Huw Jones

huw jones crop 130x139 0

Aberhonddu, Brycheiniog

Gydag angerdd am amaeth a dymuniad i sicrhau gyrfa o fewn y diwydiant, mae Huw yn awyddus i ehangu menter bresenol ei fferm yn ogystal â thaclo’r diwydiant twristiaeth ac arallgyfeirio’r busnes.

Mae Huw yn ffermio dau ddaliad mewn partneriaeth â’i rieni a’i wraig, Kayleigh, a ganddynt 3 blentyn ifanc. Mae wedi mabwysiadu system wyna allan, gan ganolbwyntio ar leihau costau cynhyrchu tra’n gwella’r allbwn fesul hectar. Mae’r fferm hefyd yn ymgorffori system magu lloeau, hyd nes eu bod yn anifeiliaid stôr.

Yn 2013, bu’n llwyddiannus wrth ymgeisio am y Cynllun YESS, a roddodd hwb i Huw roi stamp ei hunan ar fusnes y teulu. Mae Huw wedi treulio amser yn Awstralia a Seland Newydd, a agorodd ei lygaid i systemau ffermio byd-eang. Rhoddodd y profiad ddealltwriaeth iddo i gynyddu cynhyrchiant a gwella effeithlonrwydd ei fusnes.

Mae Huw yn gwerthfawrogi’n fawr y cyfleoedd a roddwyd iddo gan Fudiad y Ffermwyr Ifanc a’r Gymdeithas Glaswelltir yn Sir Frycheiniog. Mae’r ddau fudiad wedi rhoi hyder ac arweiniad iddo yn ystod ei yrfa, yn enwedig mewn rheolaeth glaswelltir a hwsmonaeth anifeiliaid.

“Rwy’n teimlo’n angerddol am bob agwedd o ffermio ac yn gwerthfawrogi’r cyfloedd a gefais i drafeilio i wledydd eraill i ddysgu. Ar ôl 2020, bydd y diwydiant yn wynebu ansicrwydd, ond drwy fod yn flaengar, credaf y gall y dyfodol fod yn un llewyrchus i bawb. Rwy’n awyddus i ymgymryd  â sialens newydd a chryfhau’r olyniaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf ar ein fferm deuluol.”