Cate Barrow, RSK ADAS Ltd

Mae Cate wedi'i lleoli ger Caerdydd, ond mae'n gallu teithio ar draws Canolbarth a De Cymru i hwyluso cyfarfodydd teuluol ar olyniaeth. Mae gan Cate wybodaeth helaeth am y sector amaethyddol, ac mae'n gallu arbenigo mewn amrywiaeth ehangach o bynciau perthnasol. Mae ganddi brofiad blaenorol o weithio gyda mentrau ar y cyd, arallgyfeirio ffermydd, cynllunio busnes a hwyluso cyfarfodydd olyniaeth i deuluoedd. Mae hi wedi gweithio'n helaeth gyda ffermwyr sy'n awyddus i ychwanegu gwerth at eu busnes a hefyd y rhai sydd â diddordeb mewn cynlluniau amgylcheddol.