Defnyddio technoleg i gwblhau Camau Gweithredu Cyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy


Wrth baratoi ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, mae Marc, Wynn a Bethan eisiau archwilio sut y gallan nhw fod yn gymwys ar gyfer y cynllun drwy gwblhau’r Camau Gweithredu Cyffredinol arfaethedig.

Mae cadw cofnodion cywir yn un elfen yr hoffen nhw ei harchwilio, ond maen nhw am wneud hynny mewn ffordd nad yw'n cymryd gormod o amser i ffwrdd o redeg y fferm o ddydd i ddydd. Bydd y dechnoleg ddiweddaraf felly’n cael ei defnyddio i gasglu, storio a chyflwyno data mewn ffordd sydd o fudd i’r busnes ffermio. Bydd hefyd yn eu helpu i gydymffurfio â’r camau gweithredu cyffredinol arfaethedig, yn benodol;

  • CGC 3 – Cynllunio Iechyd y Pridd
  • CGC 5 – Rheoli Plâu yn Integredig
  • CGC 11 – Rheoli Gwrychoedd

Bydd gwybodaeth megis dadansoddiad manwl o’r pridd, arsylwadau o’r ddaear i nodi meysydd o ddiddordeb, ynghyd ag arolygon gwirio yn y cae wedi’u hategu gan ddarlleniadau a alluogir gan GNSS lleol gyda thystiolaeth ffotograffig Geodagio, oll yn cael eu casglu gan ddefnyddio’r ap.

Bydd y prosiect yn cyfrannu at ganlyniadau Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys:

  • lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y fferm
  • gwneud y mwyaf o storio ac atafaelu carbon wrth leihau ôl troed carbon y fferm gyfan
  • ecosystemau cydnerth