Diweddariad prosiect Dolygarn - Awst

System ddŵr ar gyfer caeau sydd wedi’u rhannu yn Nolygarn

Un o’r prif heriau wrth ystyried gweithredu system pori cylchdro a rhannu caeau mawr yw’r cyflenwad dŵr. Dyma un o’r ffactorau mwyaf heriol i James Powell yn bendant, wrth iddo ystyried rhannu ei gaeau gyda rhai mor fawr â 60 erw. Un o brif amcanion y prosiect hwn oedd cyfrifo costau ariannol ar gyfer sefydlu system bori cylchdro; prisio’r isadeiledd sydd ei angen yn ogystal â’r adenillion ar fuddsoddiad. Mae James Daniel, ymgynghorydd gyda Precision Grazing, wedi llunio system ddŵr posib yn ogystal â rhaniad sylfaenol ar gyfer 6 o gaeau mwyaf Dolygarn (fel y gwelir isod). Bydd cynnydd pellach yn araf nes bod y buddsoddiadau wedi cael eu gwneud. Mae buddsoddiad o £10,000 wedi cael ei gyfrifo er mwyn gosod y system ddŵr isod.

          

 

Mae’r tabl isod yn dangos lled y Beipen y byddai ei hangen mewn pob cae;

Dŵr

 

 

 

Rhif y beipen

Sylwadau

32mm

25mm

1

Ring Main

1640

 

2

To Pig Tank

200

 

3

30 Acre

 

275

4

Sunny Bank

 

400

5

14 Acres

 

90

6

Dry patch

 

115

7

Banana Field

 

325

8

Gwndwn

Rough

 

105

Cyfanswm (m)

 

1840

1310

 

 

Rhannu caeau Dolygarn

Tua £3,000 yw’r amcan gost ar gyfer buddsoddi mewn isadeiledd er mwyn rhannu 6 o gaeau mwyaf Dolygarn. Heb y buddsoddiad hwn, mae’r 6 cae mwyaf (tua hanner y fferm) yn peryglu allbwn y fferm a’r gallu i ddogni porthiant yn ystod y gaeaf.

Mae’r tabl isod yn dangos hyd y ffens y byddai ei hangen er mwyn rhannu 6 o gaeau mwyaf Dolygarn ar gyfer dechrau system bori cylchdro sylfaenol;

           

 

Ffens

 

 

Rhif y ffens

Sylwadau

Hyd

1

Power Leadout

920

2

30 Acre

400

3

Sunny Bank

420

4

Flat of Hill

430

5

14 Acres

260

6

Dry Patch

270

7

Gwndwn

Rough

300

Cyfanswm (m)

 

3000

 

Y cam nesaf i James fydd penderfynu a yw am fuddsoddi tua £13,000 mewn isadeiledd dŵr a ffensio er mwyn gweithredu system bori cylchdro llawn yn Nolygarn. Amcangyfrifir y byddai’r adenillion ar y buddsoddiad yn talu amdano’i hun yn llawn o fewn 2 flynedd, trwy arbed ar gostau prynu porthiant a phori oddi ar y fferm yn ystod y gaeaf, yn ogystal â’r cynnydd mewn allbynnau.