Diweddariad terfynol – Defnyddio triniaethau lladd llyngyr yn gynaliadwy

Canlyniadau allweddol

  • Dosio pob oen ar sail yr anifail trymaf yw'r dull lleiaf cost-effeithiol.
  • Roedd rhannu ŵyn yn dri grŵp pwysau yn lleihau'r defnydd o driniaethau lladd llyngyr 22–24%, gan arbed £200–£240 ar draws tymor 2025.
  • Arbedodd defnyddio gwn dosio newid awtomatig 8–9% ychwanegol (tua £85–£89) o’i gymharu â'r dull tri grŵp.
  • Mae cywirdeb pwyso yn hanfodol – gall pwysau anghywir arwain at risg o roi dos annigonol ac ymwrthedd.
  • Mae gynnau sy’n newid yn awtomatig yn cynnig effeithlonrwydd o ran llafur, ond mae angen mwy o fuddsoddiad a gwaith cynnal a chadw parhaus.

Cefndir

Mae canllawiau SCOPS yn argymell trin defaid ar sail pwysau'r anifail trymaf mewn grŵp er mwyn osgoi rhoi dos annigonol ac arafu datblygiad ymwrthedd. Fodd bynnag, gall amrywiad mawr mewn pwysau - yn enwedig cyn diddyfnu - arwain at orddosio sylweddol a chostau diangen. Treialodd Tan y Graig strategaethau dosio amgen yn 2025 i bennu manteision ymarferol ac economaidd i'w system.

Diben y gwaith

  • Er mai pwrpas cychwynnol y prosiect oedd rhoi strategaeth Triniaeth Ddewisol wedi'i Thargedu (TST) ar waith, newidiodd y prosiect ei drywydd i gymharu tri dull o roi triniaethau lladd llyngyr:  
  1. Dosio ar sail yr oen trymaf yn y grŵp
  2. Rhannu’r anifeiliaid yn dri is-grŵp ar sail eu pwysau
  3. Defyddio gwn dosio sy’n newid yn awtomatig
  • Meintioli gwahaniaethau o ran cost a nodi manteision a chyfyngiadau ymarferol pob dull.
  • Cefnogi gwell defnydd o driniaethau lladd llyngyr wrth leihau’r defnydd o feddyginiaethau diangen a’r gost gysylltiedig. .

Canlyniadau

  • Dosio tri is-grŵp a ddarparodd yr arbedion cost mwyaf o’i gymharu â’r buddsoddiad - cywir, isel o ran technoleg, a hygyrch i'r rhan fwyaf o systemau.
  • Gwnaeth gwn dosio sy’n newid yn awtomatig wella cywirdeb a chyflymder ond roedd angen:  
    • Cost ymlaen llaw o tua £895+
    • Graddnodi a gwasanaethu rheolaidd a chydnawsedd o ran meddalwedd  
    • Clorian gywir a dibynadwy
  • Byddai technoleg sy’n newid yn awtomatig yn cymryd 4-5 mlynedd i'w thalu'n ôl yn Tan y Graig yn seiliedig ar arbedion ar driniaethau lladd llyngyr yn unig.
  • Roedd perygl y byddai dosio’r grŵp llawn yn achosi orddosio’n sylweddol oherwydd amrywiad eang o ran pwysau (gwahaniaethau hyd at 20kg mewn rhai sesiynau). 

Sut i’w roi ar waith ar eich fferm chi

  1. Pwyswch anifeiliaid yn rheolaidd a sicrhau bod y glorian yn cael ei gwirio am gywirdeb ar ddechrau, yng nghanol ac ar ddiwedd pob sesiwn.
  2. Rhannwch ŵyn yn o leiaf dri grŵp pwysau ar ôl diddyfnu i wella cywirdeb dosio a rheoli pori.
  3. Dosiwch bob grŵp ar sail yr anifail trymaf o fewn yr is-grŵp hwnnw, nid y ddiadell gyfan.
  4. Ystyriwch gynnau dosio sy’n newid yn awtomatig os yw arbed llafur/amser yn flaenoriaeth ac mae maint y ddiadell yn cyfiawnhau'r buddsoddiad.
  5. Cofnodwch bwysau a thriniaethau yn electronig (EID + meddalwedd) i fonitro DLWG a mireinio penderfyniadau rheoli.

Cysylltwch â timtechnegolcff@mentera.cymru os hoffech gael copi o'r adroddiad llawn.