Cam 1: Adolygiad Olyniaeth

Cymryd stoc o’ch asedau a deall eich sefyllfa dreth bresennol gyda chyfreithiwr cymwys.

  • Rhoi gwybodaeth am asedau eich busnes trwy holiadur a fydd yn cael ei anfon yn syth at gyfreithiwr o’ch dewis.
  • Derbyn galwad ffôn (os bydd angen) gan gyfreithiwr am gwestiynau eglurhaol.
  • Bydd adroddiad byr yn cael ei gynhyrchu yn manylu ar 4 neu 5 pwynt gweithredu.
  • Canlyniad y gwasanaeth fydd cadarnhau’r sefyllfa dreth gyfredol ac amlinellu unrhyw gamau / cyngor pellach sydd eu hangen a phryd.

CYMHWYSEDD: Pob busnes yn gymwys. Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer perchnogion fferm sy’n berchen ar yr asedau. Gallai’r asedau hynny gynnwys tir, da byw, peiriannau neu asedau arallgyfeirio. 

I wneud cais am Adolygiad Olyniaeth cliciwch yma. Fel arall cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol neu Canolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 03456 000 813 i'w gwblhau dros y ffôn.