Diweddariad Prosiect Penybont
Mae'r tri robot ar fferm Penybont wedi eu gosod a bydd y gwartheg yn dechrau godro ar y system newydd yn ystod wythnos gyntaf mis Chwefror. Mae Aled Lewis a'r tîm yn brysur yn rhoi'r gwartheg drwy'r robotiaid, gyda gwartheg yn cyfarwyddo a hŵy yn dda. Mae Grasstec wedi mapio'r fferm gan ddefnyddio GPS ac wedi llunio tri opsiwn ar gyfer sefydlu'r llwyfan pori ar gyfer pori gyda robotiaid. Mae Opsiynau 1 a 2 yn dangos llwyfan pori ABC, un wedi'i rannu'n padogau, a'r llall ar gyfer pori wedi'i rannu. Mae system ABC wedi'i chynllunio i annog gwartheg i symud drwy'r robot bob 8 awr er mwyn godro dair gwaith y dydd. Mae Opsiwn 3 yn system AB a gynlluniwyd i annog godro ddwywaith y dydd gyda phob bloc pori yn cael ei ddyrannu am 12 awr. Rhaid i Aled a'r tîm nawr benderfynu pa un fyddai'n fwyaf addas ar gyfer y fferm.