Proffil y Darparwr
(Amlinelliad o'r cyfle a ddarperir)
Ynglŷn â'r Tirfeddiannwr:
Rydym wedi cyrraedd cam mewn bywyd lle hoffem drawsnewid o ffermio’n gorfforol yn llawn amser i rannu ein gwybodaeth a'n profiad gydag unigolyn ifanc blaengar sydd â diddordeb mewn cymhwyso technegau modern a defnyddio'r data a gesglir i adeiladu'r busnes ymhellach.
Nid oes gennym unrhyw un yn dibynnu arnom felly bydd cyfle i'r ymgeisydd cywir gymryd drosodd y fferm yn y pen draw.
Ein prif weithgaredd yw gwerthu stoc bridio. Am y 35 mlynedd diwethaf rydym wedi bod yn angerddol am gofnodi perfformiad ein defaid. Ers sawl blwyddyn rydym wedi bod yn un o'r diadelloedd Texel fwyaf sy’n cofnodi perfformiad yn y DU. Rydym wedi bod yn defnyddio'r ffigurau hyn o ran perfformiad i wella ansawdd genetig ac effeithlonrwydd masnachol ein defaid.
Nodau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf:
- Cytundeb ffermio cyfran
- Mae rheoli glaswelltiroedd yn uchel ar ein hagenda
- Marchnata gwell
- Trosglwyddo Rheolaeth
- Byddem yn agored i newid neu ehangu'r busnes megis rhentu tir ychwanegol neu ychwanegu mentrau eraill
Ynglŷn â'r fferm:
Lleoliad: Ger Pencader, Sir Gaerfyrddin
Arwynebedd y tir sydd ar gael: Tua 128 erw (52 hectar) o dir sy'n eiddo i'r unigolyn mewn un ardal wedi'i ffensio lle mae'r holl dir yn laswelltir parhaol, gyda phrofion pridd wedi'u cymryd yn gymharol ddiweddar ac wedi'u cywiro yn ôl yr angen gyda chalch rhagnodedig. Mae'r ffensys mewn cyflwr da.
Isadeiledd sydd ar gael: Mae adeiladau'r fferm wedi'u lleoli'n agos at y ffermdy. Mae'r adeiladau'n cynnwys y canlynol:
- Sied ddefaid - 85 troedfedd x 110 troedfedd gyda chyfleusterau trin defaid a chorlannau i'r rhan fwyaf o'r mamogiaid ar gyfer wyna.
- Twnnel polythen ar gyfer defaid - 32 troedfedd x 65 troedfedd wedi'i drefnu i'w atgyweirio ar ôl difrod storm
- Ysgubor wair gyda darn ychwanegol - a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer storio ar hyn o bryd
- Sied ynysu
Da byw sydd ar gael:
- 120 o famogiaid Texel pedigri sy’n rhan o ddiadell sy’n cofnodi perfformiad
- 40 o famogiaid Charmoise - ar hyn o bryd yn rhan o’r Rhaglen Geneteg Defaid Cymru
- 100 o famogiaid croes Texel
Peiriannau sydd ar gael:
- Mae amrywiaeth eang o offer yn eiddo i'r fferm, ac mae'r darparwr yn fodlon buddsoddi mewn unrhyw beiriannau eraill sydd eu hangen a fyddai'n fuddiol ar y fferm.
- Tractorau x 2
- Trelar fflat, trelar stoc x 2, trelar beic
- Peiriant tocio
- Torrwr gwellt
- Systemau ac offer trin defaid
- Defnyddir contractwr ar gyfer ail-hadu a thyfu porthiant
Llety i'r sawl sy’n ymgeisio am y cyfle:
Na, dylai'r sawl sy’n ymgeisio am y cyfle ddod o hyd i lety.
Yr ardal leol: Mae'r fferm wedi'i lleoli mewn ardal wledig, lle mae'r Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu clywed a'u siarad yn gyffredin. Mae Pencader, Llandysul a thref Caerfyrddin i gyd wedi'u lleoli o fewn 30 munud.
Ynglŷn â'r cyfle
Cytundeb ffermio cyfran y gellir ei gefnogi gan rywfaint o gymorth ariannol ar y cychwyn
Unigolyn ifanc a gweithgar sy'n gweithio'n galed
Myfyriwr coleg amaethyddiaeth a ffafrir ond ni fyddem yn diystyru dechreuwr brwd
Y peth pwysig i ni yw meddylfryd ac awydd i ddefnyddio dull gwyddonol cyfoes o ffermio defaid a glaswelltir
Math o gytundeb sy'n cael ei ystyried:
Cytundeb ffermio cyfran
Nodweddion allweddol y mae'r tirfeddiannwr yn chwilio amdanynt mewn partner busnes:
- Gweithgar ac ymarferol
- Brwdfrydig
- Dibynadwy
- Awydd cryf i weithio gyda da byw