25 Hydref 2022

 

Canfuwyd bod gwyndwn llysieuol sy'n ymgorffori llai o rywogaethau yn perfformio'n well na chymysgedd hadau mwy amrywiol gyda 17 math o blanhigion, yn ystod treial ar safle arddangos Cyswllt Ffermio.

Mae Aled a Dylan Jones a'u tad, Emyr, wedi bod yn tyfu gwyndonnydd aml-rywogaeth yn llawn codlysiau a pherlysiau i besgi ŵyn o'u diadell o 1500 o famogiaid yn Fferm Rhiwaedog, y Bala.

Roedd un o'r cymysgeddau roedden nhw'n eu hau ar gyfradd o 15kg/erw, yn cynnwys 20% o rygwellt a 10% o ronwellt, gyda meillion coch a gwyn, sicori a llyriad yn ffurfio gweddill y gymysgedd. Roedd yn darparu dau doriad o silwair a phori ar gyfer ŵyn yn 2022.

Dim ond 4% o rygwellt oedd gan yr ail wyndwn, gyda 16 rhywogaeth arall yn amrywio o ffawlys a liwsérn i ysgall y meirch a llyriad, ac wedi cael ei bori.

Dywedodd yr arbenigwr ar laswelltir, Sheena Duller, sydd wedi bod yn cynghori ar dreial Cyswllt Ffermio, fod yr holl rywogaethau wedi egino yn y gwyndwn amrywiol iawn, ond roedd rhai wedi diflannu'n gyflym yn y 12 mis diwethaf, i gael eu disodli gan laswelltydd a chwyn, yn enwedig dail tafol. Cafodd twf hefyd ei effeithio yng nghanol y tymor. Mae hyn yn debygol o fod oherwydd cyfuniad o gystadlu naturiol gan yr hyn sydd yn y banc hadau, rheoli’r borfa yn ystod y tymor cyntaf, a’r ffaith nad yw rhai rhywogaethau’n hoffi amodau pridd y safle.

Ar y llaw arall, roedd y gymysgedd symlach wedi perfformio'n dda, er iddo gael ei dorri ddwywaith. Mae wedi cynhyrchu silwair o ansawdd uchel ac yn sgil effeithiau hynod gynhyrchiol ar gyfer ŵyn hwyr y tymor. 

"Dim ond canran fechan o ledaeniad chwyn sydd 18 mis ar ôl hau, gydag ychydig o ddail tafol newydd ddechrau ymddangos,'' meddai Mrs Duller.

Cododd lefelau meillion coch yn y gwyndwn hwnnw i dros 30% o'r borfa gyda'i ail doriad o silwair, a dros 50% yn yr adlodd.

Mae'r treial hwn yn dilyn y patrwm a welir mewn treialon aml-rywogaethau eraill Cyswllt Ffermio - po symlaf yw’r gymysgedd, y gorau y mae'n perfformio, dywedodd Mrs Duller wrth ffermwyr a fu’n mynychu diwrnod agored diweddar Cyswllt Ffermio ar y fferm.

“Yn y bôn, nid yw'r gwyndonnydd amrywiol iawn wedi ymddangos fel eu bod yn parhau'n dda yn yr hinsoddau gwlypach gyda phriddoedd gwead trymach. Gwelsom hyn ar Fferm Moor yn Sir Benfro, safle arddangos Cyswllt Ffermio blaenorol, ac ym mhrosiect yr EIP, sy'n edrych ar effaith gwyndonnydd llysieuol ar iechyd a pherfformiad ŵyn pori."

"Mae cyfuniad o bwysau stocio tymor cynnar gyda chyfnodau gorffwys byr a phriddoedd â gwead eithaf trwm i'w weld yn lleihau dyfalbarhad llawer o'r codlysiau a pherlysiau,'' meddai.

"Y neges yw, byddwch yn wyliadwrus o gymysgeddau wedi'u gor-gymhlethu gyda chanran isel o rygwellt, oni bai eich bod yn hapus gyda phorfeydd tymor byr – er y gall y math hwn o gymysgedd berfformio'n well gyda phriddoedd sychach a system bori cylchdro a reolir yn dynnach.''

Gall gwyndwn aml-rywogaeth fod yn gynhyrchiol am dair i bum mlynedd, gyda'r cymysgedd a'r rheolaeth hadau cywir. Ni fydd llawer o'r planhigion, megis ysgall y meirch, llyriaid, y gwyddlyn cyffredin a sanfoin yn para mwy na thair blynedd. I ffermwyr sy'n ystyried tyfu gwyndonnydd aml-rywogaeth, roedd y treial wedi darparu rhai gwersi pwysig yn y modd y gallant gael y gorau o'r rhain.

"Mae amrywiaeth enfawr o wyndonnydd aml-rywogaeth ar gael ar y farchnad - roedd hwn yn brosiect defnyddiol i weld pa rywogaethau o blanhigion oedd fwyaf addas ar gyfer fferm cig eidion a defaid yn ucheldir Cymru,,'' meddai Aled Jones.

Ymhlith y prif wersi a ddysgwyd mae pwysigrwydd sefydlu cynnar – hau ym mis Mai neu Fehefin, a gochelwch rhag hau'n rhy ddwfn. "Mae rhai o'r hadau yn fach iawn; felly, dim ond hau bas iawn sydd ei angen arnynt, dim dyfnach na 10mm, ac mae'r cyswllt rhwng yr hadau a’r pridd yn bwysig, felly rholiwch yn dda,'' cynghorodd Mrs Duller.

Mae rheoli chwyn yn hanfodol, gan nad oes modd defnyddio chwynladdwyr ar gymysgedd o laswellt a dail eang – i ffermwyr sydd eisiau dull mwy naturiol o reoli chwyn, mae Mrs Duller yn cynghori tyfu gwreiddgnydau neu gnydau bresych ymlaen llaw.

Rhaid i gemeg y pridd fod yn iawn – ar pH o tua 6.3, gyda mynegeion P a K yn 2. Mae rhoi seibiant i’r borfa dros y gaeaf yn bwysig, yn ogystal â rheolaeth bori ofalus.

"Nid yw'r gwyndonnydd hyn wedi'u cynllunio ar gyfer pori dwys; mae'n rhy hawdd i'w difrodi a cholli rhai rhywogaethau planhigion,'' meddai Mrs Duller.

Bydd meillion coch, er enghraifft, yn marw os caiff ei choron ei difrodi – ar y llaw arall, mae gan feillion gwyn stolon, nid coron, a gall wrthsefyll pori'n well mewn amodau mwy heriol.

Mae manteision mawr i'w cael o bori cylchdro, ond dylid osgoi tan-bori yn ogystal â gor-bori. Gadewch uchder porfa ar ôl pori o o leiaf 7-10cm, a chaniatewch gyfnod adfer o o leiaf 30 diwrnod.

Mae gwyndonnydd aml-rywogaethau yn gnwd arbenigol, a gall fod angen newidiadau i'r dull rheoli er mwyn sicrhau eu bod yn tyfu ac yn ffynnu. Dyma rai awgrymiadau da i'ch helpu i wneud pethau'n iawn –

1.    amodau gwely hadau yn hanfodol – meddyliwch am strwythur pridd a chemeg pridd
2.    rheoli chwyn yn effeithiol cyn sefydlu’r cnwd  
3.    dyfnder hau
4.    hau cynnar (cyn mis Medi)
5.    pori ar gylchdro i ganiatáu am gyfnodau gorffwys
6.    gorffwys dros y gaeaf – dim pori dros y gaeaf.

Wrth symud ymlaen, mae'r cynllun cefnogi ffermydd newydd yng Nghymru yn debygol o ddarparu taliadau i ffermwyr dyfu'r gwyndonnydd amrywiol hyn. Dywedodd Swyddog Technegol cig coch Cyswllt Ffermio Lisa Roberts, a oruchwyliodd y treial ar Fferm Rhiwaedog, fod y prosiect wedi dangos ei bod hi werth i ffermwyr arbrofi gyda chymysgeddau gwahanol.

"Mae angen i ffermwyr ystyried beth maen nhw eisiau o'r gwyndwn a sut y bydd yn ffitio i mewn i'w system reoli,'' meddai. 

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru - ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o