Start to Farm: Work placement at Derwydd Llanfihangel Glyn Myfyr

Llyr

Teitl y swydd: Gweithiwr fferm dofednod – Ieir dodwy organig maes
Lleoliad: Llanfihangel Glyn Myfyr, Corwen
Math o swydd: Rhan amser
Oriau gwaith: 8.30am-2.30pm
Cyflog: £12.55-£12.86 yr awr
Dyddiad cychwyn: Mis Chwefror 2026
Yn adrodd i: Perchennog / Rheolwr Dofednod Organig

Ynglŷn â ni:

Rydym yn uned ddofednod organig maes gyda 9,000 o ieir dodwy ar fferm gyda 800 o ddefaid, 150 o loeau bîff a 41,000 o ieir dodwy maes eraill. Rydym wedi ymrwymo i safonau lles anifeiliaid uchel, cynaliadwyedd a chynhyrchu wyau maes o safon. Mae’r 9,000 o ieir maes organig yn cael eu cadw mewn 3 uned symudol, ac mae gan bob un system awtomatig sy’n cael eu rhedeg gan ynni adnewyddadwy. Mae Fferm Derwydd yn gweithredu gyda phwyslais cryf ar arferion ffermio moesegol ac yn ymdrechu i leihau effaith amgylcheddol.  

Disgrifiad swydd:

Rydym yn dymuno penodi unigolyn dibynadwy a gweithgar i ymuno â’n tîm. Mae’r rôl yn cynnwys gofalu am yr ieir dodwy yn ddyddiol yn ogystal â chasglu wyau, eu graddio a’u pacio. Bydd gennych ran allweddol wrth sicrhau iechyd a lles yr adar a safon uchel ein hwyau.
 

Eich rôl:

Lles yr ieir

  • Archwilio’r haid yn ddyddiol i sicrhau iechyd, lles a diogelwch
  • Monitro systemau awyru, tymheredd, golau, dŵr a bwyd
  • Casglu data ar gynhyrchiant, marwolaeth a phlu a’i gofnodi
  • Glanhau a chynnal offer a siediau dofednod
  • Cynorthwyo gyda thriniaethau milfeddygol yn ôl yr angen
  • Nodi unrhyw salwch neu annormaledd a rhoi gwybod i’r rheolwr am y rhain

Trin a thrafod wyau

  • Sortio, graddio a phacio wyau at safon uchel
  • Sicrhau glendid a bioddiogelwch yn ystod y broses o drin a thrafod yr wyau
  • Cofnodi ffigurau cynhyrchiant wyau

Cynnal a chadw’r fferm

  • Gwaith glanhau cyffredinol a chynnal yr uned ddofednod
  • Cynorthwyo gyda mân atgyweiriadau a chynnal a chadw adeiladau / offer
  • Cynnal protocol bioddiogelwch bob amser
  • Helpu gyda charthu siediau, diboblogi a chartrefu ieir newydd   

Gofynion:

Hanfodol

  • Yn frwd dros gynnal safonau lles uchel yr ieir
  • Gallu trin a thrafod ieir yn ofalus
  • Yn ffit ac yn gallu gweithio ym mhob tywydd
  •  Yn brydlon, yn ddibynadwy, yn dosturiol ac yn gallu gweithio’n annibynnol ar eich liwt eich hun pan fo angen yn ogystal â mewn tîm bach.
  • Yn barod i weithio ar y penwythnos ac oriau hyblyg yn ôl yr angen
  • Trwydded yrru lân
  • Sgiliau cyfathrebu a chadw amser rhagorol

Dymunol

  • Profiad blaenorol o weithio gyda dofednod neu ar fferm
  • Rhywfaint o wybodaeth am arferion ffermio organig a maes
  • Rhywfaint o brofiad o weithio gyda pheiriannau (darperir hyfforddiant)

Yr hyn rydym yn ei gynnig

  • Cymorth a hyfforddiant llawn
  • Amgylchedd gwaith cefnogol a chyfeillgar
  • Cyfle i’r ymgeisydd iawn gael mwy o oriau mewn rhannau eraill o’r fferm

Edrychwn ymlaen at glywed gennych.