Cyflwyniad Prosiect Coleg Meirion-Dwyfor Glynllifon: Hydrogen Electrolyser
Safle: Coleg Meirion-Dwyfor Glynllifon, Ffordd Clynnog, Penygroes, Caernarfon
Swyddog Technegol: Rhys Davies
Teitl y Prosiect: Electrolyser Hydrogen
Amlinelliad o'r Prosiect:
Un her sy'n wynebu ffermwyr wrth geisio lleihau faint o garbon deuocsid (CO2) a grëir yw'r defnydd o ddisel a pheiriannau mewn gwahanol brosesau fferm. Mae technoleg newydd i leihau gronynnau a nwyon tŷ gwydr yn gyffredin ar y tractorau diweddaraf; fodd bynnag, ar fodelau hŷn, dydi’r dechnoleg ddim ar gael. Tueddir i ddefnyddio tractorau hŷn i wneud rhai tasgau fferm; gan nad ydyn nhw, ar y cyfan, yn cael eu defnyddio i wneud tasgau ar ffyrdd, dydyn nhw ddim yn cael eu newid mor aml. Un ateb ar gyfer peiriannau hŷn yw ôl-osod electrolyser hydrogen, sy'n opsiwn cymharol rad i leihau allyriadau a defnydd disel.
Mae’r ddyfais electrolyser yn hollti’r dŵr yn ocsigen a hydrogen (HHO) drwy yrru cerrynt trydanol drwy ddŵr wedi’i ddistyllu gydag electrolyt potasiwm hydrocsid, a chasglu'r nwyon. Drwy gyflwyno'r cymysgedd 'ocsihydrogen' sy'n gyfoethog o hydrogen i'r injan, ar gyfradd o tua 6 y cant, mae’r broses losgi yn fwy effeithlon ac yn gyflymach, gan leihau faint o danwydd a ddefnyddir ac yn sgil hynny, gostwng yr allyriadau a gynhyrchir.
Mae gweithgynhyrchydd yr electrolyser yn awgrymu y gellir sicrhau gostyngiad o 20-25 y cant mewn defnydd o danwydd, a gostyngiad o 80 y cant mewn allyriadau. Am bob 1,000 o oriau y mae'r telehandler yn gweithio bob blwyddyn ceir arbediad tanwydd o 1,083 litr, gan arbed 43,440kg o CO2 rhag cael ei ryddhau o ganlyniad. Mae'r gweithgynhyrchydd yn ychwanegu, mewn llawer o beiriannau modern, nad yw hyd at 30 y cant o'r tanwydd a gyflwynir i'r injan yn cael ei ddefnyddio, ac yn hytrach yn cael ei losgi yn y system egsost. Drwy gynyddu faint o ocsigen a hydrogen sydd yn y gymysgedd aer, mae'n llosgi’n gyflymach ym mhob strôc, heb gynyddu tymheredd y peiriant. Dim ond tra bo'r peiriant yn rhedeg y mae'r system yn cael ei defnyddio, ac mae'n tynnu chwech i wyth amp o'r batri.
Nod y prosiect:
Ymchwilio i effeithiolrwydd yr electrolyser hydrogen ar dractorau presennol y tu allan i warant yng Ngholeg Glynllifon.
Rhoi cyfle i fyfyrwyr peirianneg amaethyddol ifanc a'r diwydiant ehangach ddysgu mwy am y potensial ar gyfer technoleg garbon isel ar beiriannau amaethyddol.
Beth fydd yn cael ei wneud:
Bydd data ar ddefnyddio tanwydd ac allyriadau yn cael ei gasglu dros gyfnod cyn ei osod, ac yna eto ar ôl cael ei osod. Bydd y dasg arferol y mae'r tractor yn ei gwneud yn cael ei chadw'r un fath (h.y. cymysgu, bwydo neu waith ar y caeau ac ati).
Lle bo'n bosibl, cymerir darlleniadau mewn canolfannau profi MOT HGV lleol.
Pa wybodaeth fydd yn cael ei chofnodi:
Darlleniad CO2 y tractor cyn ac ar ôl gosod y ddyfais
Faint o Ddisel a ddefnyddir gan y Tractor am fis cyn gosod y ddyfais ac am fis ar ôl gosod y ddyfais.