵp ni ac fe ddaeth yn amlwg bod gennym ni lawer i’w ddysgu oddi wrth ein gilydd yn ogystal â thrwy’r rhwydweithio ac arweiniad gwych roedd yr Academi yn eu darparu,” dywedodd Gareth.  

Mae Gareth yn dweud bod taith astudio’r grŵp i’r Swistir wedi rhoi cyfle unigryw iddyn nhw weld sut mae’r ffermwyr yn gweithredu cytundebau masnachu tu allan i’r Undeb Ewropeaidd (UE).

“Mae archwilio dulliau mwy effeithlon o weithio, yn ogystal ag ystyried opsiynau masnachu newydd, yn hanfodol.    Rydw i wedi gweld ffyrdd o wneud pethau’n gost effeithiol ac yn awyddus i roi’r pethau rydw i wedi eu dysgu am gylchdroi stoc a lleihau costau mewnbwn ar waith adref.”

“Roeddwn i’n edmygu dull gweithio ecogyfeillgar o beidio trin y ddaear sydd gan ffermwyr Y Swistir, ac mae hyn yn golygu eu bod yn tyfu cnydau i wrteithio’r pridd yn hytrach nag aredig, a gallai hyn fod yn berthnasol i nifer o ffermwyr âr yng Nghymru.”