Diweddariad ar Brosiect Pridd Cymru - Rhagfyr 2024

Cafodd 24 o ffermydd ychwanegol eu samplu ym mis Chwefror 2024 o fewn cyfnod o dair wythnos fel rhan o Brosiect Pridd Cymru, gan ddilyn yr un fethodoleg â’r Hydref blaenorol. Roedd y ffermydd a fu’n rhan o’r grŵp samplu hwn yn cynnwys rhai o ffermydd Rhwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio (ffermydd cig coch, llaeth a chymysg) a’r rhai a oedd yn cymryd rhan yn Rhaglen Geneteg Defaid Cymru

 

Casglwyd canlyniadau’r grŵp hwn ynghyd, ac mae’r prif ganfyddiadau i’w gweld isod.

 

Canlyniadau Deunydd Organig y Pridd

 

Roedd deunydd organig cyfartalog ar gyfer 50cm uchaf y pridd ym mhob un o’r categorïau caeau fel a ganlyn: - Cae 1 (dwysedd uchel) = 6.4%, Cae 2 (dwysedd canolig) = 6.4%, Cae 3 (dwysedd isel) = 7.5%.

Gweler deunydd organig cyfartalog y pridd ar gyfer pob dyfnder samplu (0-10cm, 10-30cm, 30-50cm) yn Ffigur 1.

Ffigur 1. Cynnwys Deunydd Organig y Pridd (%) ar bob dyfnder samplu o fewn pob math o gae ar bob fferm (nid yw’r data ger y gwrychoedd wedi’i gynnwys yn y ffigyrau).

 

Canlyniadau Stoc Garbon Organig y Pridd

 

Troswyd canlyniadau Deunydd Organig i Ddeunydd Carbon y Pridd (sef prif gyfansoddyn Deunydd Organig y Pridd). Yna, defnyddiwyd y ffigyrau hyn, ynghyd â’r data dwysedd swmp (pwysau pridd sych o fewn cyfaint diffiniedig), er mwyn amcangyfrif stoc garbon y priddoedd a samplwyd, wedi’i fynegi mewn tunelli fesul hectar. Gellir gweld y canlyniadau yn Nhabl 1 isod.

 

Tabl 1. Stoc Garbon Gyfartalog y pridd (t/ha) ar gyfer pob dyfnder samplu o fewn pob math o gae (dangosir y data ar gyfer y cae a’r gwrychoedd ar wahân).

Dyfnder y pridd

Cae 1

Gwrych 1

Cae 2

Gwrych 2

Cae 3

Gwrych 3

0-10cm

29.5

28.9

29.4

29.8

32.1

28.2

10-30cm

24.1

20.0

22.5

22.2

21.2

22.9

30-50cm

16.0

16.3

14.7

16.7

14.5

17.7

Camau nesaf

  • Trefnu’r data samplu pridd ochr yn ochr â’r wybodaeth a ddarparwyd gan y ffermwyr ynglŷn â rheolaeth y tir
  • Cwblhau dadansoddiad ystadegol i ganfod patrymau a thueddiadau yn y data
  • Creu adroddiad prosiect cynhwysfawr yn crynhoi’r prif ganfyddiadau