Stocrestr Flynyddol Defaid a Geifr - 1 Rhagfyr 2025

Dyddiad y Stocrestr nesaf ar gyfer Defaid a Geifr yw 1 Rhagfyr 2025.

I gwblhau’r stocrestr, a fyddech cystal â chofnodi nifer y defaid a/neu eifr yr ydych yn berchen arnynt ar 1 Rhagfyr a’r rhif daliad (CPH) lle maent wedi’u lleoli ar y dyddiad hwn.

Cysylltwch ag EIDCymru ar 01970 636959 neu e-bostiwch contact@eidcymru.org gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych am y stocrestr. Mae modd cael rhagor o gymorth ac arweiniad ar wefan Llywodraeth Cymru Ceidwaid defaid a geifr: stocrestr flynyddol Rhagfyr 2025

Rydym wedi trefnu sesiynau galw heibio mewn marchnadoedd da byw yn ystod hanner cyntaf mis Rhagfyr lle bydd staff o Wasanaeth Cysylltwyr Fferm a Cyswllt Ffermio yn gallu darparu cymorth o ran cwblhau eich stocrestr.

AmserDyddiadLleoliad
10yb – 2yh01 a 08 Rhagfyr 2025Marchnad Da Byw Y Trallwng
10yb – 2yh02 Rhagfyr 2025Marchnad Da Byw Rhuthun
10yb – 2yh02 a 09 Rhagfyr 2025Marchnad Da Byw Aberhonddu
10yb – 2yh03 a 10 Rhagfyr 2025Marchnad Da Byw Raglan
10yb – 2yh04 Rhagfyr 2025Marchnad Da Byw Llanelwy
10yb – 2yh05 a 12 Rhagfyr 2025Marchnad Da Byw Caerfyrddin
10yb – 2yh05 a 12 Rhagfyr 2025Marchnad Da Byw Dolgellau

Bydd EIDCymru, Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm a Cyswllt Ffermio hefyd yn y Ffair Aeaf i ateb unrhyw gwestiynau all fod gennych.

 

Am rhagor o wybodaeth ewch i wefan EID