Diweddariad terfynol arbrawf india-corn ar fferm Gwern y Go
Prif ganlyniadau
- Roedd ychwanegu cynnyrch QLF L-CBF BOOSTtm a Corteva Instinct at gnwd india-corn yn gysylltiedig â chynnydd o 2.5 tunnell/hectar mewn cynhyrchiant
- Roedd yr elw ar fuddsoddiad o ganlyniad i ychwanegu’r cynhyrchion yn 170%
- Gall mapiau gwres o’r peiriant cynaeafu porthiant helpu i wneud y defnydd gorau o’r cynllun rheoli maetholion at y dyfodol
- Tyfodd yr amrywiaeth india-corn Portabello lawer mwy o dunelli fesul hectar nag amrywiaethau eraill ar y fferm (Sylwer y gall y gwahaniaeth rhwng y caeau fod wedi effeithio ar y canlyniadau)
Cefndir
Tyfwyd cyfanswm o 40 hectar (98 erw) o india-corn ar fferm Gwern y Go yn 2025, y mwyafrif yn fath o’r enw “Pioneer 7179”, 12 erw o fath “Portabello”, a 12 erw o fath “Debalto”, gyda’r holl gnwd yn cael ei gynaeafu a’i werthu i waith treulio lleol.
Roedd yr arbrawf ar fferm Gwern y Go yn cymharu a fyddai “L-CBF BOOSTtm”, sef gwrtaith carbon hylifol sy’n bwydo microbau yn y pridd ac yn cynyddu faint o faetholion allweddol sydd ar gael, ac “Instinct”, sef cynnyrch sefydlogi nitrogen a phroses nitreiddio sy’n cadw nitrogen yn y pridd am gyfnod hirach, yn cynyddu cynnyrch posibl y cnwd. Mae manteision posibl eraill yn cynnwys lleihau colledion nitrogen drwy ddŵr ac ocsid nitrus i’r aer.
Diben y gwaith
- Canfod a yw ychwanegu cynnyrch QLF L-CBF BOOSTtm a Corteva Instinct yn cynyddu cyfanswm cynnyrch y cnwd
- Cyfrifo’r elw ar fuddsoddiad o ganlyniad i ychwanegu’r cynhyrchion
Yr hyn a wnaed
Casglwyd samplau o bob un o’r caeau gan yr agronomegydd, Juliet Anderson, gan ddefnyddio prawf sbectrwm eang ar gyfer cynllunio rheoli maetholion. Cafodd y cynhyrchion “Instinct” a QLF Boost eu gwasgaru ar bob un o’r caeau heblaw am ddau, lle cafodd un ei adael heb unrhyw gynnyrch, a’i ystyried yn llain reoli, a chafodd y llall ei rannu’n ddwy ran i ddarparu llain reoli a llain gyda thriniaeth.
- Gwasgarwyd cynnyrch QLF boost yn ystod chwistrellu cyn ymddangosiad y cnwd ar gyfradd o 10L/ha
- Gwasgarwyd cynnyrch Instinct gan Corteva wrth chwistrellu ar ôl ymddangosiad y cnwd ar gyfradd o 30L/ha
- Felly, nid oedd angen gwasgaru mwy na gwario mwy i wasgaru’r ddau gynnyrch yn ystod yr arbrawf
Roedd canlyniadau’r arbrawf yn seiliedig ar gynnyrch y cnwd wrth gynaeafu, gyda’r ôl-gerbydau a ddefnyddiwyd i gludo’r cnydau’n cael eu pwyso ar glorian a samplau deunydd sych yn cael eu casglu wrth gyrraedd y gwaith treulio.
Canlyniadau
Tabl 1. Cyfanswm y tunelli a’r tunelli a dyfwyd fesul hectar yn ystod yr arbrawf
| Heb driniaeth | Gyda thriniaeth | |
| Cyfanswm tunelli | 85,530 | 94,280 |
| Tunnelli /Ha | 27.2 | 29.9 |
- Cafwyd cynnydd o 2.476 tunnell/ha mewn pwysau o india-corn ffres a dyfwyd fesul hectar ar y caeau lle cafodd y cynhyrchion eu defnyddio
- Arweiniodd hyn at elw ar fuddsoddiad o 170% i’r ffermwr yn seiliedig ar y £/tunnell a dderbyniwyd gan fferm Gwern y Go am eu cnydau india-corn yn 2025 heb gynnwys cost y cynnyrch.
Ffigur 1. Y cnwd india-corn yng nghanol mis Awst 2025 - gyda thriniaeth ar y chwith a’r ardal reoli ar y dde
Ffigur 2. Mapiau gwres cynnyrch o’r cae arbrofol. “T” yw ardal y driniaeth a “C” yw’r ardal reoli
Tabl 2. Cynnyrch fesul hectar o’r amrywiaethau india-corn gwahanol a dyfwyd yn 2025
Cae | Amrywiaeth | Tunnell/ha |
1 | Pioneer P7179 | 27.48 |
2 | Pioneer P7179 | 45.44 |
3 | Pioneer P7179 | 38.15 |
4 | Pioneer P7179 | 37.69 |
5 | KWS Debalto | 23.43 |
6 | KWS Portabello | 58.81 |
Tyfodd yr amrywiaeth india-corn Portabello lawer fwy o dunelli na’r amrywiaethau eraill ar y fferm yn 2025, ond gallai amodau mwy ffafriol y caeau fod yn brif ffactor a effeithiodd ar y canlyniadau. Mae mwy o gyfleoedd yn y dyfodol i wneud mwy o waith ar fferm Gwern y Go i ganfod pa amrywiaeth sy’n gweddu orau i’r math o bridd ar y fferm, yr hinsawdd a’r amgylchedd.