Cyflwyniad i’r prosiect - Fedw Arian Uchaf

Mae Geraint a’i wraig Rachael yn ffermio 384 hectar o dir mynydd sy’n codi i hyd at 2,200 troedfedd uwchlaw lefel y môr, ynghyd â 101 hectar arall o laswelltir cynhyrchiol, a saif oddeutu 900 troedfedd uwchlaw lefel y môr. Maent yn cadw 1,000 o famogiaid magu, 200 o ŵyn benyw cadw a 50 o fuchod sugno. Mae’n fferm organig er 2005, bu yng nghynllun Glastir Sylfaenol er 2013 ac yng nghynllun Glastir Uwch er 2014.

Mae Geraint a Rachael yn gweithio’n agos â llawer o gyrff amgylcheddol i warchod poblogaeth lewyrchus o fywyd gwyllt ac adar prin ar eu tir, ac yn cynhyrchu cig coch ar yr un pryd. Maent yn pwysleisio bod modd cynhyrchu bwyd a chynnal a gwarchod yr amgylchedd naturiol ar yr un pryd, ac nad oes yn rhaid i un ddigwydd ar draul y llall.

Mae Geraint yn gobeithio tyfu busnes ei fferm a gwella ansawdd yr hyn mae’n ei gynhyrchu. I wneud hyn, mae’n hanfodol ei fod yn gwneud y gorau o’r tir cynhyrchiol ar eu fferm, fel sy’n wir am bob fferm fynydd ar draws Cymru. Mae cynhyrchu cnydau swmpus ac ansawdd o’r tir isel yn hanfodol i gynnal da byw, o borfa yn y gwanwyn drwodd i dorri silwair a phesgi ŵyn. Fodd bynnag, mae’r un mor bwysig nodi’r ardaloedd llai cynhyrchiol ac ystyried opsiynau gwahanol fel plannu coed i greu cynefinoedd a chysgod ar gyfer da byw.