Susie Morgan

DE PENFRO 


Susie Morgan yw swyddog datblygu Cyswllt Ffermio ar gyfer De Sir Benfro. 

Cafodd Susie ei magu ar fferm defaid a bîff yn Jeffreyston, ger Cilgeti, ac mae hi a’i phartner bellach yn rhedeg y fferm honno. Ar hyn o bryd, mae ganddynt tua 100 o wartheg bîff i’w pesgi, buches fechan o wartheg sugno a diadell fechan o ddefaid Llanwenog. 

Ar ôl ennill diploma cenedlaethol mewn amaethyddiaeth yng Ngholeg Sir Gaer, gweithiodd Susie i Undeb Amaethwyr Cymru am 13 blynedd, fel swyddog ardal ar gyfer Sir Benfro. 

Mae Susie yn gobeithio y bydd ei phrofiad ymarferol o ffermio a’i dyfalbarhad i ddatblygu busnes teuluol proffidiol a chynaliadwy yn golygu y bydd hi’n hyrwyddo gwasanaethau a digwyddiadau Cyswllt Ffermio yn argyhoeddiadol. 

“Mae’n hanfodol i bob ffermwr wybod beth y dylent fod yn anelu ato, felly byddaf bob amser yn cymell busnesau i wneud defnydd o gymorth Cyswllt Ffermio i feincnodi, i’w helpu i gymharu eu ffeithiau a’u ffigurau â rhai busnesau tebyg yn yr un sector, fel y gallant nodi meysydd i’w gwella,” meddai Susie.

Mae De Sir Benfro yn ardal sy’n gyfoethog o ran ei hamrywiaeth, a cheir cymysgedd dda o ffermio llaeth, defaid a bîff, ond mae’r lleoliad arfordirol a’r hinsawdd hefyd yn denu llawer o fusnesau twristiaeth a garddwriaeth. 

“Mae gan Cyswllt Ffermio rywbeth i’w gynnig i holl sectorau ffermio a choedwigaeth, gan gynnwys digwyddiadau ynghylch arallgyfeirio, busnes a chynllunio technegol, ond mae hefyd yn cynnig prosiectau arbenigol a all gynorthwyo ffermwyr i ddatblygu’n bersonol a datblygu eu busnes.

Mae Susie yn rheoli tri grŵp trafod Cyswllt Ffermio sy’n cynnig cyfle i ffermwyr defaid a llaeth drafod pynciau penodol.