Diweddariad Terfynol Ein Ffermydd
Prif ganlyniadau
- Roedd gwybodaeth arbenigol am swyddogaeth a pherfformiad ymarferol amrywiaeth o ddyluniadau adeiladau’n ased sylweddol, gan arbed amser ac atal camgymeriadau costus yn y broses gynllunio.
- Mae dylunio adeiladau’n cynnwys nifer o gyfaddawdau (e.e. ariannol, lle, mynediad at borthiant, cysur). Roedd persbectif allanol yn werthfawr iawn o ran sicrhau cydbwysedd y cyfaddawdau hyn er mwyn blaenoriaethu iechyd hirdymor y gwartheg ac effeithlonrwydd gweithredol.
- Arweiniodd cyfarwyddyd rhagweithiol Tom at benderfyniadau’n seiliedig ar ddata a lwyddodd i wella llesiant gwartheg yn y siediau’n sylweddol, gan wella iechyd y fuches a phosibilrwydd o wella cynhyrchiant y fferm.
Cefndir
Mae Frances a Deryl Jones yn y broses o adolygu isadeiledd y fferm, gyda’r nod o wella iechyd, lles a chynhyrchiant y gwartheg, a chynyddu effeithlonrwydd y busnes at y dyfodol. Ar adeg yr ymweliad, roedd y sylfeini yn eu lle ar gyfer adeilad ciwbicl newydd i’r fuches laeth, ac roedd trafodaethau ynghylch cynlluniau i wella siediau ar gyfer gwartheg sych, cyfleusterau trin a buddsoddi mewn parlwr godro newydd. Gofynnodd y teulu Jones i Tom Greenham o gwmni Advance Milking am gyngor ynghylch y pedwar maes allweddol canlynol:
- Gwneud y gorau o’r sied newydd ar gyfer gwartheg godro.
- Addasu siediau presennol ar gyfer gwartheg sych.
- Dyluniad system drin newydd.
- Dyluniad system odro newydd.
Diben y gwaith
- Sicrhau bod y siediau newydd ar gyfer gwartheg godro a gwartheg sych yn addas er mwyn gwella iechyd, lles a chynhyrchiant y gwartheg.
- Creu system drin anifeiliaid sy’n sicrhau’r iechyd, lles a chynhyrchiant gorau posibl trwy hwyluso mwy o ymyriadau angenrheidiol er mwyn cynyddu cyflymder, rhwyddineb a diogelwch gweithdrefnau rheoli.
- Creu opsiynau ar gyfer cynllunio cyfleuster godro newydd i gyflymu’r broses odro gan hefyd integreiddio’n llawn gyda’r adeiladau a’r system drin newydd.
Yr hyn a wnaed
Cafodd Tom Greenham drafodaeth ar-lein gyda Deryl a Frances i sefydlu cefndir y prosiect ynghyd â gosod blaenoriaethau ac amcanion ar gyfer y gwelliannau isadeiledd.
Yn dilyn yr ymgynghoriad cychwynnol, bu Tom i ymweld â fferm Rhyd y Gofaint i gael mwy o wybodaeth am y fuches, yr isadeiledd presennol a photensial y fferm ei hun. Roedd y sesiwn hanner diwrnod hwn yn cynnwys asesiad o’r ystod o wahanol feintiau o fewn y fuches, darlunio gosodiad yr isadeiledd presennol a nodi cyfleoedd ar gyfer newid. Roedd hyn yn cynnwys cyfraniadau gan Deryl a Frances ar eu syniadau arfaethedig.
Ar ôl yr ymweliad, llwyddodd Tom i lunio cynlluniau ar gyfer gwahanol opsiynau o ran gosodiad y system drin anifeiliaid, y parlwr godro a’r adeiladau, gan fapio perthynas y cyfleusterau hyn gyda’i gilydd, gyda’r nod o wneud defnydd effeithlon o’r lle sydd ar gael. Roedd cynlluniau hefyd yn cynnwys argymhellion ar gyfer camau olaf y sied ar gyfer gwartheg godro sydd eisoes ar waith.
Canlyniadau
Dyluniwyd system drin i gyflawni’r tair blaenoriaeth a nodwyd yn ystod yr ymweliad:
- Capasiti ar gyfer trin ugain o anifeiliaid ar yr un pryd.
- System a fyddai’n barod i’w ddefnyddio ar unwaith gyda’r isadeiledd presennol
- Hawdd i’w integreiddio gyda isadeiledd yn y dyfodol (cyfleuster godro newydd ac ati).
Dyluniwyd y cyfleuster yn seiliedig ar giwbiclau AI lle mae’r gwartheg yn mynd i mewn o’r cefn ac yn ymadael o’r blaen, gan ganiatáu ar gyfer llif gwartheg effeithlon, ynghyd â’r gallu i’w trin yn ddiogel. Mae’r rhan fwyaf o’r parwydydd yn cynnwys giatiau siglo er mwyn gallu defnyddio’r system mewn modd hyblyg.
Ffigur 1. Cynllun o ddyluniad y system drin anifeiliaid.
Cafodd y parlwr godro ei gynllunio gyda sawl opsiwn, gyda phob un ohonynt yn defnyddio opsiwn ymadael yn gyflym ar ôl godro er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r lle sydd ar gael. Yn wreiddiol, roedd Frances a Deryl wedi meddwl gosod parlwr rotari bach i gyd-fynd ag ôl troed presennol yr adeilad, ond yn dilyn trafodaeth, penderfynwyd na fyddai gosod parlwr rotari yn addas ar gyfer lefelau staffio Rhyd y Gofaint, gan beryglu lefelau iechyd ardderchog y fuches hon. Mae gwahanol opsiynau gosod yn cynnig manteision ac anfanteision, ond mae pob un ohonynt yn debygol o gynnig gwelliant sylweddol i’r cyfleuster godro presennol, gan gyflawni’r nod o leihau’r amser godro.
Ffigur 2. Enghraifft o un opsiwn ar gyfer cyfleuster godro a drafodwyd
Roedd Deryl a Frances eisiau sied ar gyfer gwartheg sych a fyddai’n darparu lle i hyd at 50 o wartheg, gan gynnwys llwybr ar gyfer peiriannau, heb effeithio’n negyddol ar amgylchedd y gwartheg. Fodd bynnag, mae’r opsiwn sy’n darparu’r lefelau iechyd a lles uchaf ar gyfer y gwartheg yn darparu lle i 44 o wartheg yn unig. Ni fydd yr opsiwn sy’n cyrraedd y nifer targed o giwbiclau ar gyfer 50 o wartheg yn cynnig digon o le i fwydo, a byddai llai o le i symud drwy’r sied, gan ostwng lefelau iechyd a chynhyrchiant y gwartheg. Gadawyd y penderfyniad hwn gyda Deryl a Frances i’w ystyried ymhellach.
Gwnaed argymhellion ynghylch mireinio’r sied newydd ar gyfer gwartheg godro. Er mwyn osgoi gor-stocio wrth y porthiant, cyngor Advance Milking oedd sicrhau bod modd mynd at rai o’r cafnau o’r ddwy ochr. Argymhellwyd hefyd y dylid addasu cynlluniau ar gyfer cladin ar y wal ar yr ochr er mwyn gwella llif aer, gan liniaru ansawdd aer gwael o ganlyniad i loriau delltog dros y man casglu slyri. Nodwyd hefyd fod wyneb y llawr delltog yn fras iawn, gan arwain at bosibilrwydd o wisgo’r carnau’n sylweddol. Cafodd cyngor i liniaru hyn ei gynnwys yn yr adroddiad, ynghyd â strategaethau rheoli slyri. Gan ystyried y meysydd hyn, dylai’r adeilad newydd ar gyfer y gwartheg godro weithio’n dda o safbwynt iechyd a chynhyrchiant.
Sut i’w roi ar waith ar eich fferm:
Cofiwch nad yw adeiladu cyfleusterau gwartheg da yn costio mwy o amser nac arian nag adeiladu cyfleusterau gwael, dim ond mwy o feddwl!
Cynlluniwch ymlaen llaw, gan ofyn llawer o gwestiynau. Gofynnwch i arbenigwyr, siaradwch gyda ffrindiau sy’n hapus gyda’u prosiect, a holwch ffrindiau nad ydynt mor hapus – byddwch yn dysgu rhywbeth defnyddiol gan bob un ohonynt!
Peidiwch â bod ofn talu am gyngor annibynnol, arbenigol – bydd derbyn mewnbwn gan rywun sydd wedi gweithio ar brosiectau tebyg ar lawer o ffermydd eraill yn fuddsoddiad a fydd yn talu ar ei ganfed yn sydyn iawn.
Byddwch yn glir ynghylch eich amcanion a’ch cyfyngiadau. Mae angen i’r prosiect weddu â’ch blaenoriaethau CHI – ni fydd rhywbeth sy’n addas i rywun arall yn addas i chi o reidrwydd.
Ystyriwch sut y bydd cynlluniau’r dyfodol yn cyd-fynd gyda’r prosiect presennol - sicrhewch eich bod yn gadael opsiwn i integreiddio cynlluniau presennol gyda systemau isadeiledd neu reoli ychwanegol.