Defnyddio Anthelminitigau mewn modd cynaliadwy

Ers bod yn rhan o wahanol grwpiau trafod Cyswllt Ffermio ers 2018, mae Chris wedi croesawu cyfleoedd i ddysgu a rhannu syniadau gyda ffermwyr eraill ac arbenigwyr yn y diwydiant, sydd wedi arwain at nifer o addasiadau i’r system ddefaid ar fferm Awel y Grug.

Yn dilyn cyfarfod grŵp trafod gyda’r siaradwr gwadd Eurion Thomas o Techion, bu’r grŵp yn ystyried eu strategaeth reoli parasitiaid mewnol eu hunain, ac yn dilyn trafodaethau pellach gyda’r Ymgynghorydd Defaid Annibynnol, Kate Phillips, anogwyd Chris i fynd ati i weithio gyda’i filfeddyg (Milfeddygon Hafren) i adolygu eu defnydd o driniaethau anthelminitig.

Datgelodd prawf lleihau cyfrif wyau ysgarthol (FEC) neu brawf effeithlonrwydd Drensh Gwyn (1-BZ) ymwrthedd i’r grŵp hwnnw o anthelminitigau, a allai fod wedi datblygu o ganlyniad i orddibyniaeth ar y grŵp drensh unigol hwnnw. Cyngor Milfeddygon Hafren oedd defnyddio drensh Gwyn i drin Nematodirus yn unig, pan fo baich llyngyr Strongyle yn isel, ac i gylchdroi’r triniaethau drensh melyn (2-LV) a chlir (3-ML) am weddill y tymor, gan ddefnyddio drensh oren (4-AD) a phorffor (5-SI) ar adegau strategol, gyda’r nod o osgoi datblygu ymwrthedd i’r grwpiau drensh hynny.

Er mwyn gwarchod effeithlonrwydd yr anthelminitigau sydd ar gael ymhellach, mae Chris a Glyn wedi buddsoddi mewn technoleg yn Awel y Grug ar ffurf gwn dosio wedi’i galibradu’n awtomatig a fydd yn cysylltu gyda chlorian ŵyn y fferm ac addasu’r dos yn ôl pwysau’r oen, gan sicrhau bod y dos cywir yn cael ei roi i bob oen.

I ategu at y dechnoleg a brynwyd gan y fferm, bydd y prosiect hwn yn ceisio dangos sut y gellir defnyddio strategaeth driniaeth ddethol wedi’i dargedu i warchod effeithlonrwydd drensh, gan sicrhau cyn lleied o ddirywiad mewn perfformiad â phosibl. Byddwn hefyd yn ceisio cyfrifo’r arbedion ariannol drwy ddefnyddio cyfuniad o’r offer drensh awtomatig a’r strategaeth driniaeth ddethol o’i gymharu â’r strategaeth arferol o roi triniaeth drensh i grwpiau cyfan o ŵyn yn seiliedig ar ganlyniadau samplu cyfrif wyau ysgarthol y grŵp.

Bydd y prosiect yn cyfrannu at y deilliannau Rheoli Tir yn Gynaliadwy gan gynnwys:

  • Safonau Iechyd a lles anifeiliaid uchel
  • Effeithlonrwydd adnoddau