Diweddariad Terfynol ar Brosiect Ein Ffermydd – Straen gwres ac amaethgoedwigaeth er lles buchod llaeth

Prif ganlyniadau

  • Mae straen gwres yn effeithio ar wartheg ar dymereddau is nag y byddai ffermwyr yn ei ddisgwyl, ar 21 gradd ac uwch. Mae monitro eu hymddygiad ac arwyddion ffisiolegol yn ffyrdd effeithiol o nodi hyn.
  • Gall systemau pori heb gysgod digonol arwain at golledion o hyd at 180 litr fesul buwch o ran cynhyrchiant dros yr haf. Mae effaith y colledion o ran cynhyrchiant llaeth yn unig yn £77. Byddai’r effaith yn dyblu wrth ystyried yr effaith ar ffrwythlondeb, cloffni a gwartheg sych.
  • Mae coed yn gallu darparu cysgod da iawn a lleihau straen gwres. Cyngor ar gyfer lliniaru:
    • Mae sicrhau bod ardaloedd casglu, parlyrau ac iardiau sefyll yn cael eu cysgodi yn hanfodol.
    • Ystyried cadw gwartheg dan do a phorthi ‘byffer’ yn ystod adegau poethaf y dydd a phori yn y bore a gyda’r nos, ynghyd â darparu digon o ddŵr.
    • Roedd canlyniadau cychwynnol o synwyryddion tymheredd y rwmen yn dangos ffordd well o asesu straen gwres na synwyryddion Mynegai Llwyth Gwres gwartheg Llaeth (DHLI) allanol. 

Cefndir

Mae straen gwres mewn gwartheg llaeth yn broblem gynyddol ac mae’n achosi gostyngiad sylweddol mewn cynhyrchiant, proffidioldeb a chynaliadwyedd, yn ogystal â bod yn broblem sylweddol o safbwynt lles. Yn hanesyddol, mae llawer o waith ymchwil ar straen gwres wedi cael ei gynnal gyda gwartheg dan do mewn ardaloedd poeth (e.e. taleithiau deheuol UDA), gyda llai o waith ymchwil yn cael ei wneud ar wartheg sy’n pori mewn amodau tymherus fel y gwelir yng Nghymru. Nod y prosiect hwn oedd asesu peryglon straen gwres dan amodau pori gyda 450 o wartheg bridiau croes, sy’n lloia yn yr hydref, yn pori yn yr haf, ac yn cynhyrchu 8100 litr fesul buwch bob blwyddyn, ac i asesu gwerth coed o ran darparu cysgod ar gyfer anifeiliaid sy’n pori. 

Diben y gwaith

  1. Asesu lefel straen gwres ar fferm laeth nodweddiadol yng Nghymru
  2. Meintoli colledion posibl o ran cynhyrchiant llaeth ac effaith ariannol yn deillio o straen gwres
  3. Asesu effaith a gwerth cysgod o ganlyniad i blannu coed mewn caeau  

Yr hyn a wnaed:  

  • Gosodwyd dwy ddyfais monitro straen gwres yn y siediau gwartheg, dwy yng nghysgod coeden ar y llwyfan bori, a dwy yn yr heulwen ar hyd llinell ffens. Roedd y rhain yn mesur lleithder, tymheredd a llwyth gwres pelydrol bob 20 munud gan ddefnyddio rhwydwaith LoRaWAN. https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/sites/farmingconnect/files/documents/Llyfryn%20Saesneg%20Lorawan%20A5_1.pdf
  • Gan weithio gyda Dr Tom Chamberlain, cyfrifwyd mynegai straen gwres safonol ar gyfer y cyfnod rhwng 5 Mai a 1 Hydref 2025 (150 diwrnod).
    • Cyfrifwyd Mynegai Tymheredd a Lleithder (THI) ar gyfer amodau dan do gan ddefnyddio fformwla safonol o’r UDA.
    • Cyfrifwyd Mynegai Llwyth Gwres Gwartheg Llaeth (DHLI) ar gyfer amodau pori gan ddefnyddio fformwla Queensland, Awstralia
  • Cafodd effaith straen gwres ar gynhyrchiant llaeth ei gyfrifo o ffigurau mynegai gwres a chafodd cost colledion llaeth eu meintoli fesul buwch ac ar gyfer y fuches
  • Cafodd pob buwch folws rwmen Smaxtec sy’n cofnodi tymheredd y rwmen a data mesurydd cyflymu bob 10 munud
  • Cafodd data tymheredd y rwmen gan y synhwyrydd Smaxtec hefyd ei asesu ar ffurf cyfartaledd bob awr ar draws 100 o’r gwartheg a ddewiswyd (gan gywiro ar gyfer effeithiau yfed). 

Canlyniadau:  

Gwelwyd lefelau uchel o straen gwres ar y fferm dan amodau pori (Ffigur 1). Dros gyfnod yr haf, sef 150 diwrnod, cofnodwyd straen gwres ar 30% o’r dyddiau hynny ar y synhwyrydd yn yr heulwen, a dim ond 4% o’r dyddiau ar y synhwyrydd o dan gysgod coeden. 


Ffigur 1. Achosion o straen gwres dan amodau pori, a aseswyd gan sgôr Mynegai Llwyth Gwres gwartheg Llaeth (DHLI)

  • Pan fo gwartheg yn cael eu cadw dan do, amcangyfrifwyd y byddai’r colledion posibl o ran cynnyrch llaeth yn 50 litr y fuwch dros 150 diwrnod yn ystod yr haf (Tabl 1). Dan amodau pori heb gysgod, megis padogau yn yr heulwen, roedd y colledion llaeth yn gyfwerth â 179 litr y fuwch, ac mewn ardaloedd gyda chysgod, roedd y colledion yn 13 litr fesul y fuwch yn unig


Tabl 1. Rhagolygon o’r colledion cynnyrch llaeth a’r effaith ariannol (ar bris llaeth cyfartalog o 43.12 ceiniog y litr wrth giât y fferm) 

 

Kg fesul buwch

Colledion ariannol fesul buwch

Colledion ariannol ar gyfer y fuches

Sied y De

49.8

 £                         21 

 £              9,636 

Sied y Gogledd

51.6

 £                         22 

 £              9,985 

Cysgod coed

12.6

 £                           5 

 £              2,438 

Heulwen

179.2

 £                         77 

 £            34,675 

Ar gyfer buches o 450 o wartheg, rhagwelir y byddai cyfanswm colledion llaeth werth £34,600 (wedi’i gyfrifo ar bris o 43.12 c fesul litr o laeth) ar gyfer gwartheg yn yr heulwen, ac mae’r ffigwr hwn yn dyblu wrth ystyried effaith straen gwres ar iechyd a lles y fuwch, o’i gymharu â £2,438 lle’r oedd cysgod ar gael. 

Roedd dadansoddiad o ddata tymheredd o folysau rwmen yn dangos gwelliannau technolegol posibl o ran dull o asesu straen gwres sy’n canolbwyntio ar y fuwch, gan fod y data yn dangos newidiadau yn nhymheredd y rwmen sy’n debyg i’r patrymau straen gwres (Ffigur 1 a ffigur 2). 

 

 Ffigur 2. Tymheredd reticwlwm (canolrif o gant o anifeiliaid) dros gyfnod yr haf.
Sut i’w roi ar waith ar eich fferm

  1.  Ystyriwch straen gwres yn risg gynyddol i’ch busnes
  2. Mae darparu cysgod yn ffactor lliniaru sylweddol
  3. Sicrhewch gyflenwad dŵr digonol
  4. Gofalwch am unrhyw goed sydd ar gael, a defnyddiwch nhw. Plannwch a gwarchodwch goed ar gymaint o ffiniau caeau â phosibl.
  5. Sicrhewch fod cysgod uwchben iardiau casglu ac ardaloedd sefyll ac ati.
  6. Ystyriwch gadw gwartheg dan do rhwng hanner dydd tan ar ôl godro’r prynhawn os mai’r ciwbiclau sy’n cynnig y cysgod gorau. Caniatewch y gwartheg i bori yn ystod cyfnodau oerach yn ystod y dydd, a dros nos.
  7. Ystyriwch osod ffaniau mewn ardaloedd lle mae’r pwysau’n sylweddol, megis iardiau casglu, y parlwr ac ardaloedd sefyll. Gall chwistrellu dŵr syml ategu a chynyddu effaith y ffaniau.      
  8. Ystyriwch ddefnyddio ychwanegion yn y porthiant i gefnogi gweithgarwch y rwmen a allai gael ei effeithio yn ystod cyfnodau o straen gwres.      

Cysylltwch â timtechnegolcff@mentera.cymru os hoffech dderbyn copi o’r adroddiad terfynol llawn ar gyfer y prosiect hwn.