Cilywinllan Diweddariad prosiect - Terfynol

Prif ganlyniadau:

  • Wrth ystyried hirhoedledd y gwndwn, mae drilio uniongyrchol yn cynnig arbediad o £24.71/ha o’i gymharu ag aredig.
  • Roedd mwy o rywogaethau a heuwyd yn bresennol yn y llain a gafodd ei aredig o’i gymharu â’r lleiniau wedi’u drilio’n uniongyrchol yn ystod y tymor tyfu cyntaf.
  • Ni welwyd unrhyw wahaniaeth rhwng y newid mewn strwythur y pridd neu fiomas llysieuol rhwng y dulliau sefydlu.
  • Cafodd ffwng mycorhisol effaith gadarnhaol ar gyfanswm niferoedd pryfed genwair ar draws pob llain. 

Cefndir: 

Mae Eifion Pughe a Menna Williams yn magu heffrod llaeth ar gontract ar 61 ha ar fferm Cilywinllan ger Machynlleth. Mae gwneud y defnydd gorau o borthiant a dyfir gartref yn hanfodol er mwyn rheoli costau’r busnes, ac yn y pen draw, ar gyfer proffidioldeb. Mae gwndwn sy’n gwreiddio’n ddwfn wedi bod yn allweddol er mwyn cynnal y borfa pan fod hafau poeth a sych wedi herio glaswelltir, ac wrth i’r busnes geisio ehangu nifer yr erwau o godlysiau a phorfeydd llysieuol, maent wedi bod yn arbrofi gydag ystod o ddulliau sefydlu ar y cyd â Cyswllt Ffermio i ganfod y dulliau mwyaf effeithlon ac effeithiol.

Diben y gwaith:

Nod y prosiect yw canfod y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol o ail hau gwndwn cymysg, a bydd y prosiect yn cymharu tri gwahanol ddull o sefydlu cymysgedd hadau gwndwn cymysg:

  1. Cymharu cyfradd llwyddiant sefydlu’n seiliedig ar gyfansoddiad botanegol pob is-lain ar ddau bwynt yn ystod ac ar ôl y tymor pori cyntaf
  2. Pennu effaith ychwanegu ffwng mycorhisol a rhiso bacteria ar y gyfradd a argymhellir gyda chymysgeddau hadau wrth hau
  3. Cymharu poblogaethau pryfed genwair ar draws pob un o’r lleiniau a chanfod effaith pob dull sefydlu ar weithgarwch pryfed genwair, ac felly ar fioleg ac iechyd y pridd.

Yr hyn a wnaed:

Cafodd tri chae priddgleiog sy’n wynebu’r gorllewin (2.2 - 2.7 ha) a fu’n cael eu rheoli fel un cae yn y gorffennol eu rhannu’n llorweddol yn ddwy ran i greu 6 is-lain. Nid yw’r caeau wedi cael eu hail hau ers dros 30 mlynedd, a chynhaliwyd samplau pridd ym mhob cae gan gywiro diffygion o ran maetholion y pridd ar ddechrau’r prosiect. Caiff y gwahanol driniaethau eu rhestru yn Ffigur 1.

Llain 1a

 

1.3ha

Llain 1b

 

1.3ha

Llain 2a

 

1.4ha

Llain 2b

 

1.4ha

Llain 3a

 

1.1ha

Llain 3b

 

1.1ha

Chwistrellwyd y gwndwn presennol gan ddefnyddio Glyffosad a’r cyfraddau a argymhellir o asid ffwlfig ac asid sitrig. Drilio hadau'n uniongyrchol gan ddefnyddio dril Vredo

Wedi’i aredig, ei drin a'i hau yn y dull traddodiadol

Chwistrellwyd y gwndwn presennol gan ddefnyddio Glyffosad ar y gyfradd a argymhellir. Drilio hadau SR2 yn uniongyrchol gan ddefnyddio dril Vredo 

Y gyfradd hadau ar gyfer pob llain oedd 15kg/erw (32.12 kg/ha) gan gynnwys y canlynol: 

  • Cymysgedd glaswellt Celt gyda chymysgedd meillion gwyn

  • Llysiau: Llyriad, ysgellog, sheep’s burnett, milddail a pherllys y defaid

  • Codlysiau: Meillion Aslike, meillion coch, pys y ceirw a meillion gwyn 

 

Ffwng micorhisol ar gyfradd o 2 kg/erw (4.94 kg/ha)

 

Ffwng micorhisol ar gyfradd o 2 kg/erw (4.94 kg/ha)

 

Ffwng micorhisol ar gyfradd o 2 kg/erw (4.94 kg/ha)

Ffigur 1. Y triniaethau a roddwyd ar draws y 6 llain

Ar gyfer sefydlu’r cnwd (rhwng Awst-Medi 2023), gwnaed y canlynol:

  1. Aredig a thrin is-leiniau 2a a 2b o 30 Awst
  2. Dinistrio porfeydd presennol ar is-leiniau 3a a 3b gan ddefnyddio Glyffosad ar y gyfradd a argymhellir ar 7 Medi
  3. Dinistrio porfeydd presennol ar is-leiniau 1a ac 1b gan ddefnyddio Glyffosad ac asid ffwlfig ac asid sitrig ar y cyfraddau a argymhellir ar 4 Medi
  4. Ychwanegu Calciprill ar gyfradd o 200kg/erw (494.21kg/ha) ar bob llain ar 9 Medi
  5. Ychwanegu gwrtaith ar gyfer sefydlu ar gyfradd o 100kg/erw (247.11kg/ha) o gynnyrch 05:24:24 ar 9 Medi
  6. Drilio hadau’n uniongyrchol ar y gyfradd a argymhellir ar gyfer lleiniau 1 a 3 gan ddefnyddio dril Credo ar 9 Medi
  7. Gwasgaru hadau’n eang ar y gyfradd hadau a argymhellir ar gyfer llain 2 ar 9 Medi
  8. Cyfuno gan ddefnyddio rholiwr glaswellt i sicrhau cyswllt da rhwng y pridd a’r hadau ar 9 Medi
  9. Bu defaid yn pori pob llain ar ddiwedd mis Tachwedd i annog cadeirio cyn gorffwys y borfa ar gyfer y gaeaf
  10. O ganlyniad i dywydd gwael yn ystod gaeaf a dechrau gwanwyn 2024, cafodd lleiniau eu rheoli drwy bori achlysurol gan sicrhau nad oedd stoc yn pori am fwy na 4 diwrnod ar yr un llain, gyda chyfnod gorffwys digonol i ddilyn. 

Casglwyd y data canlynol er mwyn monitro’r arbrawf:

  • Defnyddiwyd yr ap Senus Terrain i gofnodi cyfansoddiad botanegol, gwerthusiad gweledol o strwythur y pridd (VESS) a niferoedd pryfed genwair ar y lleiniau cyn ac ar ddiwedd tymor pori 2024
  • Mesurwyd argaeledd biomas llysieuol yn fisol (rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref 2024) drwy dorri a phwyso.

O ganlyniad i dywydd gwael dros y gaeaf a dechrau gwanwyn 2024, roedd y cyfraddau twf yn araf, a chafwyd oedi gyda’r pori a’r monitro. 

Canlyniadau:

Costau sefydlu

O ganlyniad i’r costau uwch, aredig oedd y dull sefydlu drytaf, fel y nodir yn Nhabl 1. O ystyried hirhoedledd y gwndwn (3-4 blynedd), mae drilio’n uniongyrchol yn cynnig arbediad o £24.71/ha o’i gymharu ag aredig.

Tabl 1. Costau sefydlu fesul llain o’i gymharu â ffigyrau’r Gwasanaeth Cynghori Ffermydd.

 

FAS

Llain 1a

Llain 1b

Llain 2a

Llain 2b

Llain 3a

Llain 3b

Costau amrywiol/ha

£513.00

£505.77

£551.17

£469.89

£515.29

£500.89

£ 546.29

Costau trin/ha

£326.00

£110.00

£110.00

£239.85

£239.85

£110.00

£ 110.00

Cyfanswm cost/ha

£839.00

£615.77

£661.17

£709.74

£755.14

£610.89

£ 656.29

Cost/ha dros 4 blynedd

£209.75

£153.94

£165.29

£177.44

£188.79

£152.72

£ 164.07

Cyfansoddiad botanegol

  • Cyn pori ym mis Chwefror 2024 - Roedd 73% o’r rhywogaethau a heuwyd yn bresennol yn gyson ar draws y lleiniau a gafodd eu haredig (2a a 2b) o’i gymharu â chyfartaledd o 32% o’r rhywogaethau a heuwyd yn bresennol yn gyson ar y lleiniau a gafodd eu drilio’n uniongyrchol.
  • Ar ôl pori ym mis Tachwedd 2024 – gwelwyd yr un patrwm gyda’r lleiniau a gafodd eu haredig (2a a 2b) yn cynnwys y cyfanswm mwyaf o rywogaethau a heuwyd yn bresennol ar gyfartaledd o 60% o’i gymharu â chyfartaledd o 22.5% ar y lleiniau a gafodd eu drilio’n uniongyrchol.
     

 

Ffigur 2. Canran y rhywogaethau a heuwyd a oedd yn bresennol yn yr asesiad cyn ac ar ôl pori ar gyfer y chwe llain.

Argaeledd biomas

  • Nid oedd unrhyw wahaniaeth rhwng cyfanswm y biomas llysieuol a fesurwyd ar gyfer pob dull sefydlu nag wrth ychwanegu neu beidio ag ychwanegu ffyngau mycorhisol.

Strwythur y pridd

  • Ni welwyd unrhyw wahaniaeth rhwng y newid mewn sgorau Gwerthusiad Gweledol o Strwythur y Pridd o ran y gwahanol ddulliau sefydlu.
  • Ar ôl pori ym mis Hydref 2024 – er bod y sgôr yn dal i fod yn ‘Dda’, roedd sgôr pob un o’r Gwerthusiadau Gweledol o Strwythur y Pridd yn is na’r sgorau cyn pori, o bosibl o ganlyniad i dywydd gwlyb yn ystod y tymor pori gan arwain at gywasgiad wrth i’r da byw sathru’r tir.

Niferoedd pryfed genwair

  • Gwelwyd cynnydd yn nifer y pryfed genwair ar ôl cynnwys ffyngau mycorhisol, a gallai hynny fod o fudd hirdymor o ganlyniad i fwy o weithgarwch biolegol yn y pridd. 

Adborth y ffermwr: Cadarnhaodd Eifion fod gwahaniaeth sylweddol yn y nifer o rywogaethau a heuwyd a oedd yn bresennol ar y lleiniau a oedd wedi’u haredig, gan arwain at Lain 2 yn cael ei bori’n amlach na Llain 1 a 3 yn ystod tymor pori 2024.

Sut i’w roi ar waith ar eich fferm:

  1.   Profwch ac aseswch amodau’r pridd cyn penderfynu ar y dull sefydlu. Hefyd, ystyriwch yr amseriad a rhagolygon y tywydd. Cywirwch lefelau pH a statws maetholion ymlaen llaw - pH oddeutu 6.3, gyda mynegai P a K o 2.
  2. Sicrhewch fod chwyn yn cael eu rheoli’n effeithiol cyn sefydlu.
  3. Defnyddiwch y gyfrifiannell cymysgeddau hadau aml-rywogaeth i gynllunio’r gymysgedd hadau i gyfateb â’r hyn sy’n ofynnol o’r gwndwn.
  4. Cynnyrch ffyngau mycorhisa – Os ydych yn ystyried defnyddio cynnyrch sy’n cynnwys ffyngau mycorhisa, darllenwch sut maent yn gallu bod o fudd i wndwn aml-rywogaeth ac ystyriwch ffactorau megis cnydau blaenorol a’r dull sefydlu cyn penderfynu a ddylid eu defnyddio. Gallai prawf pridd  PLFA (Asidau Brasterog Ffosffolipid) gynnig cipolwg o fioleg y pridd.
  5. Sicrhewch eich bod yn barod i reoli’r gwndwn mewn modd a fydd yn sicrhau bod y planhigion a’r codlysiau’n dyfalbarhau cyn hired â phosibl yn y gwndwn i sicrhau’r elw gorau posibl ar fuddsoddiad.

 

Llun: Llain 2 ym mis Awst 2024

Cysylltwch â timtechnegolcff@menterabusnes.co.uk os hoffech dderbyn copi o’r adroddiad terfynol llawn ar gyfer y prosiect hwn.