Delyth Fôn Owen

Mae Delyth wedi'i lleoli yn Ynys Môn, ond mae'n barod i deithio o amgylch Gogledd a Chanolbarth Cymru i hwyluso cyfarfodydd teuluol ar olyniaeth. Mae Delyth yn siaradwr Cymraeg sy'n gwnselydd cofrestredig a chymwys sydd â digon o brofiad o gefnogi ffermwyr gydag amrywiaeth o wahanol faterion. Yn ystod ei chyfnod yn gweithio fel Rheolwr Rhanbarthol Gogledd Cymru Tir Dewi, roedd Delyth yn ymwneud â thrafod sefyllfaoedd anodd a chymhleth yn aml. Mae Delyth wedi cael ei hyfforddi fel hwylusydd olyniaeth gan Sian Bushell ac ers hynny mae wedi cynnal nifer o gyfarfodydd teuluol ar olyniaeth.