Diweddariad Terfynol: Gwerthuso effaith biosymbylydd gwymon ar gynhyrchiant glaswellt

Prif ganlyniadau:

  • Cafwyd y cydbwysedd gorau o ran maetholion drwy ddefnyddio 30% yn llai o wrtaith ynghyd â gwasgaru Câr-y-Môr ddwywaith
  • Gallai’r tywydd poeth a sych ynghyd â phori fod wedi effeithio ar y canlyniadau. Roedd y cysondeb a welwyd yn y driniaeth o leihau defnydd gwrtaith 30% yn awgrymu y gallai CYM hybu swyddogaeth y gwreiddiau neu gymeriant calsiwm dan bwysau, gan liniaru effeithiau’n ymwneud â’r tywydd yn fwy effeithiol

Cefndir

Bu Dylan Roberts yn cymryd rhan yn yr arbrawf gan ddefnyddio’r biosymbylydd Câr-y-Môr (CYM) sy’n seiliedig ar wymon, gan weithio ar y cyd â Cyswllt Ffermio, WWF a Will Marris o gwmni Terrafarmer. Mae’r defnydd o fiogynhyrchion yn seiliedig ar wymon wedi bod ar gynnydd mewn systemau cynhyrchu cnydau o ganlyniad i’w cyfansoddion bioweithredol sy’n cynnwys nodweddion symbylu planhigion, gan annog cynnydd o ran twf a chynnyrch planhigion.

Diben y gwaith

Pennu a allai mewnbynnau biolegol helpu i leihau gofynion gwrtaith heb effeithio ar gynnyrch, gan hefyd wella paramedrau iechyd y pridd, megis bioleg y pridd a deunydd organig.

Yr hyn a wnaed

Dechreuodd yr arbrawf ar ddiwedd mis Ebrill 2025, gyda phedair llain mewn cae o laswellt a fwriadwyd ar gyfer pori, ond oherwydd y tywydd sych, cymerwyd toriadau silwair hefyd:

  • Rheoli (A) - Arferion safonol y fferm
  • Triniaeth (B) – Dim gwrtaith
  • Triniaeth (C) – gostyngiad o 50% mewn gwrtaith
  • Triniaeth (D) – gostyngiad o 30% mewn gwrtaith

Gwasgarwyd y biosymbylydd hylifol ar gyfradd o 7.5 litr fesul hectar ddwy waith dros gyfnod yr arbrawf.
 

 

Ffigur 0. Lleiniau arbrofi ar fferm Llwyngwair

Cafodd pob llain ei thagio gan ddefnyddio system leoli fyd-eang (GPS) i sicrhau bod modd ailadrodd y samplau, a oedd yn cynnwys asesiadau o strwythur y pridd, bioleg y pridd, cynnyrch y cnwd a gwerth maethol yn ystod yr arbrawf drwy gwblhau’r canlynol:

  • Dadansoddiadau o’r pridd (profion Solvita)
  • Gwerthusiad Gweledol o Strwythur y Pridd (VESS)
  • Dadansoddiad o werth dail a bwyd
  • Asesiadau cynnyrch yn seiliedig ar gwadradau

Canlyniadau

Canlyniadau Samplau Nitrogen yn y dail

Mae nitrogen yn y dail yn adnodd defnyddiol ar gyfer asesu effeithlonrwydd y defnydd o nitrogen ac i ddeall effaith cyfraddau nitrogen a chynhyrchion biolegol ar dwf ac iechyd cnydau. 


Canlyniadau Nitrogen 1 11/07/25 a chanlyniadau Nitrogen 2 26/08/25


Mae’r canlyniadau yn ffigur 1 yn dangos nitrogen cyson yn y dail ar draws pob un o’r lleiniau, gan gynnwys y lleiniau gyda gostyngiad mewn nitrogen neu ddim nitrogen ychwanegol. Gallai hyn fod yn gysylltiedig â gwasgaru CYM gan helpu i gynnal lefelau nitrogen yn y dail ar gyfraddau gwrtaith is.  

Canlyniadau samplau magnesiwm y dail

Mae Mg yn bwysig er mwyn atal diffyg maetholion a hybu twf.
 

 

Y llain gydag arferion fferm safonol (SFP) a gynhyrchodd y lefelau egni metaboladwy uchaf ar gyfartaledd, gan ddangos bod y strategaeth bresennol ar gyfer gwasgaru gwrtaith yn gweithio’n dda a bod CYM yn helpu i gynnal lefelau egni metaboladwy. Mae’r canlyniadau hyn yn galonogol gan eu bod yn gallu rhoi hyder i ffermwr bod gostwng cyfraddau gwrtaith 30% a gwasgaru CYM ddwywaith yn gallu cynnal ansawdd y porthiant ac allbynnau. Mae’r llain gyda 30% yn llai o wrtaith wedi cynhyrchu canlyniadau tebyg i’r lleiniau SFP ar gyfartaledd. 

Canlyniadau samplau siwgr y porthiant

 

Roedd canlyniadau pob un o’r lleiniau lle gwasgarwyd gwrtaith yn uwch na 80g/kg, felly roeddent yn cynnwys lefelau da o siwgr ar gyfer pori neu gynaeafu. Gwelwyd gostyngiad dramatig o 33g/kg o ran cynnwys siwgr ar y llain lle na roddwyd unrhyw wrtaith.

Gwelwyd cynnydd mewn Proteinau Crai cyffredinol o sampl 1 i sampl 2, er gwaetha’r gostyngiad mewn gwrtaith. Yr unig ostyngiad bach a welwyd oedd ar y llain lle defnyddiwyd 30% yn llai o wrtaith, ond roedd hyn o ddechrau uchel, sef 158, gan ostwng i 151. Mae hyn yn dangos bos CYM yn helpu i gynhyrchu porthiant o ansawdd da gyda lefelau da o brotein crai. Unwaith eto, llwyddodd y llain lle defnyddiwyd 30% yn llai o wrtaith i gynhyrchu’r canlyniadau mwyaf cyson.

Canlyniadau samplau pridd gwaelodlin

Roedd y samplau pridd a gasglwyd o’r caeau arbrofi’n nodi bod iechyd y priddoedd yn dda iawn yn seiliedig ar ddangosyddion iechyd allweddol y pridd megis deunydd organig, dwysedd, biomas microbaidd a statws maetholion.

Gweler crynodeb o’r canfyddiadau yn y tabl isod.
 

Maetholyn

Ystod

Dehongliad

Ffosfforws (P)

65-123ppm

Uchel iawn. Mae’r rhan fwyaf o brofion yn ystyried unrhyw beth dros ~45ppm yn uchel. Ceir cronfa sylweddol o P gweddilliol.

Potasiwm (K)

155-499ppm

Uchel iawn. Mae’r lefelau’n llawer uwch na’r angen ar gyfer y rhan fwyaf o gnydau. Roedd llain DR 1B (499ppm) yn eithriadol o uchel. Mae hyn yn debygol o fod o ganlyniad i wasgaru slyri dro ar ôl tro. Cadwch lygad ar  hyn gan fod gormodedd o K yn gallu achosi strwythur pridd gwael a chloi maetholion.

Calsiwm (Ca)

1538 – 2023ppm

Digonol/Uchel. Ni nodwyd unrhyw ddiffygion.

Magnesiwm (Mg)

209-499ppm

Digonol/Uchel. Ni nodwyd unrhyw ddiffygion. Cadwch lygad i sicrhau nad yw’r Mg yn fwy na’r calsiwm gan y bydd hynny’n achosi cymhareb anghytbwys, gan arwain at broblemau gyda strwythur y pridd.

Isafswm Nitrogen posibl

107-154 kg N/ha

Cronfa Nitrogen uchel. Mae hyn yn dangos potensial y pridd i ryddhau N o’i ddeunydd organig, sy’n gallu gwrthbwyso’r angen ar gyfer gwrtaith N synthetig yn sylweddol.

Deunydd organig (%)

7.8% - 12.7%

Ardderchog. Mae hwn yn uchel iawn, gan awgrymu capasiti gwych i ddal dŵr, strwythur da i’r pridd, a chronfa fawr o faetholion sy’n cael eu rhyddhau’n araf.

Cymhareb C:N

9.6 – 10.0

Delfrydol. Mae’r gymhareb gul hon yn dangos gweithgarwch microbaidd iach a chylchu maetholion yn effeithlon. Mae Nitrogen sydd wedi’i gloi mewn deunydd organig yn cael ei ryddhau’n effeithiol, gan leihau’r risg o gloi maetholion.

Biomas Microbaidd a Resbiradaeth

Uchel iawn

Mae gwerthoedd uchel (e.e. Biomas Microbaidd hyd at 177mg/kg) un cadarnhau bod y pridd yn weithredol o safbwynt biolegol, sy’n hanfodol ar gyfer argaeledd maetholion.

Dwysedd 

0.6-0.8

Mae’r dwysedd yn isel (0.6400.73 g/cm2), gan olygu nad oes bron i ddim problemau cywasgiad, a digonedd o le ar gyfer aer a dŵr i’r gwreiddiau.

Sut i’w roi ar waith ar eich fferm

  • Mae asesu sylfaen iechyd y pridd ar y dechrau’n hanfodol.
  • Gan gymryd bod iechyd y pridd yn dda, byddai gostyngiad o 10-20% mewn gwrtaith yn fan cychwyn da.
  • Cynnal profion pridd yn ystod y tymor ar ôl gwasgaru’r biosymbylydd yn y lle cyntaf i wirio yn erbyn y sylfaen er mwyn gwirio swyddogaeth y pridd.
  • Defnyddio ar lain fach i ddechrau i asesu effeithiolrwydd cyn symyd ymlaen at brofi ar lain fwy.

Cysyllwch â timtechnegolcff@menterabusnes.co.uk os hoffech dderbyn copi o’r adroddiad terfynol llawn ar gyfer y prosiect hwn.