Diweddariad prosiect Dolygarn

Roedd mesuriadau gorchudd a gofnodwyd ar fferm Dolygarn ar 23 Ionawr 2019 yn dangos gorchudd cyfartalog o 1381kgDM/ha.  Roedd y 10 cae uchaf (sef y padogau y bydd James yn eu defnyddio ar gyfer ŵyna) yn mesur 1450kgDM/ha ar gyfartaledd. Mae’r mesuriad yn is na’r targed delfrydol ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn, ond gallai hyn fod o ganlyniad i’r tywydd yn ystod y cyfnod mesur, h.y. gall tywydd gwlyb a rhewllyd gynrychioli 100-150kgDM.

Gweler graff o orchudd y caeau isod;

 

         

 

Mae dadansoddiad silwair ar fferm Dolygarn yn dangos Egni Metaboladwy (ME) o 10 ac is, ac wrth edrych ar y tabl isod, mae’n llai na gofynion James o 70kg (ar gyfartaledd) ar gyfer mamogiaid beichiog. Mae’r dadansoddiad hwn wedi dangos y bydd angen porthiant ychwanegol o 7 wythnos cyn ŵyna (15 Chwefror) ymlaen.

 

        

Ffynhonnell: AHDB – Feeding the Ewe, 2018

 

Cynllunio at y dyfodol

Gan ddibynnu ar y tywydd ym mis Mawrth, dylid cynllunio i gadw’r mamogiaid oddi ar y borfa nawr hyd ganol mis Mawrth pan fyddai’r mamogiaid cylchred cyntaf a’r mamogiaid sy’n cario gefeilliaid yn dechrau pori (yn ddibynnol ar y tywydd). Bydd yr holl famogiaid sy’n cario ŵyn unigol (< BCS 3), gefeilliaid a thripledi bellach yn cael eu cadw dan do er mwyn gorffwys y caeau a bwydo’r mamogiaid yn ddigonol.

 

Prif negeseuon

  • Peidiwch ag ail bori unrhyw gaeau (yn enwedig y caeau ŵyna) nawr, oni bai bod y gyllideb porthi yn caniatáu. Bydd y glaswellt yn y caeau bellach yn fwy defnyddiol i’r mamogiaid 2-4 wythnos cyn ŵyna gan y bydd yn cynnwys 12ME+ a 20% protein.
  • Rhannwch famogiaid yn ôl canlyniad sganio a chyflwr corff; hyd at 7 wythnos cyn ŵyna, gellir bwydo mamog mewn cyflwr da (BCS 3) ar borthiant cynhaliaeth (1.4kgDM/ha/dydd).
  • Mae gofynion y famog yn cynyddu’n sylweddol yn ystod y 7 wythnos olaf, felly mae defnyddio dadansoddiad silwair yn hanfodol er mwyn penderfynu beth i’w fwydo (ME a phrotein uchaf). Mae gwirio cymeriant y bwyd hefyd yn hanfodol; beth yn union maen nhw’n ei fwyta?
  • Nodwch pa silweiriau sy’n debygol o fwydo orau (ME a phrotein uchel, isel mewn NDF).
  • Pwyswch bob bwrn, a rhowch ddetholiad i’r mamogiaid gan sicrhau bod gofod cyfartal wrth y man bwydo i bob mamog.
  • Monitrwch pa fwrn maen nhw’n ei fwyta gyflymaf.
  • Gwaredwch yr hyn sydd heb ei fwyta a’i fwydo i’r gwartheg (os oes rhai ar gael).
  • Bwydwch ddigon o’r silwair a ddewiswyd am 2 ddiwrnod a chofnodwch faint mae’n ei gymryd mewn gwirionedd i glirio’r byrnau.
  • Derbyniwch ychydig o wastraff (10-20%) i sicrhau’r cymeriant uchaf posibl.
  • Cyfrifwch gymeriant y famog (MJME/Dydd) a (gram protein/dydd)